Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Penderfyniadau Tribiwnlys Cyflogaeth - adolygiadau ac apeliadau

O dan rai amgylchiadau penodol gallwch herio dyfarniad, penderfyniad, cyfarwyddyd neu orchymyn gan Dribiwnlys Cyflogaeth drwy ofyn am iddo gael ei adolygu neu drwy wneud apêl. Mae cyfyngiadau amser llym ar gyfer gwneud hyn. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud, erbyn pryd y mae angen i chi ei wneud a beth sy'n digwydd nesaf.

Herio penderfyniad gan Dribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych am geisio newid dyfarniad, penderfyniad, cyfarwyddyd neu orchymyn gan Dribiwnlys Cyflogaeth gallwch:

  • ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth a wrandawodd eich achos ei adolygu
  • gwneud apêl i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth

Gofyn am adolygiad gan Dribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych am ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth adolygu penderfynu, bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig yn nodi pam eich bod o'r farn y dylid adolygu'r dyfarniad. Dylech wneud hyn o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch gan swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Dim ond os yw'r canlynol yn gymwys y gellir adolygu penderfyniadau:

  • cawsant eu gwneud yn anghywir o ganlyniad i wall gweinyddol
  • ni chawsoch hysbysiad o'r camau a arweiniodd at y penderfyniad
  • gwnaed y penderfyniad yn eich absenoldeb chi neu'r ymatebydd (yr unigolyn y gwnaethoch hawlio yn ei erbyn)
  • mae tystiolaeth newydd ar gael ers casgliad y gwrandawiad
  • mae angen adolygiad o'r fath er budd cyfiawnder

Anfonwch eich cais i swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth lle y cynhaliwyd y gwrandawiad.

Gwahaniaethau i'r broses hon os cewch 'ddyfarniad oherwydd diffyg'

Caiff dyfarniadau oherwydd diffyg eu rhoi pan na fydd ymatebwyr yn ymateb i (ateb) hawliad, neu os byddant yn ymateb mewn ffordd nad yw'n dderbyniol gan y Tribiwnlys Cyflogaeth. Os gwnaethoch dderbyn dyfarniad oherwydd diffyg, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth adolygu ei ddyfarniad ei hun. Bydd angen i chi:

  • wneud cais ysgrifenedig i'r Tribiwnlys Cyflogaeth o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch gan swyddfa'r Tribiwnlys
  • dweud pam eich bod yn credu y dylid newid y dyfarniad oherwydd diffyg neu ei dynnu'n ôl

Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth wrthod adolygu'r dyfarniad oherwydd diffyg, neu gall ei gadarnhau, ei newid neu ei dynnu yn ôl. Dylech gofio nad yw gwneud cais am adolygiad yn effeithio ar y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl - felly gallwch apelio wrth aros am ganlyniad yr adolygiad.

O dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu mynd i wrandawiad i ddod o hyd i ateb ar ôl i ddyfarniad oherwydd diffyg gael ei wneud.

Gwneud apêl i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (EAT)

Er mwyn gwneud apêl, yn hytrach na gofyn am adolygiad, bydd angen i chi gyflwyno (anfon) 'Hysbysiad am Apêl' (ffurflen 1 EAT). Dylech edrych isod i wneud yn siŵr y gallwch apelio o dan eich amgylchiadau penodol chi a'ch bod o fewn y terfynau amser.

Sut i gadarnhau a allwch apelio

Dim ond ar sail 'pwynt cyfreithiol' y gallwch apelio - mae hyn yn golygu sut y cafodd y gyfraith ei dehongli a'i chymhwyso yn eich achos chi. Mae angen i un o'r canlynol fod yn sail i'ch apêl (rheswm drosti):

  • mae'r Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y cymhwysodd y gyfraith
  • mae'r dyfarniad yn un na fyddai unrhyw Dribiwnlys Cyflogaeth rhesymol wedi'i wneud

Ni chaiff eich Hysbysiad am Apêl ei dderbyn oni bai eich bod yn rhoi manylion llawn y pwyntiau rydych yn eu gwneud i ategu'ch apêl ac yn gwneud hynny o fewn y terfynau amser.

Terfynau amser

Mae terfynau amser llym ar gyfer gwneud apêl. Os yw eich dyfarniad, penderfyniad, cyfarwyddyd neu orchymyn:

  • yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig, rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch
  • heb gynnwys rhesymau ysgrifenedig, dylech ofyn amdanynt gan y Tribiwnlys Cyflogaeth o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad - yna rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod i'r dyddiad yr anfonir y rhesymau ysgrifenedig atoch
  • heb gynnwys rhesymau ysgrifenedig ac nid ydych yn gofyn amdanynt o fewn 14 diwrnod, rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch chi, ond hefyd rhoi esboniad pam nad oes gennych y rhesymau ysgrifenedig
  • heb gynnwys rhesymau ysgrifenedig ond gwnaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth 'gadw' ei resymau, er enghraifft, dywedodd y byddai'n eu hanfon yn ddiweddarach, rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod i'r dyddiad yr anfonir y rhesymau atoch

Nodwch na ellir rhoi rhesymau dros rai mathau o benderfyniadau. Dylech gadarnhau â'r Tribiwnlys Cyflogaeth lle y gwrandawyd eich achos os nad ydych yn siŵr am hyn.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich Hysbysiad am Apêl ac unrhyw ddogfennau ategol (a rhaid eu bod wedi cyrraedd) erbyn 4.00 pm ar y 42ain diwrnod fan bellaf. Os byddwch yn ei anfon drwy'r post, dylech ganiatáu amser ar gyfer unrhyw oedi o ran y gwasanaeth post. Mae'r terfyn amser yn dechrau ar y dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad, y penderfyniad, y cyfarwyddyd, y rheswm neu'r gorchymyn gan y Tribiwnlys Cyflogaeth. Rhoddir hwn ar stamp swyddogol a geir ar dudalen olaf y ddogfen fel arfer.

Os ydych wedi gwneud cais am adolygiad, ni fydd hyn yn newid nac yn ymestyn y terfyn amser o 42 diwrnod ar gyfer apelio. Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn gofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth am adolygiad. Fodd bynnag, rhaid i chi gynnwys copi o'ch cais am adolygiad ymhlith y dogfennau y byddwch yn eu hanfon i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth. Fel arall, dylech gynnwys copi o ddyfarniad yr adolygiad, os ydych eisoes wedi'i gael.

Cyflwyno eich apêl i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth

Gallwch gael ffurflen Hysbysiad am Apêl gan unrhyw swyddfa'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth - darperir manylion cyswllt isod. Gallwch hefyd argraffu un eich hun drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhaid i chi lenwi ffurflen Hysbysiad am Apêl yn llawn gan gynnwys adran 7 lle mae'n rhaid i chi egluro pam eich bod o'r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth yn anghywir.

Ynghyd â'ch ffurflen Hysbysiad am Apêl, bydd angen i chi gynnwys:

  • copi o'ch ffurflen hawlio wreiddiol (ET1)
  • unrhyw ymateb (ET3)
  • y dyfarniad a'r rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad (neu unrhyw eglurhad o ran pam nad yw unrhyw un o'r rhain wedi'u cynnwys)

Yna, rhaid anfon neu ddosbarthu'r dogfennau hyn i'r cyfeiriad a nodir isod yn Llundain neu Gaeredin.

Manylion cyswllt ar gyfer swyddfa'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (EAT) yng Nghymru a Lloegr

Cysylltwch â'r swyddfa yn Llundain ynghylch apeliadau'n ymwneud â phenderfyniadau yng Nghymru a Lloegr:

EAT London, Second Floor, Fleetbank House, 2-6 Salisbury Square, London, EC4Y 8JX

Ffôn: 020 7273 1041
Ffacs: 020 7273 1045
E-bost: londoneat@tribunals.gsi.gov.uk

Manylion cyswllt ar gyfer swyddfa Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (EAT) yn yr Alban

Cysylltwch â'r swyddfa yng Nghaeredin ynghylch apeliadau'n ymwneud â phenderfyniadau yn yr Alban:

EAT Edinburgh, 52 Melville Street, Edinburgh, EH3 7HF
Ffôn: 0131 225 3963
Ffacs: 0131 220 6694
E-bost: edinburgheat@tribunals.gsi.gov.uk

Cyngor cyfreithiol

Mynnwch wybod a allwch gael cyngor cyfreithiol neu help ariannol ar gyfer eich apêl

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am eich apêl, dylech eu hanfon at 'Y Cofrestrydd' ('The Registrar') yn un o'r cyfeiriadau uchod.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn anfon llythyr cydnabyddiaeth atoch.

Os nad ydych wedi cael hwn o fewn saith diwrnod i bostio eich Hysbysiad am Apêl, cysylltwch â hwy i gadarnhau a ydynt wedi ei dderbyn, gan ddefnyddio'r manylion uchod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU