Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gorfodi penderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych yn cael problemau mewn perthynas â gweithredu penderfyniadau Tribiwnlys Cyflogaeth, mae camau y gallwch eu cymryd. Mynnwch wybod beth i'w wneud os nad yw eich cyflogwr wedi eich talu neu eich ailsefydlu, er ei fod wedi cael gorchymyn i wneud hynny. Mynnwch wybod beth i'w wneud os nad yw eich cyflogwr wedi dilyn argymhellion ffurfiol mewn achos yn ymwneud â gwahaniaethu.

Os nad ydych wedi cael yr arian a ddyfarnwyd gan y tribiwnlys

Os cafodd arian ei ddyfarnu i chi gan Dribiwnlys Cyflogaeth, ond nad yw eich cyflogwr wedi eich talu, mae'n bosibl gorfodi'r penderfyniad.

Yng Nghymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr, gallwch ofyn i'ch llys sirol lleol orfodi taliad cyn gynted ag y byddwch wedi cael y dyfarniad ysgrifenedig.

Dewch o hyd i gyfeiriad y llys sirol drwy ddefnyddio Adnodd Chwilio am Lys y Gwasanaeth Llysoedd.

Bydd angen i'r llys sirol weld copi o ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth. Bydd angen copi arno hefyd o unrhyw hysbysiad digolledu a anfonwyd atoch gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd swyddogion gorfodi’r llys yn gofyn i’ch cyflogwr am yr arian sy’n ddyledus i chi. Bydd yn rhaid i’r cyflogwr ad-dalu unrhyw fudd-daliadau a dderbynioch i’r Ganolfan Byd Gwaith (bydd y swm yn yr hysbysiad digolledu, a chaiff ei dynnu o gyfanswm eich dyfarniad).

Bydd staff yn y llys sirol yn esbonio'r dulliau gorfodi sydd ar gael.

Efallai y byddant yn gofyn i chi am gopi ardystiedig o'r dyfarniad. Mae gan gopi ardystiedig stamp arno i brofi ei fod yn gopi go iawn o'r dyfarniad ysgrifenedig gwreiddiol. Mae'n dweud faint o arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr. Gallwch gael copi am ddim drwy ysgrifennu at:

The Secretary of the Tribunals
First Floor
100 Southgate Street
Bury St Edmunds
IP33 2AQ

Gwneud i'ch cyflogwr dalu gan ddefnyddio'r cynllun Llwybr Carlam

Gallwch ddefnyddio cynllun Llwybr Carlam newydd, sydd wedi'i gynllunio i gyflymu a symleiddio'r broses o orfodi dyfarniad.

Mae'r cynllun yn galluogi Swyddog Gorfodi'r Uchel Lys (HCEO), sydd wedi'i awdurdodi gan lys, i gymryd pethau sy'n perthyn i'r cyflogwr a'u gwerthu i dalu'r swm sy'n ddyledus. Weithiau bydd bygwth hyn yn ddigon i wneud i'r cyflogwr dalu.

Os byddwch yn defnyddio'r cynllun hwn, fel arfer yr HCEO fydd yn dechrau ac yn cwblhau proses y llys i chi. Bydd angen i chi dalu £60 o ffioedd llys, ond byddwch yn cael yr arian hwn yn ôl gan y cyflogwr, yn ogystal â'r arian sy'n ddyledus ganddo i chi.

Er mwyn defnyddio cynllun Llwybr Carlam Tribiwnlys Cyflogaeth, lawrlwythwch ffurflen gais gan ddefnyddio'r ddolen isod. Pan fyddwch yn ei chyflwyno, efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddarparu copi o ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch gael copi ardystiedig am ddim drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Tribiwnlysoedd, gan ddefnyddio'r cyfeiriad uchod.

Costau llys ychwanegol

Os bydd eich cyflogwr yn methu â thalu eich dyfarniad ar amser, bydd yn rhaid iddo dalu unrhyw gostau llys ychwanegol rydych wedi gorfod eu talu p'un a ydych wedi defnyddio'r cynllun Llwybr Carlam neu ddull arall. Hefyd, efallai y caiff ei fanylion eu rhoi mewn cronfa ddata y gall pawb ei gweld am hyd at chwe blynedd.

Yn yr Alban

Yn yr Alban, dylech ysgrifennu i'r swyddfa lle y gwrandawyd eich achos, gan ofyn am 'ddetholiad' o'r dyfarniad. Bydd yr Ysgrifennydd yn rhoi detholiad i chi, y gallai Swyddog y Siryf ei ddefnyddio i orfodi'r taliad.

Ni allwch gael y detholiad tan ddiwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, sef 42 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch. Unwaith y rhoddir y detholiad, ni all y tribiwnlys wneud mwy i'ch helpu gyda gorfodi.

Gorchmynion gorfodi ar gyfer ailsefydlu, ailgyflogi ac argymhellion

Os nad yw eich cyflogwr wedi cyflawni gorchymyn neu os nad yw wedi dilyn argymhelliad, dylech ysgrifennu i swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth sy'n delio â'ch achos. Gall hyn gynnwys gorchymyn i'ch ailsefydlu neu'ch ailgyflogi.

Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bydd y dyddiad i'ch cyflogwr gydymffurfio â'r gorchymyn wedi bod.

Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn trefnu gwrandawiad pellach a gall orchymyn i'ch cyflogwr dalu iawndal ychwanegol i chi.

Taliadau dileu swyddi a thaliadau eraill a chyflogwyr ansolfent

Gall y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi helpu os yw'r tribiwnlys wedi penderfynu bod gennych hawl i daliad dileu swydd ac nad yw eich cyn-gyflogwr wedi talu.

Gall helpu hefyd os yw eich cyflogwr bellach yn ansolfent a'i fod wedi methu â thalu dyfarndal i chi am:

  • gyflog nad yw wedi'i dalu
  • tâl gwyliau
  • tâl rhybudd
  • tâl gwarant
  • dyfarndal sylfaenol am ddiswyddo annheg
  • tâl cydnabyddiaeth o dan ddyfarniad sydd wedi'i ddiogelu

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi yn y cyfeiriad perthnasol isod.

Manylion cyswllt y Swyddfeydd Taliadau Dileu Swyddi

Cwmpesir Cymru, Birmingham, Caerwrangon, Cernyw, Dorset, Dyfnaint, Essex, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gwlad yr Haf, Hampshire, Manceinion, Norfolk, Rutland, Swydd Amwythig, Swydd Derby, Swydd Gaer, Swydd Gaergrawnt, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaerloyw, Swydd Gaerlŷr, Swydd Henffordd, Swydd Lincoln, Swydd Northampton, Swydd Nottingham, Swydd Rydychen, Swydd Stafford, Swydd Warwick, Wiltshire ac Ynys Wyth gan:

Redundancy Payment Office
7th-9th Floor
Hagley House
83-85 Hagley Road
Birmingham
B16 8QG

Cwmpesir Berkshire, Caint, Suffolk, Surrey, Sussex, Swydd Bedford, Swydd Buckingham a Swydd Hertford gan:

Redundancy Payment Office
PO Box 15
Exchange House
60 Exchange Road
Watford
WD1 7SP

Cwmpesir yr Alban, Cleveland, Cumbria, Durham, Glannau Mersi, Northumberland, Swydd Efrog, Teesside a Tyne a Wear gan:

Redundancy Payment Office
Ladywell House
Ladywell Road
Edinburgh
EH12 7UR

Allweddumynediad llywodraeth y DU