Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Nodiadau a chyngor ar gyfer llenwi Ffurflen ET1

Mae'r nodiadau hyn i'ch helpu wrth lenwi Ffurflen ET1 y gallwch ei defnyddio i wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch gael help i'w llenwi gan ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Gwybodaeth sydd ei hangen cyn y gellir derbyn hawliad

Defnyddiwch y nodiadau isod i'ch helpu i lenwi'r ffurflen. Ni chaiff eich hawliad ei dderbyn oni bai eich bod wedi:

  • defnyddio'r ffurflen gywir - ET1
  • cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad
  • cynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn - yr atebydd/atebwyr
  • cynnwys manylion eich cwyn

1 Eich manylion

Cofiwch, dim ond manylion sydd wedi'u marcio â * y mae'n rhaid i chi eu cynnwys (fel y nodir ar y ffurflen).

1.1 Ticiwch y blwch perthnasol i nodi a ydych am gael eich galw yn Mr, Mrs, Miss neu Ms. Os nad oes yr un o'r rhain yn gywir, nodwch eich teitl (er enghraifft, Doctor) yn y gofod ar ôl 'Arall'.

1.2* Nodwch eich enw(au) cyntaf.

1.3* Nodwch eich cyfenw neu enw eich teulu mewn PRIFLYTHRENNAU.

1.4 Nodwch eich dyddiad geni ar ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 25/02/2024) a thiciwch y blwch perthnasol i ddweud wrth y Tribiwnlys Cyflogaeth a ydych yn wryw neu'n fenyw.

1.5* Nodwch eich cyfeiriad llawn, gan gynnwys rhif tŷ, stryd, tref neu ddinas, sir a chod post.

1.6 Nodwch eich rhif(au) ffôn (gan gynnwys cod deialu llawn ar gyfer llinell dir) lle gellir cysylltu â chi yn ystod oriau gweithio arferol.

1.7 Ticiwch y blwch perthnasol i ddweud sut yr hoffech i rywun gysylltu â chi yn y dyfodol. Os ydych am gysylltu drwy e-bost, edrychwch yn eich cyfrif e-bost bob dydd. Fel arfer bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn ceisio defnyddio e-bost os ydych am iddo wneud hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser am fod yn rhaid llofnodi i gael rhai dogfennau gan Farnwr Cyflogaeth.

2 Manylion yr atebydd

Os derbynnir eich hawliad, caiff copi o'ch hawliad ei anfon at y sefydliad rydych yn cwyno amdano (yr atebydd) a hynny er mwyn iddo gael paratoi ymateb i'ch cwyn. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi manylion cywir yr atebydd i'r Tribiwnlys er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich hawliad. Dylai'r rhain fod ar y llythyr a oedd yn cynnig y swydd i chi, eich contract cyflogaeth neu eich slip cyflog.

2.1* Mae'n bosibl gwneud cwyn yn erbyn atebydd unigol neu nifer o ymatebwyr.
Os ydych yn hawlio ar sail gwahaniaethu, efallai y byddwch yn gallu hawlio yn erbyn mwy nag un atebydd. Er enghraifft, y cyflogwr ac unrhyw unigolyn y mae'r cyflogwr yn gyfrifol amdano. Os ydych am gwyno am unigolyn (neu bobl), nodwch enw'r sefydliad yn y blwch hwn. Yna nodwch enw a chyfeiriad yr unigolyn (neu bobl) fel atebydd/atebwyr ychwanegol yn Adran 11.

2.2* Nodwch gyfeiriad llawn, cod post a rhif ffôn yr atebydd.

2.3* Nodwch gyfeiriad llawn a chod post y man lle roeddech yn gweithio, neu wedi ceisio am swydd, os yw'n wahanol i gyfeiriad yr atebydd a nodwyd gennych yn 2.2. Os oeddech yn gweithio gartref, nodwch fanylion eich cartref, gan y bydd cyfeiriad a chod post eich cartref yn cael eu trin fel eich gweithle.

Defnyddiwch Adran 11 o'r ffurflen i nodi manylion atebwyr ychwanegol.

3 Manylion cyflogaeth

3.1 Os yw eich cwyn yn erbyn eich cyflogwr neu'ch cyn-gyflogwr, nodwch y dyddiad pan wnaeth eich cyflogaeth ddechrau ac, os yw'n berthnasol, y dyddiad pan ddaeth eich cyflogaeth i ben neu pan fydd yn dod i ben. Defnyddiwch ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 23/03/2023). Ticiwch y blwch priodol i ddweud a yw eich cyflogaeth yn parhau.

Weithiau mae gan bobl y statws cyflogaeth cyfreithiol 'gweithiwr' yn hytrach na 'chyflogai'. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy.

3.2 Nodwch deitl eich swydd a dweud pa swydd rydych wedi'i gwneud neu yn ei gwneud i'ch cyflogwr.

4 Enillion a budd-daliadau

4.1 Nodwch nifer yr oriau arferol roeddech yn eu gweithio neu rydych yn eu gweithio bob wythnos - peidiwch â chynnwys goramser hyd yn oed os oeddech neu os ydych yn ei weithio'n rheolaidd.

4.2 Nodwch fanylion eich cyflog sylfaenol, cyn treth ac unrhyw ddidyniadau ond heb gynnwys unrhyw daliadau goramser. Yna nodwch fanylion eich cyflog net arferol (dyma eich cyflog ar ôl treth, Yswiriant Gwladol ac unrhyw ddidyniadau eraill ond heb gynnwys goramser, comisiynau a bonysau). Dylai eich slip cyflog ddangos y symiau hyn. Ticiwch y blwch perthnasol i ddangos a yw hwn am awr, wythnos, mis neu flwyddyn.

4.3 Os yw eich cyflogaeth wedi dod i ben, ticiwch y blwch priodol i ddweud a wnaethoch weithio neu gael eich talu am gyfnod rhybudd. Os felly, nodwch fanylion hyd y cyfnod y gwnaethoch weithio neu eich talu amdano.

4.4 Ticiwch y blwch priodol i ddweud a oeddech yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr.

Atebwch 4.5 i 4.9 os cawsoch eich diswyddo'n annheg.

4.5 Nodwch fanylion unrhyw fuddiannau eraill a gawsoch gan eich cyflogwr.

Gallai enghreifftiau gynnwys car cwmni neu yswiriant meddygol. Disgrifiwch pa fath o fuddiant a gawsoch gan roi syniad o'i werth.

4.6 Ticiwch y blwch priodol i ddweud a oes gennych swydd arall ers gadael eich cyflogaeth. Os nad oes gennych, ewch i adran 4.9.

4.7 Os oes gennych swydd arall dywedwch pryd y gwnaethoch ei dechrau (neu y byddwch yn dechrau) gweithio. Nodwch a yw'r swydd yn un barhaol ynteu'n un dros dro. Os yw'n swydd dros dro, nodwch y dyddiad y mae'n debygol o orffen (os ydych yn ei wybod).

4.8 Nodwch fanylion y swm rydych yn ei ennill (neu y byddwch yn ei ennill) bob wythnos, mis neu flwyddyn yn eich swydd newydd.

4.9 Ticiwch y blwch priodol i ddweud beth rydych am ei gael os yw eich hawliad yn llwyddiannus.

5 Eich hawliad

5.1* Ticiwch y blwch neu'r blychau priodol i ddweud beth rydych yn cwyno amdano.

5.2* Nodwch gefndir a manylion eich cwynion.

Diswyddo annheg

Os yw eich cwyn neu ran ohoni yn ymwneud â:

  • chael eich diswyddo'n annheg gan yr atebydd
  • diswyddiad deongliadol (rydych yn honni bod gweithredoedd eich cyflogwr wedi achosi i chi ymddiswyddo o'ch swydd)

Yna defnyddiwch y blwch a ddarperir i egluro cefndir y diswyddiad gan roi unrhyw wybodaeth arall fyddai'n ddefnyddiol yn eich barn chi.


Os ydych yn anghytuno â'r rheswm a roddodd yr atebydd am eich diswyddo, nodwch beth yw'r gwir reswm yn eich barn chi. Dylech ddisgrifio'r digwyddiadau a arweiniodd at eich diswyddo gan ddisgrifio sut y digwyddodd y diswyddiad, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a'r bobl berthnasol. Os ydych yn hawlio diswyddiad deongliadol, esboniwch yr amgylchiadau'n ymwneud â'r diswyddiad yn fanwl.

Gwahaniaethu

Gellir gwahaniaethu ar sail rhyw (gan gynnwys cwynion yn ymwneud â chyflog cyfartal a materion yn ymwneud â beichiogrwydd a mamolaeth). Gellir hefyd wahaniaethu ar sail hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo, oedran neu anabledd (a elwir yn aml yn 'feysydd a ddiogelir') Mae cyfraith gwahaniaethu'n cwmpasu pob maes sy'n ymwneud â chyflogaeth gan gynnwys recriwtio, hyfforddi, hyrwyddo a diswyddo. Mae hefyd yn cwmpasu achosion o aflonyddu sy'n ymwneud ag un o'r 'meysydd a ddiogelir' ac erledigaeth sy'n digwydd oherwydd eich bod wedi:

  • hawlio gwahaniaethu neu wedi helpu rhywun arall i wneud hynny
  • rhoi tystiolaeth mewn achos o'r fath
  • tynnu sylw eich cyflogwr at y ffaith eich bod yn credu bod gwahaniaethu wedi digwydd o bosibl

Gall hefyd gwmpasu pethau sydd wedi digwydd ar ôl i chi adael cyflogaeth. Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddarparu holiadur i'ch helpu i benderfynu a ddylech gymryd camau cyfreithiol ai peidio. Hefyd gall eich helpu i baratoi eich achos yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn yn berthnasol i achosion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred ac anabledd.

Yn y blwch, disgrifiwch y digwyddiadau sy'n gyfystyr â gwahaniaethu, dyddiadau'r digwyddiadau hyn a'r bobl berthnasol. Eglurwch ym mha ffordd y gwnaeth rhywun wahaniaethu yn eich erbyn, yn eich barn chi. Os ydych yn cwyno am wahaniaethu pan wnaethoch ymgeisio am swydd, nodwch pa swydd roeddech yn ymgeisio amdani. Os ydych yn cwyno am fwy nag un math o wahaniaethu, nodwch fanylion ar wahân ar gyfer y mathau o wahaniaethu. Dylech ddisgrifio sut mae'r digwyddiadau rydych yn cwyno amdanynt wedi effeithio arnoch.

Taliad dileu swydd

Os ydych yn hawlio taliad dileu swydd, dywedwch a ydych wedi gofyn i'ch cyflogwr am daliad. Os felly, nodwch y dyddiad ar ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 25/10/08). Dywedwch a ydych wedi gwneud cais am daliad i'r Swyddfa Taliadau Dileu Swyddi (RPO). Os ydych wedi gwneud cais i'r RPO, dywedwch a yw eich hawliad wedi'i wrthod, ac os felly, y dyddiad a nodir ar y llythyr gwrthod.

Taliadau eraill sy'n ddyledus i chi

Dylech nodi faint rydych yn ei hawlio os ydych yn cwyno am:

  • gyflog nad yw wedi'i dalu
  • tâl gwyliau na yw wedi'i dalu
  • taliad am gyfnod rhybudd
  • symiau eraill nad ydynt wedi'u talu, megis treuliau, comisiynau a bonysau.

Eglurwch pam bod gennych hawl i'r taliad hwn yn eich barn chi, gan nodi manylion llawn megis y cyfnod y mae'r taliad yn ei gwmpasu a'r gyfradd talu. Os ydych wedi nodi swm, dywedwch sut y gwnaethoch ei gyfrifo.

Mae angen i chi ddangos mwy o fanylion os ydych yn hawlio mwy nag un math o daliad. Nodwch y symiau rydych yn eu hawlio ar gyfer pob math o daliad gan egluro sut y gwnaethoch gyfrifo pob swm.

Cwynion eraill

Nodwch beth yw eich cwyn gan esbonio'r digwyddiadau a arweiniodd at eich hawliad, gan gynnwys unrhyw ddyddiadau perthnasol. Os nad oes digon o le i'ch atebion, parhewch ar ddalen ar wahân gan ei hatodi i'r ffurflen hon.

6 Pa iawndal neu rwymedi rydych yn ei geisio?

6.1 Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn nodi beth rydych yn ei geisio gan yr atebydd os yw eich hawliad yn llwyddiannus (er enghraifft, swm yr iawndal).

7 Gwybodaeth arall

7.1 Peidiwch ag anfon llythyr eglurhaol gyda'ch ffurflen hawlio. Dylech ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych am ei chynnwys yma. Er enghraifft, efallai y byddwch am roi eglurhad ynghylch pam fod eich hawliad yn hwyr. Eglurwch a wnaethoch godi'r mater gyda'r atebydd ac, os felly, unrhyw gamau a gymerwyd.

Os nad oes digon o le, parhewch ar ddalen ar wahân gan ei hatodi i'r ffurflen hon. Os ydych yn darparu gwybodaeth ar ddalennau ar wahân ar gyfer nifer o gwestiynau, nodwch yma sawl dalen rydych wedi'u hatodi i'r ffurflen.

8 Eich cynrychiolydd

Dim ond os ydych wedi penodi unigolyn i weithredu ar eich rhan, hynny yw, cynrychiolydd, y bydd angen i chi lenwi'r adran hon. Os byddwch yn penodi cynrychiolydd, bydd y Tribiwnlys yn delio'n uniongyrchol â hwy, nid gyda chi. Peidiwch â nodi enw'r cynrychiolydd oni bai ei fod wedi cytuno i weithredu ar eich rhan. Peidiwch â rhoi enw'r unigolyn neu sefydliad sydd ond yn rhoi cyngor i chi ar lenwi'r ffurflen hon.

8.1 Os ydych yn gwybod enw'r unigolyn sy'n eich cynrychioli, nodwch ef yma. Os nad ydych yn ei wybod, gadewch yr adran hon yn wag.

8.2 Nodwch enw llawn sefydliad y cynrychiolydd (er enghraifft, yr undeb, cwmni cyfreithwyr neu ganolfan Cyngor ar Bopeth).

8.3 Nodwch gyfeiriad llawn a chod post sefydliad y cynrychiolydd.

8.4 Nodwch rif ffôn y cynrychiolydd gan gynnwys y cod deialu llawn.

8.5 Nodwch y rhif cyfeirnod y mae eich cynrychiolydd wedi'i roi i'ch achos (os ydych yn ei wybod).

8.6 Ticiwch y blwch priodol i ddweud sut y byddai'n well ganddynt i ni gysylltu â hwy yn y dyfodol (os ydych yn gwybod) a nodwch y cyfeiriad e-bost os oes angen. Peidiwch â chynnwys cyfeiriad e-bost oni bai bod y cynrychiolydd yn edrych ar ei gyfrif e-bost bob dydd.

9 Anabledd

9.1 Ticiwch y blwch 'Ydw' os ydych yn ystyried bod gennych anabledd. Dywedwch beth yw'r anabledd a rhowch fanylion unrhyw help sydd ei angen arnoch gan staff tribiwnlys. Ymhlith yr enghreifftiau o'r help y gellir ei roi mae trosi dogfennau i Braille neu brint bras, darparu gwybodaeth ar ddisg a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion.

10 Hawliadau lluosog

10.1 Os ydych yn ymwybodol bod eich hawliad yn un o nifer o hawliadau sy'n deillio o'r un amgylchiadau neu amgylchiadau tebyg yn erbyn yr un atebydd, ticiwch 'Ydw' yma. Bydd hyn yn helpu staff Tribiwnlys i brosesu'r hawliadau hyn yn effeithlon.

Manylion atebwyr ychwanegol

11.1 Defnyddiwch y blychau i roi manylion atebwyr ychwanegol.

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

Nid oes rhaid i chi lenwi'r adran hon ond, os byddwch yn gwneud hynny, bydd yn galluogi'r Tribiwnlys i fonitro ei brosesau a helpu i sicrhau ei fod yn trin pawb yn deg. Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn rhan o'ch achos. Gellir ei defnyddio at ddibenion ymchwil gyffredinol lle na chewch eich adnabod.

Deddf Diogelu Data 1998

Bydd y Tribiwnlys yn anfon copi o'r ffurflen hon at yr atebydd/atebwyr ac Acas. Bydd yn rhoi'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu ar y ffurflen hon ar gyfrifiadur. Bydd hyn yn ei helpu i fonitro cynnydd a chynhyrchu ystadegau. Caiff gwybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon ei throsglwyddo i'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau er mwyn cynorthwyo gyda gwaith ymchwil i'r ffordd y caiff tribiwnlysoedd cyflogaeth eu defnyddio a'u heffeithiolrwydd.

Help a chyngor

Os oes angen help arnoch i lenwi eich ffurflen hawlio, gallwch ffonio llinell ymholiadau cyhoeddus Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar 08457 959 775. Noder na fyddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU