Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL)

Mae Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) yn ffordd wych i bobl gael gweld y byd tra'n ennill bywoliaeth. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun TEFL, dyma y mae angen i chi ei wybod.

Cymwysterau TEFL

Mae cymhwyster TEFL yn rhoi gwybodaeth i chi am ramadeg Saesneg a'r sgiliau dosbarth y bydd eu hangen arnoch i ddysgu'n effeithiol. Chwiliwch am gyrsiau sy'n arwain at gymhwyster cydnabyddedig. Un cymhwyster cydnabyddedig yw Tystysgrif Caergrawnt/RSA mewn Dysgu'r Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA) neu'r Trinity CertTESOL (Tystysgrif Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).

Y ffordd gyflymaf i gael cymhwyster yw mynd ar gwrs llawn amser sy'n para mis. Mae ysgolion iaith preifat drwy'r DU yn cynnig cyrsiau am rhwng £800 a £1,000. Efallai yr hoffech chi chwilio am ysgol sy'n aelod o'r Gymdeithas Canolfannau Iaith Saesneg Achrededig.

Gellir dysgu o bell neu'n rhan amser hefyd, ond mae'n bwysig eich bod yn sicrhau a fyddwch chi'n cael ymarfer dysgu neu beidio - mae profiad yn y dosbarth yn gwneud byd o wahaniaeth.

Chwilio am swydd TEFL

Fe allwch chi chwilio am swydd yn yr Education Guardian, Times Educational Supplement, EL Gazette neu ar wefannau TEFL. Mae'r swyddi fel rheol mewn ysgolion iaith preifat neu yn ysgolion y wladwriaeth.

Gan fod siarad Saesneg yn allweddol er mwyn datblygu gyrfa mewn sawl gwlad, bydd swyddi ar gael drwy'r byd, gan gynnwys yn Ewrop, Asia a De America. Mae cyflogwyr mawr yn cynnwys Llywodraeth Japan sy'n hysbysebu ei chynllun Cyfnewid a Dysgu Japan (JET) bob hydref.

Os ydych chi'n teimlo'n fentrus, fe allwch chi chwilio am swydd yn eich dewis wlad ar ôl mynd yno. Os gwnewch chi hyn y tu allan i Ewrop, bydd angen i chi holi beth yw'r sefyllfa fisa ymlaen llaw.

Mae'r rhan fwyaf o gytundebau am flwyddyn fan leiaf. Mae rhai swyddi yn cynnwys teithiau awyren am ddim neu gyfraniad tuag at lety. Mae cyflogau'n amrywio'n fawr, gan ddibynnu ar gostau byw'r wlad dan sylw. Efallai y byddwch yn dysgu plant neu oedolion ac y bydd y swydd yn golygu gwaith ben bore neu gyda'r nos. Dylai'ch cytundeb nodi cyfanswm yr oriau dysgu a'r hawl flynyddol i gael gwyliau.

TEFL a'ch gyrfa

Bydd cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar raddedigion sydd wedi treulio blwyddyn yn dysgu dramor. Byddwch wedi meithrin sgiliau gwerthfawr, wedi profi diwylliant gwahanol ac o bosibl wedi dysgu iaith dramor.

Fodd bynnag, gall byw dramor effeithio ar y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo os ydych am barhau i astudio pan yr ydych yn dychwelyd i’r DU. Os ydych yn meddwl astudio pan yr ydych yn dychwelyd i’r DU dylech edrych i weld sut y gall hyn effeithio arnoch, cyn i chi symud dramor.

Os ydych chi am wneud gyrfa ym maes TEFL, bydd angen i chi gael cymwysterau ychwanegol ar ôl sawl blwyddyn o ddysgu. Fe allwch chi gael diploma neu MA mewn TEFL.

Ai TEFL yw'r peth i chi?

Gofynnwch i chi'ch hun a fyddech chi'n mwynhau dysgu.

Dyma rai cwestiynau i ofyn i chi’ch hun:

  • ydych chi'n berson cymdeithasol?
  • allwch chi ddychmygu sefyll o flaen dosbarth o blant neu bobl fusnes?
  • wnewch chi fwynhau paratoi gwersi?
  • ydych chi'n gallu gwrando'n dda?
  • ydych chi’n awyddus i ennill hyder a thechneg yn y dosbarth drwy ddilyn cwrs TEFL?

Nid pawb sy'n gallu treulio blwyddyn gyfan yn bell oddi cartref. Ceisiwch ddod o hyd i gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y lleoliad a'r diwylliant ymhle byddwch chi'n byw. Er enghraifft, a fyddwch chi'n byw mewn pentref ynteu mewn dinas, a pha mor hawdd fydd cyfarfod â phobl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU