Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Astudio mewn prifysgol dramor: arian

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut yr ydych am ariannu eich gradd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gymorth ariannol fydd ar gael, ac a fyddwch chi'n cael gweithio yn y wlad y bwriadwch fynd iddi.

Ariannu eich astudiaethau mewn prifysgol dramor

Bydd materion ariannol yn gwahaniaethu o un wlad i'r llall. Gallai ffioedd dysgu mewn un wlad fod yn uwch neu'n is nag yn y DU. Nid oes dim ffioedd dysgu o gwbl mewn rhai gwledydd.

Ni ddylech dybio y cewch yr un lefel o gymorth ariannol ag y byddech yn ei chael petaech yn astudio yn y DU, ac ni fyddwch o anghenraid yn gallu gweithio i gynnal eich hun. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd brofi y gallwch gynnal eich hun drwy'ch arian eich hun.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl sut yr ydych yn ariannu eich astudiaethau cyn gwneud unrhyw geisiadau.

Ariannu eich astudiaethau yn un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd

I gael cymorth ariannol, dylech gysylltu â'r asiantaeth briodol yn y wlad yr ydych yn bwriadu astudio ynddi. Fe welwch fwy o wybodaeth am gymorth ariannol yng ngwledydd eraill yr UE ar wefan 'Your Europe'.

Fel un o ddinasyddion y DU mae gennych hawl, yn dibynnu ar amodau priodol, i astudio neu weithio yn un o wledydd eraill yr UE. Mae gennych hefyd yr hawl i gael eich trin yr un fath â myfyrwyr sy'n dod o'r wlad honno o ran y ffioedd dysgu a dalwch - ond nid yw hyn yn wir am grantiau cynhaliaeth na mathau eraill o gymorth â chostau byw. Ceir mwy o wybodaeth am yr hawliau hyn yng nghanllaw'r Undeb Ewropeaidd, 'Astudio yn un o wledydd eraill yr UE'.

Ffynonellau arian eraill: grantiau ac ysgoloriaethau

Mae rhywfaint o ymddiriedolaethau addysg ac elusennau yn y DU yn rhoi grantiau ar gyfer astudio dramor, er bod y symiau a roddir yn tueddu i fod yn eithaf bach. Cewch ddysgu mwy am y rhain drwy edrych ar gyfeirlyfr o gyrff sy'n rhoi grantiau addysgol.

Ceir hefyd gyrff tramor sy'n rhoi ysgoloriaethau - ond mae'r rhain yn tueddu i fod yn gystadleuol iawn. Ceir dolenni at ambell un o'r rhain ar wefan UKCISA, ac mae gan UNESCO fwy o gyngor i fyfyrwyr sy'n chwilio am ysgoloriaeth i astudio dramor.

Cyllid i raddedigion

Cael gwybodaeth ar gyfleoedd i raddedigion o amgylch y byd

Darllen gwefan UNESCO am adnoddau i’ch helpu chi i gael gwybod am ystod eang o gymrodoriaethau a chyfleodd eraill i raddedigion.

Gwobrau ar gyfer astudio yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn yr Eidal

Mae’r llywodraeth yn ariannu i fyny at 20 o wobrau ar gyfer astudio ôl-radd yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal.

Mae’r gwobrau yn astudio ac ymchwilio gyda chanolbwynt Ewropeaidd yn y meysydd canlynol:

  • Economeg
  • Y Gyfraith
  • Hanes a Gwareiddiad
  • Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU