Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Grantiau Dawns a Drama

Gall astudio ar gyfer gyrfa ym myd dawns neu ddrama fod yn ddrud. Ond os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r doniau a'r agwedd iawn i lwyddo, mae'n bosib y cewch Grant Dawns a Drama i dalu eich costau.

Beth yw Grantiau Dawns a Drama?

"Mae'r Grantiau Dawns a Drama wedi fy ngalluogi i wireddu fy mreuddwydion"

Mae'r Grantiau Dawns a Drama ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd sydd am weithio ym maes y celfyddydau perfformio. Maen nhw ar gael o rai o ysgolion preifat blaenllaw Lloegr ym myd ddawns a drama a byddan nhw'n helpu i dalu am le ar gwrs nodedig a mawr ei barch, beth bynnag y bo'ch amgylchiadau ariannol.

Bydd y grant yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd hyfforddi, ond disgwylir i chi wneud cyfraniad hefyd. Gallwch hefyd gael arian ychwanegol i helpu gyda'ch costau byw.

Cael gwybod mwy…

Yn yr adran hon mae popeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch Grantiau Dawns a Drama, yn cynnwys esboniad ynghylch sut i wneud cais am grant a faint y gallwch ddisgwyl ei dderbyn. Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt pob ysgol sy'n cynnig cyrsiau sy'n dod dan gochl y Grantiau Dawns a Drama.

Allweddumynediad llywodraeth y DU