Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y cynllun Achub Morgeisi

Gallai'r cynllun Achub Morgeisi fod o gymorth i chi os ydych yn cael trafferthion difrifol wrth wneud eich ad-daliadau morgais a'ch bod mewn perygl o fod yn ddigartref os caiff eich cartref ei adfeddiannu. Yma, cewch wybod a ydych chi'n gymwys i gael cymorth i aros yn eich cartref, a cewch wybod sut mae'r cynllun yn gweithio.

Beth yw'r cynllun Achub Morgeisi?

Mae'r cynllun Achub Morgeisi yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth sy'n cael ei redeg gan eich awdurdod tai lleol – y mudiad sy'n rheoli tai ar gyfer eich cyngor. Os ydych chi'n gymwys, gallech gael cymorth ariannol i aros yn eich cartref. Rydych chi'n gwneud eich cais am gymorth gan y cynllun i'ch cyngor lleol.

Dim ond yn Lloegr y mae'r cynllun Achub Morgeisi ar gael. Mae cynlluniau gwahanol naill ai ar waith neu wrthi'n cael eu datblygu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn.

Pwy all gael cymorth gan y cynllun Achub Morgeisi?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun rhaid i'ch aelwyd gynnwys rhywun ag 'angen blaenoriaethol.' Gallai hyn fod ar ffurf:

  • menyw feichiog
  • rhywun gyda phlant dibynnol
  • rhywun agored i niwed oherwydd henaint neu nam meddyliol neu gorfforol

Bydd angen i chi fodloni'r meini prawf dilynol hefyd:

  • ni ddylai eich aelwyd ennill fwy na £60,000 y flwyddyn
  • ni ddylech fod yn berchen ar ail gartref, gan gynnwys cartref dramor
  • ni ddylai gwerth eich morgais (ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd ar sail eich cartref) fod yn fwy na 120 y cant o werth eich cartref
  • ni ddylai gwerth eich cartref fod yn uwch na lefelau penodol ar gyfer pob rhanbarth – holwch eich cyngor am y lefel ar gyfer eich ardal chi

Pan fyddwch yn gwneud cais i'r cynllun, bydd eich awdurdod tai lleol yn egluro rhai meini prawf eraill y bydd angen i chi eu bodloni.

Sut mae'r cynllun Achub Morgeisi yn gweithio

Gallwch gael eich cyfeirio at y cynllun gan:

  • asiantaethau cynghori, megis canolfannau Cyngor Ar Bopeth neu Shelter
  • eich benthyciwr morgais
  • y llysoedd

Gallwch hefyd gysylltu'n uniongyrchol â'ch cyngor lleol i gael cyngor am y cynllun Achub Morgeisi.

Pan fyddwch yn gwneud cais am gymorth gan y cynllun:

  1. bydd y cyngor yn trefnu i chi gyfarfod â'i gynghorwyr ariannol, os nad ydych chi wedi gweld cynghorydd eisoes
  2. cewch gyngor a chynllun i'ch helpu i reoli eich dyled, neu ryw ffordd arall y gallwch dalu costau eich cartref.
  3. mae'n bosib y bydd y cyngor yn trefnu asesiad o'ch cartref
  4. mae'n bosib y cewch gymorth ariannol, naill ai gyda 'benthyciad rhannu ecwiti' (shared equity loan) neu drwy 'morgais i rentu gan y Llywodraeth' (Government mortgage to rent), gan ddibynnu ar eich amgylchiadau
  5. bydd y cyngor yn cynnwys Landlord Cymdeithasol Cofrestredig – mudiad tai annibynnol wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid

Benthyciad rhannu ecwiti

Gall y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ddarparu benthyciad ecwiti er mwyn lleihau eich ad-daliadau misol. Codir tâl misol isel llog-yn-unig ar y benthyciad. Bydd arnoch angen o leiaf 25 y cant o ecwiti yn eich eiddo er mwyn bod yn gymwys i gael y benthyciad ecwiti. Golyga hyn nad yw eich morgais yn werth mwy na 75 y cant o werth yr eiddo.

Morgais i rentu gan y Llywodraeth

Efallai y bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn awgrymu morgais i rentu gan y Llywodraeth, sy'n golygu y bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn prynu eich cartref am 97 y cant o'i werth ar y farchnad. Cewch aros yn eich cartref gan dalu rhent i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fel ei denant. Bydd y rhent 20 y cant yn llai na chyfradd y farchnad ar gyfer eich ardal.

Byddwch yn parhau i gael cyngor ar ôl i chi ymuno â'r cynllun er mwyn eich helpu i reoli eich arian.

Allweddumynediad llywodraeth y DU