Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn

Nid yw cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth o reidrwydd yn golygu ymddeol o waith. Os ydych chi'n hunangyflogedig efallai y penderfynwch barhau i weithio a hawlio Pensiwn gan y Wladwriaeth. Efallai y cewch hefyd bensiwn cwmni, pensiwn personol, neu'r ddau. Bydd sut y byddwch yn talu treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych chi'n hunangyflogedig a Phensiwn y Wladwriaeth yw eich unig bensiwn

Os ydych chi'n hunangyflogedig, mae’n debyg y byddwch eisoes yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu bob blwyddyn i:

  • roi gwybod am eich incwm ac unrhyw enillion cyfalaf
  • hawlio unrhyw lwfansau treth yn erbyn eich bil treth

Pan fyddwch yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth rhaid i chi ddatgan hyn ar eich ffurflen dreth. Y rheswm am hyn yw am ei fod yn incwm trethadwy sy'n cael ei dalu i chi heb i'r dreth gael ei thynnu.

Os nad ydych chi’n llenwi ffurflen dreth Hunanasesu ac rydych yn 65 oed neu’n nesáu at yr oedran hwn, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM i anfon ffurflen P161 Lwfans Personol ar sail Oedran i chi. Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen gan ddefnyddio’r ddolen ‘Ffurflen P161 Lwfans Personol ar sail Oedran’ isod.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn rhoi iddynt i gyfrifo pa lwfansau di-dreth y mae gennych hawl iddynt ac i gyfrifo faint o dreth (o gwbl) y dylech fod yn ei thalu pan ddechreuwch gael eich incwm pensiwn. Mae’n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen hon fel bod Cyllid a Thollau EM yn gallu cyfrifo faint o dreth sydd angen i chi ei thalu.

Cofiwch y byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth - felly ni fydd angen i chi gynnwys y rhain ar eich ffurflen dreth rhagor. Yr unig eithriad yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 sy'n ddyledus ar elw trethadwy a wnaed yn y flwyddyn dreth pan oeddech chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol a Phensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael un neu ragor o bensiynau yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn talu treth mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Byddwch yn talu treth ar eich incwm hunangyflogaeth (ac fel rheol ar ffynonellau eraill o incwm nad yw wedi'i drethu, heblaw am Bensiwn y Wladwriaeth) drwy Hunanasesu ar ôl llenwi ffurflen dreth bob blwyddyn. Byddwch yn talu treth ar unrhyw bensiwn cwmni neu bensiwn personol a gewch drwy'r system Talu Wrth Ennill. Bydd eich Swyddfa Dreth yn rhoi cod treth i chi sy'n dweud wrth ddarparwr y pensiwn faint i'w dynnu o'ch pensiwn/pensiynau cyn iddynt eich talu.

Mae'r cod treth yn seiliedig ar yr wybodaeth yr ydych chi wedi'i rhoi am eich incwm cyffredinol. Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth hefyd, bydd Cyllid a Thollau EM fel rheol yn gofyn i ddarparwr eich pensiwn dynnu unrhyw dreth sy'n ddyledus arno yr un pryd drwy roi cod treth newydd i'r darparwr ar eich cyfer chi.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac ar incwm isel

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn efallai eich bod ar incwm isel. Yn yr achos hwn, efallai y bydd modd i chi hawlio Credyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm isel.

Dod yn hunangyflogedig am y tro cyntaf

Efallai y penderfynwch ddod yn hunangyflogedig am y tro cyntaf pan fyddwch yn ymddeol. Os fyddwch yn, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch sut i gofrestru.

Cyflogi cyfrifydd

Does dim rhaid i chi gyflogi cyfrifydd (asiant) os nad oes arnoch eisiau, ond efallai y gwelwch y gall cyfrifydd, am ffi, eich helpu i gael trefn ar eich ffurflen dreth. Bydd Cyllid a Thollau EM angen eich caniatâd yn ysgrifenedig cyn y gallant ddelio â’ch cynghorydd treth proffesiynol neu gyfrifydd.

Os ydych yn poeni am eich treth

Os ydych chi'n poeni eich bod yn talu gormod o dreth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am dreth a hunangyflogaeth ar ôl oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth i Bobl sydd Newydd fynd yn Hunangyflogedig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU