Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae penderfynu dod yn hunangyflogedig yn gam mawr, yn enwedig os ydych chi ar fin ymddeol. Ond does dim rhaid i chi gymryd y cam hwn heb gael cyngor. Gallwch gael cymorth gyda chymorth, cyrsiau hyfforddiant a chyllido.
Mae gwahanol ffyrdd o fod yn hunan-gyflogedig:
Os ydych chi'n rhedeg eich busnes eich hun, does dim gwyliau, dim tâl salwch, dim pensiwn a dim incwm rheolaidd. Mae pob tebygrwydd y bydd rhaid i chi weithio oriau hwy, afreolaidd a dros y penwythnos o bryd i'w gilydd. Hefyd, bydd rhaid i chi gyflwyno'ch cyfrifon treth eich hun.
Rhai o'r manteision yw nad oes rhaid i chi weithio i rywun arall, boddhad, defnyddio'ch profiad, eich talentau a'ch gallu i'r eithaf, annibyniaeth ariannol ac oriau gweithio hyblyg.
Cyn dod yn hunangyflogedig, bydd rhaid i chi ymchwilio i'ch syniad busnes a'i ddatblygu. Yna, paratowch gynllun busnes sy'n adlewyrchu beth mae'n rhaid i chi ei wneud i sefydlu a rhedeg busnes.
Mae gan y gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth restr atgoffa ar gyfer dod yn hunangyflogedig.
Mae'r gwasanaeth cyngor am fusnes cenedlaethol Business Link yn cynnig trefnwr dechrau busnes.
Mae'n bosib y gallwch chi gael help ariannol ar ffurf grantiau gan elusennau neu ymddiriedolaethau neu fenthyciadau gan fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Mae'r Cyfeiriadur Grantiau a Chymorth (GSD) yn un ffynhonnell bosib ar gyfer cael help gyda chychwyn neu ddatblygu'ch busnes.
Mae gan Gyllid a Thollau EM linell gymorth i bobl sydd newydd fynd yn hunan-gyflogedig. Gallwch ffonio 08459 15 45 15 a gofyn am y canllawiau 'Cychwyn Busnes'.
Mae’r Lwfans Menter Newydd wedi’i anelu at helpu cwsmeriaid cymwys i ddechrau eu busnes ei hun neu i ddod yn hunangyflogedig.
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi body n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn barhaus am chwe mis neu fwy.
Business Link yn cynnig cyngor am hyfforddiant i'r rheiny sy'n ystyried cychwyn busnes.
Mudiad cenedlaethol heb fryd ar wneud elw yw Cynllun y Tywysog ar gyfer Menter Aeddfed (PRIME) a'i brif nod yw helpu pobl dros 50 i sefydlu busnes. Ffoniwch y llinell radffon ar 0800 783 1904 i gael gwybodaeth.
Mae Business Link yn ffynhonnell dda o wybodaeth a chyngor. Gallwch ffonio llinell gymorth Business Link ar 0845 600 9006 (minicom 0845 606 2666).
Mae gan y gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth restr atgoffa ar gyfer yr hunan-gyflogedig.
Bydd angen digon o arian arnoch i fyw wrth i chi gychwyn y busnes, yn ogystal ag arian er mwyn talu costau cychwyn y busnes.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am dalu eich treth a'ch Yswiriant Gwladol eich hun. Mae'n bosib y dewiswch chi gael cyfrifydd neu, fel arall, cewch gyflwyno ffurflen dreth hunanasesu ar-lein.
Os mai dechrau busnes newydd drwy'r Fargen Newydd fyddwch chi, fe gewch chi'r un budd-daliadau ag yr oeddech yn eu cael o'r blaen. Mae'n bosib y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael ychwanegiad. Os llwyddwch chi i ddod o hyd i waith drwy'r Fargen Newydd, cynigir gwahanol fudd-daliadau. Mae’r rhain yn cynnwys credydau treth, er mwyn sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag yr oeddech chi pan oeddech ar fudd-daliadau.
Bydd rhaid i chi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth os byddwch yn dal i fod mewn gwaith a thâl pan fyddwch chi'n ei dderbyn. Gweler ‘Gweithio ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth – eich opsiynau’ i gael rhagor o wybodaeth.