Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw i newid eich ffordd o weithio yn ddiweddarach yn eich bywyd

Efallai yr ydych yn ystyried dewisiadau ymddeol, ac efallai yr ydych am weithio oriau hyblyg a gweithio pryd mae'n gyfleus i chi. Efallai yr hoffech fod yn 'fos arnoch eich hun' a sefydlu busnes neu fynd yn hunangyflogedig. Neu efallai yr hoffech wybod beth yw eich dewisiadau o ran gweithio ar ôl ymddeol.

Mynd yn hunangyflogedig os ydych chi’n hŷn

Mae penderfynu dechrau menter busnes newydd drwy fynd yn hunangyflogedig yn gam mawr, yn enwedig os ydych chi'n agos at oed ymddeol. Ond nid oes rhaid i chi gymryd y cam ar eich pen eich hun - mae cymorth ar gael.

Gwahaniaethu ar sail oedran

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr i wahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail oedran. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr o bob oed â siawns cyfartal i hyfforddiant a dyrchafiad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cael gwybod mwy am wahaniaethu ar sail oedran.

Gweithio'n rhan-amser ar ôl i chi ymddeol

Nid yw cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - yn gyflogedig neu'n wirfoddol. Gallwch ddewis dal i weithio wrth gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a chael mwy ohono'n nes ymlaen. Mae cynlluniau a chymhellion ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Gwaith rhan-amser

Efallai yr hoffech weithio'n rhan-amser er mwyn gallu gwneud pethau eraill, neu am nad ydych chi'n dymuno cael gwaith llawn amser. Gall gweithio'n rhan-amser fod yn ffordd dda o gydbwyso'ch gwaith a'ch ymrwymiadau personol. Os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser, mae gennych yr hawl i gael eich trin yn deg o'ch cymharu â'ch cyd-weithwyr amser llawn.

Gweithio hyblyg a chydbwyso bywyd a gwaith

Mae'n bwysig cydbwyso eich gwaith a'ch bywyd cartref. Nod yr hawl i ofyn am weithio hyblyg yw helpu cyflogwyr a gweithwyr i gytuno ar batrymau gweithio sy'n gyfleus i bawb. Cewch wybod yma beth yw gweithio hyblyg a sut i wneud cais amdano.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Os ydych chi’n gwneud gwaith cyflogedig bydd gennych hawl i o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn gyfradd fesul awr warantedig i ddiogelu cyflog gweithwyr.

Newid gyrfa

Ydych chi'n ystyried newid gyrfa? Weithiau, gall fod yn anodd gwybod a oes angen her newydd arnoch, neu a yw'n amser newid cyfeiriad yn gyfangwbl. Gall canfod yr yrfa iawn roi boddhad mawr, felly mae'n werth rhoi rhywfaint o ymdrech i gynllunio gyrfa. Dechreuwch drwy feddwl am yr hyn sy'n eich cymell chi fel person, yna meddyliwch am yrfaoedd sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau.

Gwirfoddoli

Mae mudiadau gwirfoddol yn deall bod pobl hŷn yn dod â sgiliau ac arbenigedd helaeth i wirfoddoli. Drwy drosglwyddo eich sgiliau a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu, gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau newydd a gwella eich iechyd a'ch ffitrwydd yn gyffredinol.

Hawlio'ch Pensiwn Gwladwriaeth yn nes ymlaen

Os gohiriwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch naill ai ennill mwy o Bensiwn y Wladwriaeth neu gael taliad unswm trethadwy. Drwy wybod beth yw eich dewisiadau, gallwch wneud gwell penderfyniadau ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU