Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth os ydych chi'n gyflogedig ac yn cael pensiwn

Nid yw cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth bob amser yn golygu eich bod yn rhoi'r gorau i weithio nac yn rhoi'r gorau i dalu treth. Os byddwch yn dal ati i weithio neu'n dychwelyd i weithio, bydd faint o dreth a dalwch - a sut y byddwch yn talu'r dreth - yn dibynnu ar eich cyfanswm o incwm trethadwy ac ar y math o incwm pensiwn yr ydych yn ei gael.

Os ydych chi'n gyflogedig a dim ond Pensiwn y Wladwriaeth yr ydych yn ei gael

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cyfrif fel incwm trethadwy ond fe'i telir i chi heb dynnu treth oddi arno. Os bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth, eich swydd ac unrhyw ffynonellau eraill o incwm yn uwch na'ch lwfansau di-dreth - megis Lwfans Personol neu Lwfans Person Dall - bydd angen i chi dalu treth ar gyfanswm eich incwm trethadwy.

Os oes angen talu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn trefnu i'ch cyflogwr dynnu'r dreth o'ch enillion drwy'r system cod treth Talu Wrth Ennill. Maen nhw’n gwneud hyn drwy leihau eich lwfansau di-dreth yn ôl faint o incwm Pensiwn y Wladwriaeth gewch chi. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut mae eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn ymddangos yn eich cod treth cyflogaeth drwy ddilyn y dolenni isod.

Os yw’ch materion yn gymhleth, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Er enghraifft, os oes gennych incwm o fuddsoddiadau sy’n uwch na lefel benodol, neu incwm tramor.

Os ydych chi'n gyflogedig ac yn cael mwy nag un pensiwn (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth)

Os ydych chi'n gyflogedig ac yn cael pensiwn cwmni a/neu bensiwn personol cewch nifer o godau treth a slipiau cyflog - gan eich cyflogwr a chan eich darparwr/darparwyr pensiwn.

Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth hefyd, bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn ceisio casglu'r holl dreth sy'n ddyledus arno gan un cwmni/darparwr pensiwn yn unig drwy leihau eich lwfans di-dreth fel y disgrifiwyd yn yr adran flaenorol. Os oes gennych nifer o bensiynau personol/cwmni byddant fel arfer yn casglu'r dreth sy'n ddyledus ar bob un, gan bob darparwr pensiwn ar wahân.

Os bydd gennych fwy nag un slip cyflog a chod treth, mae'n bwysig i chi ddeall a gwirio pob un ohonynt. Os ydych chi'n meddwl bod cod yn anghywir gallwch ofyn am ei gywiro. Dilynwch y canllaw isod i gael gwybod mwy.

Treth pan fyddwch yn mynd yn ôl i weithio ar ôl ymddeol

Os byddwch yn dechrau swydd newydd ar ôl ymddeol bydd angen i'ch cyflogwr roi gwybod i Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir.

Os nad oeddech yn talu treth ar ôl ymddeol

Bydd angen i chi ddechrau talu treth os bydd cyfanswm eich incwm gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a/neu unrhyw bensiwn arall a gewch, gyda'ch enillion cyflogaeth, yn uwch na'ch lwfansau di-dreth - megis Lwfans Personol neu Lwfans Person Dall.

Pan fydd eich cyflogwr yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM eich bod wedi dechrau gweithio bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod treth a chasglu’r swm cywir o dreth drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Fel y disgrifiwyd yn gynharach, os oes angen talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrif am hyn drwy leihau eich lwfansau di-dreth yn ôl faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch.

Os oeddech eisoes yn talu treth ar ôl ymddeol

Os oeddech yn talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill oherwydd bod gennych eisoes bensiwn cwmni neu bensiwn personol, darllenwch adrannau blaenorol y canllaw hwn i ddeall sut y byddwch yn talu treth pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Os nad oeddech chi'n talu drwy'r system Talu Wrth Ennill yn flaenorol ac yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu er mwyn talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth (ac ar incwm arall) efallai y bydd modd i chi dalu'ch treth i gyd drwy eich cod treth cyflogaeth. Mae'n bosib y gall eich cyflogwr newydd eich cynghori ynghylch hyn neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Hunanasesu.

Yn gweithio ac ar incwm isel?

Os ydych chi'n ennill cyflog ac yn cael pensiwn ond bod eich incwm yn dal yn isel, efallai y gallwch hawlio Credyd Pensiwn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU