Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n ddi-waith, boed hynny'n wirfoddol neu am fod eich swydd wedi dod i ben, fe all gymryd amser i ddod o hyd i swydd arall, waeth faint yw eich oed. Fodd bynnag, mae cyfoeth eich profiad yn y gweithle'n hynod o werthfawr ac fe allwch ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod o hyd i waith.
Os ydych chi'n ddi-waith neu'n meddwl am newid gyrfa, mae'n adeg dda i chi edrych eto ar eich profiad a'ch CV. Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych i'w cynnig ac a oes angen rhagor o hyfforddiant arnoch er mwyn gwneud eich dewis swydd.
Mae llawer o asiantaethau recriwtio a chynghori ar gael sy'n cynnig help i bobl hŷn sy'n chwilio am waith.
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig help a chyngor am swyddi a hyfforddiant i bobl sy'n gallu gweithio. Gall ymgynghorydd yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol drafod y math o waith yr hoffech a pha gyfleoedd hyfforddiant y gallai fod ar gael.
Dod o hyd i swydd nawr
Mae’r cyfleuster chwilio swyddi a sgiliau Cross & Stitch yn eich galluogi i chwilio am swyddi, hyfforddiant, gwybodaeth gyrfaoedd, gwaith gwirfoddol a darparwyr gofal plant ar draws y DU.
Mae yna dros 400,000 o swyddi i chwilio. Gallwch hefyd weld proffiliau gyrfa sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch oriau gwaith a chymwysterau.
Mae penderfynu cychwyn ar fenter fusnes newydd drwy ddechrau busnes eich hunan yn gam mawr. Yn wir, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o oblygiadau llawn dod yn hunan-gyflogedig a chael gwybod ble i fynd am help a chyngor.
Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn y gwaith yn anghyfreithlon mewn pob math o swydd bron.
Mae pob cyflogai a gweithiwr o unrhyw oedran yn cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oedran, gan gynnwys partneriaid mewn cwmnïau, gweithwyr contract ac unrhyw un sy’n dilyn hyfforddiant galwedigaethol.
Mae pob elfen o’ch swydd (neu swydd arfaethedig) wedi’i diogelu rhag gwahaniaethu ar sail oedran, gan gynnwys yr elfennau canlynol:
Mewn rhai achosion, efallai y gellir cyfiawnhau trin gweithiwr neu gyflogai yn wahanol oherwydd ei oedran. Gellir herio hyn mewn tribiwnlys.