Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwella'ch CV ar ôl 50

Fe all diweddaru'ch CV (curriculum vitae) a chithau wedi bod yn gweithio neu'n ddi-waith ers tro fod yn anodd. Cael gwybod sut i ysgrifennu CV llwyddiannus a chreu argraff gyntaf dda ar ddarpar gyflogwyr.

Creu CV newydd

Gallwch ddefnyddio'ch CV i wneud yn fawr o'r hyn sydd gennych i'w gynnig a'ch llwyddiannau. Yn aml iawn, dyma'ch cysylltiad cyntaf gyda chyflogwr.

Y pethau hanfodol

Beth na ddylech byth ei hepgor?

  • enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost (cofiwch sicrhau bod y rhain wedi'u diweddaru)
  • sgiliau allweddol - dim mwy na chwech - ac ystyriwch gynnwys sy'n berthnasol i swydd newydd
  • eich gyrfa hyd yn hyn - profiad gwaith neu hanes cyflogaeth a dyddiadau
  • addysg neu gymwysterau

Beth y gallwch chi ei hepgor?

  • dyddiad geni - er y gall rhai cyflogwyr ofyn am y wybodaeth hon rywbryd yn ystod eich cais
  • manylion personol - ystyriwch a oes angen cynnwys cyfeiriad at eich plant neu'ch statws priodasol
  • diddordebau - dim ond diddordebau sy'n berthnasol i'ch cais am swydd y dylech eu cynnwys neu nodwch fod gennych sgiliau perthnasol, trosglwyddadwy
  • canolwyr os gofynnir amdanynt - bydd cyflogwr yn cysylltu â chi am fanylion eich canolwyr os oes ganddynt ddiddordeb yn eich cyflogi

Diweddaru eich CV

Os ydych chi dros 50, mae'n bosib eich bod wedi gwneud llawer o wahanol swyddi, ond does dim modd cynnwys popeth. Ceisiwch gadw'r peth o fewn tudalen neu ddwy a'i olygu i roi'r flaenoriaeth i'ch manylion mwyaf diweddar a mwyaf perthnasol.

Dim ond yr uchafbwyntiau y dylech chi eu nodi - does dim angen rhoi pob cam ar eich ysgol yrfa. Gallwch arbed lle drwy gywasgu swyddi blaenorol yn ddisgrifiadau byr neu gynnwys teitlau'r swyddi'n unig.

Mae'n bwysig iawn teilwra'ch sgiliau, eich cryfderau a'ch llwyddiannau i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Edrychwch ar ofynion y swydd a cheisiwch lunio'ch CV i gyfateb i'r gofynion lle bo modd ac yna rhowch enghreifftiau i adlewyrchu hyn.

Y pethau sylfaenol

Dyma ambell air i gall i'ch helpu i greu argraff dda a phroffesiynol.

Cofiwch wneud hyn:

  • teipio'ch CV ar bapur A4 gwyn o safon, mewn ffont glir
  • rhoi'ch enw ar frig y dudalen - nid curriculum vitae na CV
  • rhoi eich manylion personol a'r manylion cysylltu i gyd ar frig y dudalen
  • dechrau gyda'ch profiad diweddaraf
  • cadw'r cynnwys yn glir ac yn gryno
  • defnyddio iaith gadarnhaol
  • gosod a chyflwyno'r wybodaeth yn ofalus, er mwyn ei gwneud yn hawdd ei darllen a'i deall
  • anelu at roi'r cyfan ar un neu ddwy dudalen
  • os oes rhaid defnyddio dwy - ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi wneud hynny os oes gennych flynyddoedd o brofiad - cofiwch beidio â stwffio'r cyfan i dudalen a hanner - defnyddiwch y papur i gyd
  • paratoi drafft cychwynnol ac yna'i olygu
  • gofyn i rywun arall ei brawf-ddarllen i chi ar ôl gorffen

Peidiwch â

  • cynnwys eich cyflog ar eich CV - a thybio bod y cyflog wastad i'w drafod
  • rhoi'r argraff eich bod yn newid swydd yn aml
  • gwneud gwallau sillafu a theipio
  • gorddefnyddio 'fi', y person cyntaf unigol, a'r amser gorffennol
  • cynnwys gwybodaeth amherthnasol

Amseru a dyddiadau

Ceisiwch osgoi bylchau o ran amser - hyd yn oed os nad oeddech chi mewn swydd gyflogedig, soniwch am waith gwirfoddol neu brofiadau sydd wedi ychwanegu at eich set sgiliau.

Peidiwch ag ymddiheuro dros gamgymeriadau yn eich cyflogaeth, megis cyfnodau o hunan-gyflogaeth neu redeg eich busnes eich hun na fu'n llwyddiannus.

Llythyr cefndir

Mae'n gwrtais ac yn broffesiynol cynnwys llythyr cefndir gyda'ch CV, yn nodi cyfeirnod y swydd ac yn ailadrodd eich manylion cysylltu.

Er bod eich CV yn rhoi'r ffeithiau am eich cyflogaeth, mae'n bosib y bydd y llythyr yn esbonio pam bod y swydd yn ddelfrydol i chi. Rhaid i chi geisio rhoi rheswm i'r darpar gyflogwr dros ddymuno darllen eich CV.

Ond mae'n well bod yn gryno. Peidiwch â defnyddio mwy na thri neu bedwar o baragraffau a dim ond un ochr o A4.

Sut i fod yn gadarnhaol ynghylch eich oedran

Does dim rhaid rhoi manylion am eich oedran ar eich CV. Yn hytrach, dylech roi sylw cadarnhaol i'ch profiad drwy dynnu sylw at eich llwyddiannau, nid at amser.

Diweddarwch eich CV yn rheolaidd a'i ddiwygio ar gyfer pob cais am swydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU