Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n chwilio am waith neu os ydych am newid eich gyrfa, gallwch gael cymorth proffesiynol sydd wedi'i anelu'n benodol at bobl dros 50. Yma cewch wybod ynghylch rhoi eich CV at ei gilydd a sut mae paratoi ar gyfer cyfweliad.
Gall fod yn anodd diweddaru eich CV os ydych chi wedi bod yn gweithio neu allan o waith am gyfnod hir.
Bydd angen i chi ysgrifennu CV llwyddiannus i roi argraff gyntaf dda i ddarpar gyflogwyr, a goresgyn y rhwystr cyntaf i ganfod swydd.
Os nad ydych chi'n gweithio, boed hynny'n wirfoddol neu am i chi gael eich diswyddo, gall gymryd amser i ganfod swydd arall, faint bynnag yw eich oed. Fodd bynnag, mae eich profiad helaeth yn y gweithle yn werthfawr iawn, a gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ganfod swydd.
Mae yna raglenni ac adnoddau arbenigol ar gael i bobl dros 50 i'ch helpu i ganfod gwaith neu ddysgu sgiliau newydd.
Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cais am swydd a'ch cyfweliad yn llwyddiannus. Mae gwybodaeth a chyngor ymarferol wedi cael eu rhoi at ei gilydd i’ch helpu chi i baratoi.
Mae dysgu wrth eich gwaith, boed hynny drwy astudio ar gyfer cymhwyster neu drwy ddilyn hyfforddiant penodol, yn ffordd wych o gael amser i ddysgu. Os ydych chi eisoes yn y gwaith, mae'n bosibl y gall eich cyflogwr helpu. Os ydych chi am ddychwelyd i weithio, gallwch roi cynnig ar raglen dysgu yn y gwaith.
Ar wahanol adegau yn eich bywyd, efallai y bydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnoch i'ch helpu i mewn i waith. Os ydych chi'n rhiant unigol, yn anabl, yn gadael yr ysgol neu'r coleg, dros 50, neu'n ddi-waith, mae cymorth ymarferol ar gael.
Gall canfod yr yrfa iawn roi boddhad mawr, felly mae'n werth rhoi rhywfaint o ymdrech i gynllunio gyrfa. Dechreuwch drwy feddwl am yr hyn sy'n eich cymell chi fel person, yna meddyliwch am yrfaoedd sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau.
Os ydych chi'n chwilio am gyngor ar ddysgu personol a gyrfaoedd, gallwch ei gael mewn ffordd sy'n addas i chi. Gallwch gyfarfod cynghorydd wyneb yn wyneb, sgwrsio dros y ffôn neu gysylltu â chynghorydd drwy e-bost: pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus.
Os ydych chi'n dychwelyd i weithio ar ôl derbyn budd-dal, bydd rhai o'ch budd-daliadau'n stopio'n awtomatig ar unwaith. Bydd rhai'n parhau am ychydig ar ôl i chi ddechrau gweithio i'ch rhoi ar ben ffordd. Efallai y byddwch yn gallu cael budd-daliadau eraill pan fyddwch yn gweithio.