Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych pa bryd fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o dan y gyfraith bresennol. Mae'r gyfraith bresennol eisioes yn darparu i oedran Pensiwn y Wladwriaeth gynyddu i:
- 67 rhwng 2034 a 2036
- 68 rhwng 2044 a 2046
Fodd bynnag, cyhoeddodd y llywodraeth ar 29 Tachwedd 2011 fod oedran Pensiwn y Wladwriaeth nawr yn cynyddu i 67 rhwng 2026 a 2028. Nid yw'r newid hwn yn gyfraith eto a bydd angen cymeradwyaeth y Senedd. Nid yw cyfrifianell Pensiwn y Wladwriaeth yn cymryd i ystyriaeth y cyhoeddiad diweddar i ddod â'r cynnydd ymlaen i 67.
Mae'r Llywodraeth yn ystyried hefyd sut i wneud yn siŵr fod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cadw mewn cam â chynyddiadau mewn disgwyliad oes. Bydd y llywodraeth yn dod â chynigion ymlaen cyn bo hir.
Bydd cyfrifianell Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych pa bryd fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o dan y gyfraith bresennol. Nid yw'n cymryd i ysyriaeth y cyhoeddiad diweddar i ddod â'r cynnydd ymlaen i 67.