Public services all in one place
Mae'r wybodaeth rydym yn ei gasglu amdanoch yn dibynnu ar natur eich busnes gyda ni. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei roi i ni i ddatblygu unrhyw fusnes adrannol. Efallai byddwm yn gwirio'r wybodaeth:
i weld sut mae'n cymharu â'r wybodaeth sydd gennym eisoes.
Hefyd gallwn gael gwybodaeth ynglyn â chi gan drydydd parti penodol, neu roi gwybodaeth iddynt i wirio cywirdeb y wybodaeth. Mae hyn yn cael ei wneud i:
Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth ynglyn â chi i unrhyw un y tu allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau os nad yw'r gyfraith yn ein caniatau neu eich bod chi wedi rhoi eich caniatad pendant i ni.
Nid yw'n gwefan yn galluogi'n ymwelwyr i gyfathrebu âg ymwelwyr eraill nag iddynt bostio gwybodaeth y gall eraill gael mynediad ato. Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Rheolydd Data at bwrpas Cynllun Gwarchod Data. Os hoffech ddysgu mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu am y modd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i DWP a'ch gwybodaeth bersonol
Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ffurfiwyd yr Adran ar yr 8ed o Fehefin 2001 o'r rhannau o'r cyn Adran Nawdd Cymdeithasol, a rhannau o'r Adran Addysg a Chyflogaeth.
Mae cyfleusterau e-bost yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ffordd o wneud ymholiadau cyffredinol. Mae'n ddrwg gan yr Adran na all ymgymryd a chyfnewidiadau hir drwy'r e-bost ag unigolion gan nad yw hyn yn ffordd ddiogel o anfon manylion personol.
Fodd bynnag, os byddwch yn cysylltu â ni drwy'r e-bost ac na allwn ymateb yn yr un ffordd, byddwn yn ateb drwy ffyrdd eraill fel dros y ffôn neu drwy'r post.