Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleoliadau gwaith i raddedigion

Gall leoliad gwaith i raddedig fod yn gyflwyniad gwerthfawr i fyd gwaith – a gall fod yn hwb i ragolygon eich gyrfa yn y dyfodol. Gallwch chwilio am gyfleoedd lleoliadau gwaith ar lein drwy'r Gronfa Talent Graddedigion.

Lleoliadau gwaith i raddedigion: beth ydyn nhw

Cyn bo hir - y gwasanaeth lleoliadau gwaith cenedlaethol

Ceir cynlluniau i gynnig gwasanaeth lleoliadau gwaith estynedig i israddedigon yn ogystal ag i raddedigion, gyda bwrsarïau ar gael i fyfyrwyr ar incwm is.

Caiff lleoliadau gwaith i raddedigion eu cynnig gan amrywiaeth eang o sefydliadau, ac mae ystod eang o gyfleoedd ar gael.

The terms ‘placement’ and ‘internship’ usually mean the same thing. Mae rhai lleoliadau'n cynnig tâl ond mae'r lleill yn ddi-dâl.

Bydd pob lleoliad yn wahanol, gan ddibynnu ar anghenion y cyflogwr penodol. Ond yn nodweddiadol, gallech ddisgwyl cael darn penodol o waith, neu restr o ddyletswyddau. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau'n para am ychydig o fisoedd.

Gall lleoliadau roi'r cyfle i chi:

  • gael profiad gwaith 'ymarferol' gwerthfawr
  • profi eich hun i gyflogwr
  • meithrin eich hyder
  • llunio cysylltiadau yn y diwydiant rydych chi'n ei ddewis
  • gweld a yw swyddogaeth neu sefydliad penodol yn addas i chi
  • gwella’ch rhagolygon cyflogaeth i'r dyfodol

Dod o hyd i leoliadau gwaith

Un ffordd o ddod o hyd i leoliadau gwaith yw drwy'r Gronfa Talent Graddedigion. Fel rheol mae'r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion a raddiodd yn 2008 neu 2009 sydd ag o leiaf gradd gyntaf neu Radd Sylfaen.

Bydd gan wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol hefyd wybodaeth am gyfleoedd lleoliadau gwaith.

Gwneud cais am leoliadau

Os byddwch yn gwneud cais am leoliad, mae'n syniad da trin y broses ymgeisio fel petaech yn gwneud cais am swydd â thâl.

I gael gwybod mwy, edrychwch ar 'Cael swydd i raddedigion'.

Oes angen i chi fod wedi cael profiad gwaith yn barod?

Mae lleoliadau gwaith wedi'u dylunio i roi blas i chi ar weithio i gyflogwr. Ni fydd disgwyl i chi fod â phrofiad gwaith yn barod.

Fodd bynnag, efallai bydd rhai lleoliadau'n gofyn am raddedigion gyda phrofiad penodol - felly edrychwch ar ddisgrifiad y swyddogaeth yn ofalus cyn i chi wneud cais.

Os oes gennych chi brofiad gwaith perthnasol – er enghraifft, o gwrs 'brechdan' neu swydd ran amser – gallai hyn gryfhau eich cais.

Cyfweliadau ac asesiadau

Mae gan wahanol sefydliadau wahanol agweddau at hyn. Efallai y gofynnir i chi ddod i gyfweliad (byddwch yn barod i drafod eich cynlluniau gyrfa tymor hir yn ogystal â'r lleoliad gwaith ei hun).

Bydd rhai sefydliadau'n cynnal diwrnodau asesu, lle gofynnir i chi gyflawni rhai tasgau i ddangos bod gennych chi'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y lleoliad gwaith.

Dechrau lleoliad gwaith

Os cynigir lleoliad i chi, fel rheol byddwch yn cytuno ar gontract gyda'ch cyflogwr. Bydd hyn yn disgrifio'r dyletswyddau y disgwylir i chi eu cyflawni. Gall hefyd gynnwys:

  • eich oriau gwaith
  • sut bydd faint o waith a wnewch a'i ansawdd yn cael ei fesur
  • faint o rybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi os oes arnoch chi eisiau gadael y lleoliad yn gynnar
  • manylion unrhyw dâl gewch chi

Tâl

Cewch dâl am rai lleoliadau gwaith, ond nid am eraill. Bydd a fydd gennych hawl i gael tâl ai peidio yn dibynnu ar beth yn union rydych chi’n ei wneud ar gyfer y sefydliad - yn hytrach nag enw eich swydd. Os ydych chi’n weithiwr, mae’n rhaid i chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf. Yr eithriad i hyn ydy os yw eich lleoliad gwaith yn rhan o gwrs addysg bellach neu addysg uwch ac yn para hyd at flwyddyn.

Os ydych chi’n gweithio fel gwirfoddolwr, rydych chi’n annhebygol o gael eich talu.

Hyd yn oed os ydy'ch lleoliad gwaith chi'n ddi-dâl, mae’n werth i chi holi a fyddai’r sefydliad yn medru rhoi arian i chi ar gyfer eich treuliau, megis costau teithio dyddiol.

Hawliau a chyfrifoldebau eraill

Ar leoliad gwaith, mae’n werth i chi ymddwyn fel pe baech yn weithiwr parhaol. Edrychwch ar 'Cael swydd i raddedigion' i gael cyngor.

Hawlio budd-daliadau

Os ydych chi wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch ddal ati i hawlio os yw eich lleoliad yn golygu llai na 16 awr yr wythnos o waith. Ni chewch chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar gyfer lleoliadau 16 awr neu fwy yr wythnos.

Fodd bynnag, os oeddech chi wedi graddio yn 2009 ac rydych wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am o leiaf chwe mis cyn dechrau'r lleoliad, o fis Ionawr 2010 ymlaen efallai byddwch chi'n gymwys i gael 'lwfans hyfforddi' sy'n gyfystyr â'ch Lwfans Ceisio Gwaith. Edrychwch ar 'Lwfansau hyfforddi ar leoliadau i raddedigion' i gael gwybod mwy.

Os ydych chi ar leoliad gwaith ac yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu lwfans hyfforddi, rhaid i chi ddal ati i chwilio am waith a bod yn barod i adael y lleoliad os cynigir swydd i chi.

Os bydd eich swyddogaeth yn newid yn ystod y lleoliad

Os gofynnir i chi wneud mwy na'r hyn y cytunwyd arno'n wreiddiol, gallai hynny fod yn arwydd da: dyma gyfle i chi brofi eich sgiliau a chynyddu eich cyfleoedd o gyflogaeth yn y dyfodol.

Ond os ydych chi'n teimlo y gofynnir i chi wneud gormod, siaradwch â'ch cyflogwr. Efallai byddant yn fodlon ymestyn y lleoliad, talu mwy o arian i chi, neu gynnig cyfle i chi wneud cais am swydd.

A fydd lleoliad gwaith yn arwain at swydd?

Nid oes gwarant y bydd lleoliad gwaith yn arwain at swydd. Fodd bynnag, os bydd swydd ar gael byddwch chi mewn sefyllfa wych i gael eich ystyried.

Chwilio am swyddi yn ystod eich lleoliad

Os byddwch yn gwneud cais am swydd yn rhywle arall a fyddai'n dechrau cyn i'ch lleoliad ddod i ben, dylech chi ddweud wrth y cwmni rydych yn gwneud cais iddo am gyfnod rhybudd eich lleoliad gwaith.

Os oes arnoch chi eisiau cymryd amser o'r gwaith ar gyfer cyfweliadau, bydd angen i chi drafod hyn gyda chyflogwr eich lleoliad. Cofiwch efallai y bydd angen geirda arnoch chi, felly mae'n werth delio â hyn mor broffesiynol ag sy'n bosib.

Allweddumynediad llywodraeth y DU