Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallwch wneud eich trefniadau eich hun pan fyddwch yn dod â pherthynas i ben. Neu efallai y bydd angen help arnoch i ddod â'r berthynas i ben yn ffurfiol a rhannu pethau rhyngoch. Mynnwch wybod pryd y bydd yn bosibl i chi reoli pethau eich hun a phryd y gallai cael help gan gyfreithwyr a chyfryngwyr fod yn ddefnyddiol.
Bydd y cymorth a'r cyngor gorau y gallwch ei gael pan fyddwch yn dod â pherthynas i ben yn dibynnu ar faint rydych chi a'ch partner yn cytuno arno.
Bydd angen i chi feddwl am:
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen i chi ddod â'r gydberthynas i ben yn gyfreithiol o hyd. Gallwch wneud hyn eich hun os hoffech wneud hynny.
Os ydych wedi bod yn byw gyda'ch gilydd
Os ydych wedi bod yn byw gyda'ch gilydd, efallai y byddwch am gael cytundeb cyfreithiol i gytuno sut byddwch yn rhannu eich arian, eich eiddo a'ch eitemau personol. Gall hyn eich helpu i osgoi anghytundebau'n ddiweddarach.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd cytuno ar sut i ofalu am eich plant neu wahanu eich eiddo a'ch eitemau personol, gall defnyddio cyfryngwr arbed amser ac arian i chi.
Mae cyfryngwr yn unigolyn annibynnol a fydd yn gweithio gyda'r ddau ohonoch i ddod i gytundeb. Ni fydd yn ochri â neb a bydd yn cadw eich trafodaethau'n gyfrinachol.
Mae cyfryngwyr yn aml yn rhatach na chyfreithwyr ac os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallai'r gwasanaeth cyfryngu fod am ddim.
Bydd eich cyfreithiwr yn eich cynghori ar yr hyn sydd orau i chi yn ei farn ef
Gall cyfreithwyr eich helpu i ddod â chydberthynas i ben. Bydd yn negodi gyda'ch partner (fel arfer drwy ei gyfreithiwr/ei chyfreithiwr) ac yn ceisio dod i gytundeb.
Bydd eich cyfreithiwr yn eich cynghori ar yr hyn sydd orau i chi yn ei farn ef. Os yw eich partner yn defnyddio cyfreithiwr, bydd ei gyfreithiwr yn ei gynghori ar beth sydd orau iddo yn ei farn ef. Yna bydd y cyfreithwyr yn negodi rhyngddynt, yn aml dros y ffôn neu'n ysgrifenedig.
Os gall y cyfreithwyr ddod i gytundeb, gallant fynd â'r cytundeb i'r llys a'i wneud yn gyfrwymol yn gyfreithiol. Mae hyn yn digwydd yn y mwyafrif o achosion.
Os oes angen cyfreithiwr arnoch, dylech gadarnhau a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Chyngor Cyfreithiol Cymunedol, neu gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol.
'Cyfraith gydweithredol'
Mae rhai cyfreithwyr yn defnyddio proses o'r enw 'cyfraith gydweithredol' wrth helpu pobl i ddod â'u cydberthynas i ben yn ffurfiol.
Byddwch chi, eich partner a'ch cyfreithwyr yn cyfarfod i ddod i gytundeb. Os byddwch yn defnyddio cyfreithwyr fel hyn, byddwch yn llofnodi cytundeb y byddwch yn datrys eich problemau heb fynd i'r llys. Nid oes unrhyw amserlen benodol - bydd eich cyfreithwyr yn gweithio gyda chi hyd nes eich bod wedi gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol.
Os na all eich cyfreithwyr ddod i gytundeb ynghylch arian ac eiddo, efallai y gofynnir i'r llys benderfynu.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gelwir y broses hon yn 'gymorth ategol'. Gall gymryd llawer o amser a gall fod yn ddrud, oherwydd bydd angen i chi dalu ffioedd y cyfreithiwr a'r llys. Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen 'Beth yw ystyr cymorth ategol' isod.
Os ydych wedi bod yn byw gyda'ch gilydd, ond heb fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil, efallai y bydd eich cyfreithwyr yn ceisio cael llys i gytuno ar 'gytundeb gwahanu'. Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen 'Cytundebau cyfreithiol os byddwch yn gwahanu' isod.