Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd eich gŵr neu'ch gwraig yn dechrau'r broses ysgaru, anfonir gwaith papur gan y llys atoch. Mynnwch wybod yr hyn sydd angen i chi ei wneud pan gewch 'ddeiseb ysgar' a beth i'w wneud os ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r ddeiseb.
Os yw eich gŵr neu'ch gwraig wedi dechrau gweithrediadau'r ysgariad yn eich erbyn, bydd y llys yn anfon 'deiseb ysgar' atoch. Mae hyn yn dangos y rhesymau pam ei fod ef/hi am gael ysgariad. Bydd angen i chi benderfynu a ydych yn cytuno â'r rhesymau hyn a chwblhau rhywfaint o waith papur.
Os ydych wedi cytuno â'r ysgariad â'ch gŵr neu'ch gwraig, ni ddylai fod unrhyw beth yn y ddeiseb ysgar rydych yn anghytuno ag ef
Os ydych wedi cytuno ar yr ysgariad â'ch gŵr neu'ch gwraig, ni ddylai fod unrhyw beth yn y ddeiseb ysgar rydych yn anghytuno ag ef.
Ynghyd â chopi o'r ddeiseb ysgar, bydd y llys yn anfon 'hysbysiad gweithrediadau' (ffurflen D8) a 'chydnabyddiaeth o wasanaeth' (ffurflen D10) atoch.
Dylech gadw'r hysbysiad gweithrediadau. Mae'n nodi rhif yr achos a beth y dylech ei wneud nesaf.
Os byddwch yn cytuno â phopeth ar y ddeiseb ysgar, dim ond ffurflen D10 y mae angen i chi ei chwblhau a'i dychwelyd.
Rhaid i chi wneud hyn o fewn wyth diwrnod i'w derbyn.
Unwaith y byddwch wedi dychwelyd y ffurflen, bydd y broses ysgaru yn parhau.
Os byddwch yn anghytuno â'r rhesymau a roddir ar y ddeiseb ysgar, gallwch ystyried ei 'hamddiffyn'.
Dim ond os nad yw unigolyn am ysgaru neu ei fod yn anghytuno â'r rhesymau dros yr ysgariad y caiff ysgariadau eu hamddiffyn fel arfer.
Mae'n bwysig cofio y gall amddiffyn ysgariad:
Felly, mae'n syniad da ceisio dod i gytundeb gyda'ch gŵr neu'ch gwraig os gallwch wneud hynny.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn anghytuno â'r rhesymau (sef y 'ffeithiau' ategol) dros yr ysgariad y mae eich partner wedi'u rhoi ar y ddeiseb ysgar.
Er y gallech ddadlau yn erbyn hyn mewn llys, gall fod yn haws i chi geisio cytuno ar y pethau hyn heb fynd i'r llys. Yna gall un ohonoch gofnodi deiseb ysgar newydd. Gallai hyn arbed amser ac arian i chi.
Os oes gennych anghytundebau ynghylch arian neu eiddo, dylech ddelio â'r rhain drwy broses ar wahân, sef Trefniant ffurfiol a wneir mewn llys yw 'gorchymyn ariannol' (a elwir hefyd yn 'orchymyn cymorth ategol' weithiau). Nid oes angen i chi amddiffyn ysgariad oherwydd yr anghytundebau hyn.
Efallai eich bod yn anghytuno ynghylch ble y bydd y plant yn byw a faint o amser y byddant yn ei dreulio â'r ddau ohonoch. Dylech ddelio â'r rhain ar wahân ac nid drwy amddiffyn ysgariad.
Os ydych yn ystyried amddiffyn ysgariad, mae'n syniad da cael cyngor proffesiynol
Os ydych yn ystyried amddiffyn ysgariad, mae'n syniad da cael cyngor proffesiynol.
Mae llawer o ffynonellau o gyngor - mae rhai am ddim, ond bydd rhaid i chi dalu am rai eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech allu dod o hyd i ffordd o osgoi amddiffyn yr ysgariad.
Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich helpu i ddod o hyd i gyngor.
Os byddwch yn penderfynu eich bod am amddiffyn yr ysgariad, rhaid i chi neu'ch cynghorydd lenwi'r ffurflen D10 a anfonwyd atoch gyda'r ddeiseb ysgar. Rhaid i chi lenwi'r rhan o'r ffurflen sy'n nodi eich bod yn amddiffyn yr ysgariad.
Ar ôl i chi anfon y ffurflen, bydd y llys yn anfon copïau at eich gŵr neu'ch gwraig fel ei fod ef/bod hi'n gwybod eich bod yn amddiffyn yr ysgariad.
Ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen, bydd gennych hyd at 21 diwrnod i ddweud pam eich bod yn amddiffyn yr ysgariad, sef 'rhoi ateb'. Os ydych yn byw dramor, efallai yr estynnir yr amser hwn.
'Croesddeisebau'
Yn hytrach nag amddiffyn ysgariad, efallai y byddwch am ddechrau eich ysgariad eich hun yn erbyn eich gŵr neu'ch gwraig. Er enghraifft, efallai y byddwch am wneud hyn os oes gennych dystiolaeth o'i odineb/godineb neu ymddygiad afresymol. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau eich deiseb ysgar eich hun - a elwir yn 'groesddeiseb'.
Unwaith y byddwch wedi rhoi eich 'ateb' neu 'groesddeiseb', bydd y llys fel arfer yn trefnu gwrandawiad i drafod yr achos. Fel arfer bydd angen i chi a'ch gŵr neu'ch gwraig fod yn bresennol a cheisio dod i gytundeb ynghylch yr ysgariad.
Rhaid dychwelyd ffurflen D10 i'r llys o fewn wyth diwrnod ar ôl i chi ei derbyn.
Os na fyddwch yn ymateb mewn amser, efallai y bydd beilïaid y llys yn rhoi'r ffurflenni ('cyflwyno') i chi'n bersonol ar ran eich gŵr neu'ch gwraig.
Os na fyddwch yn ymateb o hyd o fewn 21 diwrnod arall, gall eich gŵr neu'ch gwraig barhau gyda'r gweithrediadau ysgariad fel petaech wedi cytuno.