Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y credwch y bydd rhaid i gyfreithwyr wneud llawer o waith i chi os ydych yn cael ysgariad. Ond mewn sawl achos, gallwch ddelio â'r rhan fwyaf o'r trefniadau eich hun. Mynnwch wybod pryd y gallwch reoli eich ysgariad eich hun - a sut i wneud hynny.
Gall fod yn bosibl i chi drefnu eich ysgariad eich hun heb gynnwys cyfreithwyr
Gall fod yn bosibl i chi drefnu eich ysgariad eich hun heb gynnwys cyfreithwyr os byddwch yn cytuno ar:
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch y pethau hyn, mae'n well cael help gan gyfryngwr teuluol neu gyfreithiwr. Unigolyn annibynnol yw cyfryngwr teuluol a all eich helpu chi a'ch gŵr neu'ch gwraig i ddod i gytundeb.
Mae llawer o bethau y dylech geisio cytuno arnynt rhyngoch chi'ch hunain os ydych am ddelio â'ch ysgariad eich hun.
Trefniadau ar gyfer y plant
Dylech geisio penderfynu sut y byddwch yn gofalu am eich plant ar ôl i chi gael ysgariad. Hefyd, bydd angen i chi allu cytuno ar ble y bydd y plant yn byw a pha mor aml y gall eich priod eu gweld. Gweler 'Paratoi eich plant ar gyfer diwedd eich perthynas' i gael cyngor ar sut i wneud y trefniadau hyn.
Rhannu arian, eiddo ac eitemau personol
Dylech geisio penderfynu sut y byddwch yn rhannu eich arian a'r pethau rydych yn berchen arnynt. Gweler 'Gweithio allan materion o ran arian ac eiddo eich hunain' am fwy o wybodaeth.
Trefniadau cynhaliaeth gyda'ch gŵr neu'ch gwraig
Efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau cynhaliaeth gyda'ch gŵr neu'ch gwraig os bydd angen cymorth ariannol arno ef/arni hi pan fyddwch yn ysgaru. Gweler 'Taliadau cynhaliaeth os byddwch yn ysgaru neu'n dod â phartneriaeth sifil i ben' am fwy o wybodaeth.
Ewyllysiau pan fyddwch yn ysgaru
Bydd ysgaru yn gwneud gwahaniaeth mawr i unrhyw ewyllysiau y mae'r naill neu'r llall ohonoch wedi'u hysgrifennu. Efallai y bydd angen i chi newid eich ewyllys gyfredol neu ysgrifennu un newydd. Gweler 'Delio ag ewyllysiau pan ddaw eich perthynas i ben' am fwy o wybodaeth.
Er mwyn dod â'ch priodas i ben yn gyfreithiol, bydd angen i chi fynd drwy'r broses ysgaru ffurfiol.
Os gallwch gytuno ar bopeth gyda'ch priod, ni fydd rhaid i chi fynd i unrhyw wrandawiadau mewn llys.
Ond bydd angen i chi wneud cais am ysgariad o hyd ac yna gofyn i'r llys ei gadarnhau. Os na fyddwch yn gwneud hyn, byddwch yn briod o hyd ac ni fyddwch yn gallu ailbriodi.
Mae gwaith papur yr ysgariad yn syml iawn fel arfer
Cael help gyda gwaith papur yr ysgariad
Os ydych wedi cytuno ar bopeth gyda'ch gŵr neu'ch gwraig, mae gwaith papur yr ysgariad yn syml iawn fel arfer.
Ond os ydych yn poeni am lenwi'r ffurflenni, gallwch gael help gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Neu os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch gael help gan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Gallwch gadarnhau a allwch gael cymorth cyfreithiol drwy ddefnyddio'r cyfrifydd cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau a all eich helpu.