Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cwblhau eich ysgariad a chael 'archddyfarniad terfynol'

Pan fydd y llys yn rhoi 'archddyfarniad cyntaf' i chi, mae hyn yn golygu nad yw o'r farn bod unrhyw resymau pam na allwch gael ysgariad. Ond er mwyn cwblhau eich ysgariad a dod â'ch priodas i ben yn gyfreithiol, mae angen i chi gael archddyfarniad terfynol. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud i gadarnhau ysgariad.

Pam fod angen 'archddyfarniad terfynol' arnoch

Y ddogfen gyfreithiol sy'n dod â'ch priodas i ben yw archddyfarniad terfynol

Y ddogfen gyfreithiol sy'n dod â'ch priodas i ben yw archddyfarniad terfynol. Ar ôl i chi gael archddyfarniad terfynol, rydych wedi cael ysgariad, nid ydych yn briod mwyach ac rydych yn rhydd i briodi eto os ydych am wneud hynny.

Cyn i chi gael archddyfarniad terfynol, rhaid i chi fod wedi gwneud cais i'r llys am ysgariad ac wedi cael eich 'archddyfarniad cyntaf' (ffurflen D29) yn barod. Os nad ydych wedi gwneud hyn, gallwch ddysgu sut drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth i'w wneud pan fyddwch wedi cael eich archddyfarniad cyntaf

Pan fyddwch wedi cael eich archddyfarniad cyntaf gan y llys, gallwch ystyried gwneud cais am archddyfarniad terfynol i ddod â'ch priodas i ben.

Os oes plant yn gysylltiedig â'ch ysgariad, bydd angen i chi gael ffurflen D84B hefyd. Dylech fod wedi cael y ffurflen hon ar yr un pryd â'ch archddyfarniad cyntaf.

Dywed ffurflen D84B fod y barnwr o'r farn nad oes angen oedi'r ysgariad oherwydd pryderon ynghylch y trefniadau ar gyfer y plant.

Os na fyddwch yn cael ffurflen D84B, cewch ffurflen D66 yn ei lle. Bydd hon yn dangos i chi beth mae'r llys am i chi ei wneud ynghylch eich trefniadau ar gyfer plant fel y gallwch gael archddyfarniad terfynol.

Pryd i wneud cais am archddyfarniad terfynol

Mae pryd y gallwch wneud cais am archddyfarniad terfynol yn dibynnu ai chi neu'ch gŵr neu'ch gwraig a ddechreuodd y broses o gael ysgariad

Mae pryd y gallwch wneud cais am archddyfarniad terfynol yn dibynnu ai chi neu'ch gŵr neu'ch gwraig a ddechreuodd y broses o gael ysgariad.

Os mai chi a ddechreuodd y broses o gael ysgariad

Gallwch wneud cais i'r llys am archddyfarniad terfynol - ond rhaid i chi aros chwe wythnos a diwrnod ar ôl i'r archddyfarniad terfynol gael ei gyflwyno.

Os mai eich gŵr neu'ch gwraig a ddechreuodd yr ysgariad

Os ydych am wneud cais am archddyfarniad terfynol ond eich gŵr neu'ch gwraig a ddechreuodd y broses o gael ysgariad, rhaid i chi aros tri mis ychwanegol.

Felly'r cynharaf y gallwch wneud cais yw tri mis, chwech wythnos a diwrnod ar ôl i'r archddyfarniad terfynol gael ei gyflwyno.

Cyfyngiad amser ar gyfer gwneud cais

Mae'n syniad da i un ohonoch wneud cais am archddyfarniad terfynol o fewn 12 mis i'r archddyfarniad cyntaf os yw'n bosibl.

Os byddwch yn gwneud cais yn hwyrach na hyn, bydd rhaid i chi egluro i'r llys:

  • pam bod oedi
  • os ydych wedi byw gyda'ch partner ers cyflwyno'r archddyfarniad cyntaf
  • os oes unrhyw mwy o blant sy'n rhan o'r teulu wedi cael eu geni

Bydd angen i chi ofyn i'r llys a oes angen mwy o wybodaeth arno.

Sut i gael archddyfarniad terfynol

I gael archddyfarniad terfynol, rhaid i chi neu'ch cynghorydd cyfreithiol ddychwelyd ffurflen D36 ('Hysbysiad o gais i newid archddyfarniad cyntaf yn archddyfarniad terfynol') i'r llys.

Codir ffi am hyn - £45 ar hyn o bryd. Os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, efallai y gallwch gael gostyngiad. Cewch fwy o wybodaeth am ostyngiadau ar gostau llys drwy ddilyn y ddolen isod.

Os mai eich gŵr neu'ch gwraig a ddechreuodd yr ysgariad, ac nad ydynt eisoes wedi gwneud cais am archddyfarniad terfynol, gallwch chi wneud cais. I wneud hyn, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen D11 (‘hysbysiad cais’) a thalu cost llys o £90. Hefyd bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad gyda’ch gŵr neu'ch gwraig i esbonio pam yr ydych am gael yr archddyfarniad terfynol.

Pan gaiff y llys eich ffurflenni

Unwaith y caiff y llys eich ffurflen D36 wedi'i chwblhau, bydd yn sicrhau y gellir cadarnhau'r ysgariad.

Bydd yn sicrhau:

  • bod unrhyw drefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer y plant yn foddhaol (neu os nad ydynt, nad yw'n rheswm dros oedi'r ysgariad)
  • eich bod yn gweithredu yn unol â'r terfynau amser uchod
  • nad oes unrhyw resymau eraill dros beidio â chadarnhau'r ysgariad

Ni fydd angen i chi fynd i'r llys ar gyfer hyn.

Os bydd y llys yn fodlon, bydd yn anfon ffurflen D37 (archddyfarniad terfynol) at y ddau ohonoch.

Mae hyn yn golygu bod eich priodas wedi dod i ben yn gyfreithiol ac y gallwch ailbriodi os ydych am wneud hynny.

Dylech gadw eich archddyfarniad terfynol yn ddiogel. Bydd angen i chi ei ddangos os byddwch yn ailbriodi neu'n dechrau partneriaeth sifil. Efallai y bydd ei angen arnoch hefyd i ddangos eich statws priodasol wrth hawlio budd-daliadau neu bensiwn, er enghraifft.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU