Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae'r broses ysgaru yn gweithio

Os ydych yn cael ysgariad, mae nifer o gamau y bydd angen i chi eu dilyn. Po fwyaf y cytunwch chi a'ch gŵr neu'ch gwraig, y cyflymaf y bydd y broses. Mynnwch wybod sut mae'r broses ysgaru yn gweithio, beth fydd angen i chi ei wneud a pha mor hir y gall gymryd.

Sut mae ysgaru yn gweithio

Os na fyddwch chi a'ch priod yn cytuno ar y materion hyn, gall yr ysgariad gymryd llawer mwy o amser

I gael ysgariad, bydd angen i chi fynd drwy nifer o gamau.

Gall y camau hyn gymryd tua phedwar mis os byddwch chi a'ch priod yn cytuno ar:

  • y rhesymau rydych am gael ysgariad
  • sut y byddwch yn gofalu am eich plant
  • sut y byddwch yn rhannu arian, eiddo ac eitemau personol

Os na fyddwch chi a'ch priod yn cytuno ar y materion hyn, gall yr ysgariad gymryd llawer mwy o amser.

Y camau mewn ysgariad

Mae i'r broses ysgaru ffurfiol bedwar cam.

1. Penderfynu ar y rhesymau dros ysgaru

I ysgaru, bydd angen i chi brofi i'r llys y rhesymau pam rydych am ddod â'ch priodas i ben. Gelwir y rhain yn 'ffeithiau' ac yn 'rhesymau' dros gael ysgariad.

Bydd yn cyflymu pethau os bydd eich priod yn cytuno â'r rhesymau rydych chi am eu defnyddio. Gweler 'Deall y rhesymau dros gael ysgariad' i gael mwy o wybodaeth.

2. Cyflwyno deiseb ysgar

Bydd angen i un ohonoch wneud cais i'r llys am ysgariad. Rydych yn gwneud hyn drwy wneud cais ac anfon 'deiseb ysgar' i lys. Gweler 'Sut i wneud cais am ysgariad am fwy o wybodaeth.

3. Gwneud cais am 'archddyfarniad cyntaf'

Os ydych wedi anfon eich deiseb ysgar i lys a bod eich priod wedi dweud wrth y llys ei fod ef/bod hi'n cytuno, gallwch symud i'r cam nesaf.

Dyma yw gwneud cais am 'archddyfarniad cyntaf' - dogfen sy'n nodi nad oes gan y llys reswm pam na allwch ysgaru. Gweler 'Cael archddyfarniad cyntaf' am fwy o wybodaeth.

Yr 'archddyfarniad terfynol' yw'r ddogfen sy'n dod â'ch priodas i ben yn gyfreithiol

4. Cael 'archddyfarniad terfynol'

Yr 'archddyfarniad terfynol' yw'r ddogfen sy'n dod â'ch priodas i ben yn gyfreithiol.

Os gwnaethoch ddechrau'r broses o gael ysgariad, gallwch wneud cais am 'archddyfarniad terfynol' chwe wythnos ar ôl i'r llys gyflwyno archddyfarniad cyntaf.

Os gwnaeth eich priod ddechrau'r broses o gael ysgariad, gallwch wneud cais am 'archddyfarniad terfynol' ar ôl tri mis ychwanegol. Felly byddai'n rhaid i chi aros am dri mis a chwe diwrnod ar ôl i'r 'archddyfarniad cyntaf' gael ei gyflwyno cyn y gallech wneud cais.

Unwaith y cewch yr archddyfarniad terfynol, rydych wedi ysgaru'n ffurfiol. Gweler 'Cael archddyfarniad terfynol a chwblhau eich ysgariad' am fwy o wybodaeth.

Pethau a all arafu eich ysgariad

Os yw'r llys o'r farn nad yw eich cynlluniau ar gyfer gofalu am eich plant yn foddhaol, gall wrthod rhoi ysgariad i chi. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi lunio cynlluniau newydd a dechrau'r broses eto.

Os byddwch yn anghytuno ynghylch sut y byddwch yn rhannu'r arian, yr eiddo a'r eitemau personol, ni fydd hyn o reidrwydd yn atal yr ysgariad.

Os na allwch gytuno ar arian, eiddo ac eitemau personol, efallai y bydd rhaid i chi gael y llys i benderfynu. Trefniant ffurfiol a wneir mewn llys yw 'gorchymyn ariannol' (a elwir hefyd yn 'orchymyn cymorth ategol' weithiau). Mae'n broses sy'n digwydd ar wahân i'r ysgariad ac, mewn llawer o achosion, caiff yr ysgariad ffurfiol ei derfynu cyn i chi gwblhau proses y gorchymyn ariannol.

Mynnwch wybod mwy am orchmynion ariannol drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Cael ysgariad yng Nghymru a Lloegr os gwnaethoch briodi dramor

Gallwch fel arfer gael ysgariad yng Nghymru a Lloegr os gwnaethoch briodi mewn gwlad arall o dan yr amodau canlynol:

  • bod y briodas yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr (fel arfer os oedd y briodas yn gyfreithiol yn y wlad lle gwnaethoch briodi)
  • bod gennych gartref parhaol yng Nghymru a Lloegr (hyd yn oed os ydych yn treulio rhywfaint o amser yn byw neu'n gweithio dramor)

Os ydych yn bodloni'r ddau amod hyn, gallwch fel arfer wneud cais am ysgariad i lysoedd yng Nghymru a Lloegr. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol os byddwch yn ansicr a ydych yn bodloni'r amodau hyn.

Os byddwch am gael ysgariad y tu allan i Gymru a Lloegr bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdodau priodol yn y wlad dan sylw.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU