Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych wedi dechrau'r broses o gael ysgariad a bod eich gŵr neu'ch gwraig yn dweud nad yw am ei amddiffyn, gallwch wneud cais am 'archddyfarniad cyntaf'. Dyma ddogfen sy'n nodi nad oes gan y llys unrhyw reswm pam na allwch ysgaru. Mynnwch wybod sut i gael archddyfarniad cyntaf.
Cyn y gallwch wneud cais am archddyfarniad cyntaf, rhaid eich bod wedi gwneud y canlynol:
Cewch fwy o wybodaeth am y rhannau hyn o gael ysgariad drwy ddilyn y dolenni isod.
Gallwch wneud cais am archddyfarniad cyntaf os nad yw eich gŵr neu'ch gwraig yn amddiffyn eich ysgariad
Gallwch wneud cais am archddyfarniad cyntaf os nad yw eich gŵr neu'ch gwraig yn amddiffyn eich deiseb ysgar.
Bydd y llys yn anfon copi o ffurflen D10 eich gŵr neu'ch gwraig atoch. Bydd y ffurflen hon yn dangos i chi nad yw'n amddiffyn yr ysgariad.
Pan fyddwch yn cael hon, gallwch wneud cais am 'gyfarwyddiadau ar gyfer treial'. Mae hyn yn gofyn i'r llys adolygu gwaith papur eich ysgariad a phenderfynu a all yr ysgariad fynd rhagddo.
Mae angen i chi lenwi ffurflen D84 (cais am gyfarwyddiadau ar gyfer treial) a ffurflen D80 (affidafid ynghylch tystiolaeth).
Mae ffurflen D80 yn datganiad ynghylch eich ysgariad. Mae'n cadarnhau bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eich deiseb ysgar yn wir.
Dylech hefyd atodi copi o ffurflen D10 eich gŵr neu'ch gwraig. Bydd hon fel arfer yn dangos i'r llys bod eich gŵr neu'ch gwraig yn cytuno â'ch rhesymau dros yr ysgariad ac unrhyw drefniadau rydych yn eu cynnig.
Bydd angen i chi neu'ch cynghorydd ddychwelyd yr holl waith papur hwn i'r llys sy'n delio â'ch ysgariad.
Mae fersiwn gwahanol o ffurflen D80 ar gyfer pob 'ffaith' ar gyfer ysgariad. Bydd angen i chi ddefnyddio'r fersiwn o ffurflen D80 sy'n cwmpasu'r 'ffeithiau' rydych wedi'u defnyddio yn eich deiseb ysgar.
Gallwch weld pob fersiwn o ffurflen D80 drwy ddilyn y ddolen isod a rhoi 'D80' yn y blwch chwilio.
Unwaith y bydd y llys wedi dweud yn ffurfiol y gallwch ysgaru, bydd yn anfon 'archddyfarniad cyntaf' atoch.
Pan fyddwch yn dychwelyd y ffurflenni hyn, bydd y llys yn eu hanfon ymlaen at y barnwr. Yna bydd y barnwr yn ystyried p'un a oes digon o dystiolaeth i alluogi'r ysgariad i barhau.
Bydd y barnwr yn adolygu eich gwaith papur i gyd, gan gynnwys unrhyw drefniadau rydych yn eu cynnig ar gyfer y plant (os oes gennych rai).
Y ffurflenni a gewch yn ôl gan y llys
Os bydd y barnwr yn cytuno, bydd y llys yn anfon ffurflen D84A (tystysgrif o hawl i archddyfarniad) atoch chi a'ch gŵr neu'ch gwraig. Mae'r ffurflen hon yn dweud wrthych pryd y bydd y llys yn dweud y gallwch ysgaru'n ffurfiol. Nid oes rhaid i chi fynd i'r llys ar gyfer hyn.
Byddwch hefyd yn cael ffurflen D84B, sy'n nodi bod y barnwr o'r farn nad yw'r trefniadau arfaethedig ar gyfer y plant yn rheswm i oedi'r ysgariad. Os nad oes gennych blant, byddwch yn cael ffurflen D84B o hyd. Ond bydd yn dweud nad oes gennych blant.
Unwaith y bydd y llys wedi dweud yn ffurfiol y gallwch ysgaru, bydd yn anfon 'archddyfarniad cyntaf', sef ffurflen D29, atoch.
Yn fuan wedi i chi gael yr archddyfarniad cyntaf gallwch wneud cais am 'archddyfarniad terfynol' i ddod â'ch priodas i ben yn gyfreithiol. Gallwch gael gwybod sut i wneud hyn drwy ddilyn y ddolen isod.
Os na fydd y barnwr yn cytuno y gallwch ysgaru, bydd y llys yn anfon ffurflen D79 (hysbysiad gwrthod tystysgrif y barnwr) atoch.
Bydd y ffurflen yn dweud wrthych pam fod y barnwr o'r farn na ddylid cytuno â'r ysgariad. Os bydd y barnwr am gael mwy o wybodaeth yn ysgrifenedig, bydd y ffurflen yn dweud wrthych beth i'w wneud.
Os bydd y barnwr o'r farn y bydd angen gwrandawiad ffurfiol mewn llys, bydd yn dweud hynny ar y ffurflen. Bydd rhaid i chi a'ch gŵr neu'ch gwraig ddod i'r llys ar gyfer hyn.
Os bydd angen gwrandawiad mewn llys, mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod.