Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio cyfreithwyr a chyfryngwyr i ymdrin â'ch cais am orchymyn ariannol

Os na allwch gytuno ar drefniant i rannu eiddo ac eitemau personol pan fyddwch yn dod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben, gall y llys helpu i benderfynu pwy sy’n cael beth. Mynnwch wybod sut y gall cyfreithwyr a chyfryngwyr helpu i wneud y broses mor hawdd â phosibl.

Sut y gall cyfreithwyr helpu os na allwch chi gytuno ar rannu eiddo

Ni fydd y cyfryngwr yn cefnogi'r naill ochr na'r llall, a bydd yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb

Gall cyfryngwr ymddwyn fel trydydd parti annibynnol a'ch helpu i ddod yn agosach at gytundeb.

Byddwch chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn cael cyfres o gyfarfodydd â'r cyfryngwr. Bydd angen i chi wneud yn sicr eich bod yn dweud popeth sy'n berthnasol wrtho. Bydd yn gallu eich helpu'n fwy os bydd yn deall yr holl faterion rydych yn poeni amdanynt.

Ni fydd y cyfryngwr yn cefnogi'r naill ochr na'r llall, a bydd yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb. Byddwch yn trafod yr holl opsiynau posibl gydag ef a sut y gallwch ddatrys pethau mewn ffordd deg.

Ni all cyfryngwr roi cyngor cyfreithiol i chi, ond mae'n deall sut mae'r gyfraith yn gweithio. Os gallwch ddod i gytundeb drwy'r cyfryngwr, bydd yn ei nodi'n ysgrifenedig i chi.

Pan fydd gennych gytundeb ysgrifenedig gan y cyfryngwr, gallwch fynd ag ef at gyfreithiwr. Gall y cyfreithiwr eich helpu i gael cymeradwyaeth gan y llysoedd ar ei gyfer. Gelwir y ddogfen gyfreithiol hon yn 'orchymyn caniatâd'. Gweler yr adran 'Setliadau yn ystod y broses' isod am fwy o wybodaeth.

Cyfarfodydd Gwybodaeth am Gyfryngu ac Asesu

Cyn i chi wneud cais am gymorth ategol, dylech gadarnhau a all cyfryngu eich helpu i ddod i gytundeb. Gallwch wneud hyn drwy gael Cyfarfod Gwybodaeth am Gyfryngu ac Asesu. Gall y barnwr ofyn i chi fynd i un o'r cyfarfodydd hyn cyn delio â'ch achos os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen 'Cyfryngu i ddatrys problemau pan fyddwch yn gwahanu' isod.

Sut y gall cyfreithwyr helpu gyda'r broses

Gall cyfryngu fod yn ffordd gyflymach a rhatach o ddod i gytundeb mewn llawer o achosion

Os ydych wedi defnyddio cyfryngwr i ddod i gytundeb, gallwch ofyn i gyfreithiwr eich helpu i'w wneud yn gyfreithiol rwymol drwy'r llys. Gelwir hyn yn 'orchymyn caniatâd’.

Gall cyfryngu fod yn ffordd gyflymach a rhatach o ddod i gytundeb mewn llawer o achosion. Ond fel arfer bydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr ar ryw adeg yn ystod y broses cymorth ategol. Y rheswm am yw hyn yw ei bod yn bwysig rhoi cytundeb cyfreithiol ar bapur er mwyn osgoi problemau yn ddiweddarach. Er enghraifft, os oes gennych chi un ddealltwriaeth o'r hyn y gall y cytundeb ei olygu a bod gan eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil ddealltwriaeth arall.

Os nad ydych wedi defnyddio cyfryngwr

Os nad ydych wedi defnyddio cyfryngwr, gall y ddau ohonoch ddefnyddio cyfreithiwr gwahanol, a byddant yn ceisio dod i gytundeb ar eich rhan.

Bydd cyfreithiwr hefyd yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau sydd ar gael i chi a'r ceisiadau y gallwch eu gwneud i'r llys.

Bydd cyfreithwr yn deall pa fath o setliad sy'n debygol o gael ei wneud os bydd yn rhaid i'r barnwr benderfynu sut i rannu pethau. Fel arfer byddant yn rhoi cyngor i chi ar y sail hon.

Setliadau yn ystod y broses

Mae nifer o gamau i'r broses.

Bydd cyfreithwyr a barnwyr yn ceisio rhoi cyfle i chi gadarnhau cytundeb ar bob cam.

Gallwch atal y broses hon unrhyw bryd os byddwch yn dod i gytundeb. Os na all y ddau ohonoch ddod i gytundeb, gall eich cyfreithwyr lunio cytundeb ar eich rhan, o'r enw 'gorchymyn caniatâd'. Yna gall y barnwr gymeradwyo'r gorchymyn hwn a gellir tynnu'r cais am gymorth ategol yn ôl.

Mae bob amser yn well parhau i negodi tra bydd y broses cymorth ategol yn mynd rhagddi. Os gallwch gael gorchymyn caniatâd, mae'n golygu y byddwch wedi datrys popeth yn gynt. Bydd hyn yn arbed arian, amser a straen i chi.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU