Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw gorchymyn ariannol

Os ydych yn dod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben, efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau ffurfiol i setlo materion ariannol ac eiddo. Gallwch wneud cais i’r llys am orchymyn ariannol – gelwir y broses hon weithiau yn ‘gymorth ategol’. Cael gwybod mwy am beth yw gorchymyn ariannol.

Beth yw gorchymyn ariannol?

Defnyddir gorchmynion ariannol i setlo neu gadarnhau trefniadau o ran arian neu eiddo

Trefniant ffurfiol a wneir mewn llys yw gorchymyn ariannol (a elwir hefyd yn 'orchymyn cymorth ategol’). Defnyddir gorchmynion ariannol i setlo neu gadarnhau trefniadau o ran arian neu eiddo rhwng pâr sy'n dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben.

Gall orchymyn ariannol arwain at y trefniadau canlynol:

  • bod un person yn talu cyfandaliad i'r llall
  • trosglwyddo perchenogaeth am eiddo o un person i'r llall
  • taliadau 'cynhaliaeth' rheolaidd i helpu gyda chostau plant a chostau byw
  • rhannu taliadau pensiwn

Ni ellir newid y rhan fwyaf o orchmynion ariannol unwaith y bydd barnwr wedi gwneud penderfyniad. Dim ond os bydd newid mawr yn amgylchiadau un person neu os profir bod un person wedi dweud celwydd yn ystod yr achos y gall hyn ddigwydd.

Caiff penderfyniadau am orchmynion ariannol eu gwneud ar wahân i benderfyniadau am yr ysgariad ei hun. Bydd y broses cymorth ategol fel arfer yn cymryd mwy o amser nag ysgariad - yn aml rhwng 6 a 12 mis.

Gorchmynion caniatâd

Os gallwch chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil gytuno ar drefniadau ariannol, gallwch wneud eich cytundeb yn gyfrwymol yn gyfreithiol. Gallwch wneud hyn drwy wneud cais am 'orchymyn caniatâd'.

Mae'n debygol y bydd gorchmynion caniatâd yn costio llai o arian ac yn cymryd llai o amser na gorchmynion ariannol eraill. Gallwch gael help i drefnu gorchmynion caniatâd gan gyfryngwyr neu gyfreithwyr.

Beth y bydd y llys yn ei ystyried wrth benderfynu ar setliad cymorth ategol

Bydd barnwr yn ceisio edrych ar y sefyllfa gyfan a phenderfynu beth fyddai'r ffordd decaf o rannu pethau.

Os oes gennych blant, bydd y barnwr yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau'r plant wrth ystyried sut i rannu pethau. Trefniadau tai a thaliadau cynhaliaeth i blant yw'r elfennau pwysicaf i'r barnwr.

Unwaith y bydd y barnwr wedi ystyried anghenion y plant (neu os nad oes unrhyw blant), bydd yn ystyried materion megis:

  • ers faint y buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • oedran y ddau ohonoch
  • ei farn ar allu'r ddau ohonoch i ennill arian pan fyddwch wedi gwahanu
  • yr eiddo a'r arian a fydd gan y ddau ohonoch, neu y disgwylir i chi eu cael yn y dyfodol
  • faint o arian y bydd ei angen ar y ddau ohonoch i fyw
  • y safon byw a fu gennych yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil ac i ba raddau y bydd yn newid
  • unrhyw anableddau corfforol neu feddyliol a all fod gan unrhyw un yn y teulu
  • y math o gyfraniadau a wnaeth y ddau ohonoch yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil (gan gynnwys cyfraniadau anariannol, fel gofalu am y plant)

Mewn rhai achosion, os bydd gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi ymddwyn yn wael iawn, bydd y barnwr hefyd yn ystyried hyn.

Sut y bydd y llys yn penderfynu

Bydd y barnwr hefyd yn ceisio gwneud trefniant 'syml' lle bynnag y bo'n bosibl

Mae amgylchiadau pawb yn wahanol, felly mae'n anodd dweud yn union beth fydd yn digwydd yn eich achos chi.

Ond bydd y barnwr yn ceisio penderfynu ar y trefniant tecaf posibl.

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw hynny'n golygu y caiff popeth ei rannu'n gyfartal. Fe'i rhennir mewn ffordd sy'n ceisio diwallu anghenion pawb cymaint â phosibl.

Os oes digon i ddiwallu anghenion pawb

Os oes digon o arian, eiddo ac eitemau personol i ddiwallu anghenion pawb, bydd y barnwr yn penderfynu ar y ffordd decaf o rannu popeth. Felly, er enghraifft, gall un person gael cartref y teulu, a gall y llall gael y cynilion a'r buddsoddiadau.

Os nad oes digon i ddiwallu anghenion pawb

Os nad oes digon i ddiwallu anghenion pawb, bydd y barnwr yn gwneud trefniadau ar gyfer y plant yn gyntaf. Er enghraifft, os yw un rhiant yn aros gartref i ofalu am blentyn ifanc, gall gael cyfran uwch o gartref y teulu. Neu gall y barnwr benderfynu y dylai'r rhiant hwnnw aros yn y cartref hwnnw nes bod y plentyn yn hŷn.

'Trefniadau syml' a chynhaliaeth

Bydd y barnwr hefyd yn ceisio gwneud 'trefniant syml' lle bynnag y bo'n bosibl. Mae hyn yn golygu y caiff popeth ei rannu rhyngoch chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil - ac na fydd unrhyw drefniadau ariannol pellach rhyngoch.

Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o bobl ddigon o arian, eiddo nac eitemau personol i wneud hyn. Pan fydd hyn yn digwydd, gall y barnwr ddweud wth y person â'r incwm uwch i dalu rhywfaint ohono i'r llall. Gelwir hyn yn 'orchymyn cynhaliaeth'.

Gwneud cais am orchymyn ariannol neu wneud eich trefniadau eich hun?

Mae bob amser yn well dod i gytundeb â'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil os yw hynny'n bosibl. Pan fydd y llys yn penderfynu sut y caiff pethau eu rhannu, yn aml mae'n derfynol ac ni ellir ei wrthdroi. Fodd bynnag, gellir newid rhai gorchmynion os bydd newid mawr yn amgylchiadau'r naill barti neu'r llall.

Pan fyddwch yn dechrau proses cymorth ategol, gallwch ddod i gytundeb o hyd ar unrhyw adeg - a bydd barnwyr yn eich annog i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn ariannol drwy ddilyn y ddolen isod. Fel arall, gallwch geisio dod i gytundeb heb ddefnyddio gorchymyn ariannol.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU