Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os na allwch gytuno ar faterion ariannol, eiddo ac eitemau personol pan fyddwch yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben, gall y llysoedd eich helpu i benderfynu pwy sy'n cael beth. Bydd gwneud cais am orchymyn ariannol yn cymryd ychydig fisoedd ond gall orffen gyda barnwr yn penderfynu sut y caiff popeth ei rannu. Mynnwch wybod sut i wneud cais am orchymyn ariannol.
Y mae’n bosib y byddwch eisiau gofyn i’r llys eich i benderfynu sut i rannu eich arian, eiddo a’ch eitemau personol. I wneud hyn mae angen i chi wneud cais am orchymyn ariannol. Gelwir y broses hon weithiau’n ‘gymorth ategol’.
Bydd y broses yn cymryd amser ac yn costio arian i chi. Os yw'n bosibl, mae'n syniad da ceisio setlo pethau rhyngoch chi'ch hunain. Mynnwch wybod mwy am sut i wneud hyn drwy ddilyn y ddolen isod.
Cyn i chi wneud cais am orchymyn ariannol, dylech gadarnhau a all cyfryngu eich helpu i ddod i gytundeb.
Gallwch wneud hyn drwy gael Cyfarfod Gwybodaeth am Gyfryngu ac Asesu Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd barnwyr yn disgwyl eich bod wedi cael o leiaf un cyfarfod. Os na fyddwch wedi gwneud hynny, gall ofyn i chi fynd i un o'r cyfarfodydd hyn cyn mynd â'ch achos ymhellach.
Cewch ragor o wybodaeth am Gyfarfodydd Gwybodaeth am Gyfryngu ac Asesu drwy ddilyn y ddolen isod.
Er mwyn gwneud cais am orchymyn ariannol, rhaid i chi lenwi Ffurflen A - ‘Hysbysiad o gais am orchymyn ariannol’. Gallwch lawrlwytho copi drwy ddilyn y ddolen isod.
Yna dylech fynd â'ch cais, ynghyd â dau gopi wedi'u cwblhau o'r ffurflen, i'r llys sy'n ymdrin â'ch ysgariad.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys i wneud cais am orchymyn ariannol.
£240 yw'r gost os na fyddwch chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi cytuno ar y trefniadau cyn i chi wneud y cais.
Os ydych yn gwneud cais am 'orchymyn caniatâd' - dogfen gyfreithiol sy'n cadarnhau cytundeb a wnaed gennych eisoes - £45 yw'r gost.
Os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, efallai y gallwch gael gostyngiad yn y pris hwn. Cewch fwy o wybodaeth am ostyngiadau mewn costau.
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am orchymyn ariannol, cewch apwyntiad gyda barnwr. Gelwir hwn yn 'Apwyntiad Cyntaf'. Bydd yr apwyntiad rhwng 12 ac 16 wythnos o'r dyddiad y gwnaethoch eich cais yn gyntaf.
Bydd angen i chi gwblhau Ffurflen E - dogfen sy'n manylu ar eich sefyllfa ariannol. Bydd hyn yn cynnwys eich sefyllfa ariannol bresennol a'ch sefyllfa ariannol ddisgwyliedig yn y dyfodol. Rhaid i'r ddwy ochr lenwi'r ffurflen hon er mwyn sicrhau bod eu sefyllfa ariannol yn glir i'r ddwy ochr ac i'r llys.
Mae'n fanwl iawn, a bydd yn rhaid i chi ddarparu'r canlynol:
Gallwch gael copi o Ffurflen E gan eich llys neu ei lawrlwytho drwy ddilyn y ddolen isod.
Rhaid anfon y ffurflen hon i'r llys sy'n delio â'ch ysgariad heb fod yn hwyrach na 35 diwrnod cyn eich Apwyntiad Cyntaf. Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r ffurflen hon at eich priod neu'ch partner sifil. Bydd angen i chi neu'ch cynghorydd gysylltu ag ef/hi i wneud hyn. Gall wneud hyn drwy'r post.
Fel arfer, mae'n rhaid i'r ddwy ochr fynychu'r Apwyntiad Cyntaf yn bersonol. Byddwch yn cyfarfod â barnwr a fydd yn dweud wrthych sut y gellir setlo'r achos.
Yn ystod y cam hwn, os bydd y ddwy ochr a'r barnwr yn cytuno, gall y barnwr gyhoeddi 'Gorchymyn Terfynol'. Os na ellir cytuno, bydd yn rhaid i chi fynychu gwrandawiad Datrys Anghydfod Ariannol.
Mae hwn yn gyfarfod anffurfiol mewn llys, ond rhaid i'r ddwy ochr fod yn bresennol oni fydd y llys yn gorchymyn fel arall. Bydd y barnwr unwaith eto yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb ariannol.
Os na allwch ddod i gytundeb o hyd, bydd y barnwr yn pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad terfynol.
Nid yr un barnwr fydd yn y gwrandawiad terfynol â'r barnwr a oedd yn y gwrandawiad Datrys Anghydfod Ariannol.
Yn ystod y gwrandawiad terfynol, os na allwch ddod i gytundeb o hyd, bydd y barnwr yn gwneud penderfyniad ar sail yr holl dystiolaeth. Dangosir y penderfyniad hwn ar y 'Gorchymyn Terfynol' sy'n nodi manylion unrhyw drefniadau y mae'n rhaid eu gwneud fel rhan o'r gorchymyn. Mae'n rhaid i'r ddwy ochr ufuddhau i'r penderfyniad hwn.
Ar unrhyw adeg rhwng y cais yn cael ei wneud a'r barnwr yn gwneud gorchymyn terfynol, gall y naill ochr neu'r llall wneud cais am 'orchymyn dros dro'. Trefniant ariannol dros dro yw hwn a gall fod yn ddefnyddiol os ydych yn cael trafferth ariannol tra'n aros i'ch achos gael ei benderfynu.
Os oes angen gorchymyn dros dro arnoch, mae'n syniad da cael cyngor proffesiynol os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.