Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datrys materion ariannol ac eiddo eich hunain os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben, bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau am eich arian, eich eiddo a'ch eitemau personol. Mynnwch wybod pa fath o faterion y mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl eu hystyried a sut y gallwch ddod i gytundeb heb fynd i'r llys o bosibl.

Trefnu cynhaliaeth gyda'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil

Mae'r rhan fwyaf o barau sy'n dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben yn llwyddo i gytuno rhyngddynt eu hunain ar faterion ariannol heb fynd i'r llys.

Os bydd y ddau ohonoch yn cytuno ar gymorth ariannol, gelwir hyn yn 'gytundeb gwirfoddol'. Gall fod yn gytundeb ysgrifenedig neu ar lafar.

Os byddwch am wneud eich cytundeb yn gyfrwymol yn gyfreithiol, bydd angen i chi wneud cais i'r llys am 'orchymyn caniatâd'. Bydd barnwr yn cadarnhau bod y cytundeb yn deg ac yn rhesymol, ac os felly, bydd yn ei gymeradwyo a'i wneud yn gyfrwymol yn gyfreithiol.

Rhannu eitemau personol

Dylech geisio penderfynu rhyngoch sut i rannu eitemau personol a chynnwys y cartref teuluol. Gallwch ddefnyddio prisiadau yswiriant sydd gennych eisoes ar gyfer hen bethau, eitemau casgladwy neu emwaith, fel canllaw. Gallech drefnu iddynt gael eu prisio gan arbenigwr (ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am hyn).

Rheoli morgeisi ac eiddo rydych yn berchen arno

Os oes gennych forgais gyda'ch gilydd, dylech siarad â'ch cwmni morgais i ddweud wrtho eich bod yn ysgaru neu'n dod â pherthynas sifil i ben. Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o ymdrin â'r newid.

Ymhlith y dewisiadau gwahanol sydd ar gael i chi mae:

  • parhau i dalu'r morgais gyda'ch gilydd
  • trosglwyddo'r morgais cyfan i un person
  • ad-dalu'r morgais

Os ydych yn berchen ar eiddo gyda'ch gilydd, mae'n syniad da gwybod ei werth cyn i chi wneud unrhyw drefniadau.

Gallwch gael rhagor o fanylion am sut i ddelio ag eiddo pan ddaw priodas neu bartneriaeth sifil i ben ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Os ydych yn rhentu eiddo

Os ydych yn rhentu eiddo gyda'ch partner a bod un ohonoch yn bwriadu symud allan, cysylltwch â'r landlord i weld p'un a allwch newid y cytundeb tenantiaeth.

Dylech ddarllen geiriad eich cytundeb tenantiaeth yn ofalus fel y gallwch chi neu'ch partner benderfynu ar y peth gorau i'w wneud nesaf.

Delio â chyfrifon ar y cyd

Dylid cau cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd a bydd angen i chi benderfynu sut i rannu unrhyw arian sydd ynddynt, neu sut i ad-dalu unrhyw orddrafft.

Dylech siarad â'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu cyn gynted â phosibl. Bydd yn gallu delio ag unrhyw gyfrifon banc ar y cyd sydd gennych a threfnu i arian gael ei drosglwyddo i gyfrifon eraill.

Gwneud trefniadau o ran pensiynau

Gall pensiynau fod yn werthfawr iawn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eu gwerth pan fyddwch yn gwneud unrhyw drefniadau neu gyfrifiadau ariannol.

Dylech ystyried pethau penodol fel gwneud yn siŵr bod unrhyw drefniadau yn deg i'r ddau ohonoch. Ymhlith y rhain mae:

  • ers faint y buoch yn briod
  • pa gyfleoedd fydd i'r ddau ohonoch gronni pensiwn yn y dyfodol
  • pa asedau eraill sydd gennych

Cewch ragor o wybodaeth am ddelio â phensiynau pan fyddwch yn ysgaru neu'n dod â phartneriaeth sifil i ben drwy ddilyn y ddolen isod.

Cynilion a buddsoddiadau

Gall gwerth buddsoddiadau, fel cyfrannau mewn cwmni, newid. Gwnewch yn siŵr bod gennych brisiad cyfredol ar eu cyfer er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod eu gwerth.

Os oes gennych bolisïau yswiriant bywyd, polisïau aswiriant neu bolisïau yswiriant iechyd, dylech gysylltu â'r darparwr i weld a fyddech yn cael unrhyw arian pe byddech yn eu cyfnewid am arian parod nawr.

Ystyriwch ofyn am help gan gynghorydd treth, cyfrifydd neu gynghorydd ariannol annibynnol i benderfynu beth i'w wneud gyda'ch cynilion neu'ch buddsoddiad.

Cewch ragor o wybodaeth am ddelio â chynilion a buddsoddiadau drwy ddilyn y ddolen isod.

Delio â dyled pan fyddwch yn ysgaru neu'n dod â pherthynas sifil i ben

Dylech ystyried unrhyw ddyledion rydych yn eu rhannu, fel dyledion o gardiau credyd neu orddrafftiau, hyd yn oed os mai dim ond yn enw un person y maent. Bydd gwybod faint sy'n ddyledus gan y ddau ohonoch yn eich helpu i benderfynu ar unrhyw setliad ariannol.

Busnesau rydych yn berchen arnynt gyda'i gilydd

Os ydych yn berchen ar fusnes gyda'ch gilydd, efallai y bydd angen i chi drefnu i gyfrifydd brisio eich busnes. Mae cyfrifyddion sy'n arbenigo mewn prisio busnesau at ddibenion ysgaru ac fe'i gelwir yn 'gyfrifyddion fforensig'. Gall hyn fod yn gostus, yn arbennig os byddwch yn anghytuno ar werth y busnes a bod y ddau ohonoch yn talu am eich prisiad eich hun.

Mynnwch fwy o wybodaeth am sut y gall ysgariad effeithio ar fusnesau rydych yn berchen arnynt ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU