Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Rhannu eitemau personol pan fyddwch yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn llwyddo i gytuno ar sut i rannu eitemau personol pan fyddant yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben. Mae'n anarferol i'r llysoedd orfod penderfynu ar faterion yn ymwneud ag eitemau personol. Mynnwch wybod sut i rannu'r hyn rydych yn berchen arno ar ddiwedd priodas neu bartneriaeth sifil.

Rhoi trefn ar yr hanfodion o ran eitemau personol

Dechreuwch drwy weithio allan beth fydd ei angen ar y ddau ohonoch pan fyddwch yn byw ar wahân

Pan fyddwch yn ysgaru neu'n dod â phartneriaeth sifil i ben, gallwch fel arfer gytuno pwy fydd yn cadw eitemau personol eich hunain.

Yn gyffredinol, mae'n syniad dechrau drwy weithio allan beth fydd ei angen ar y ddau ohonoch pan fyddwch yn byw ar wahân. Er enghraifft, bydd angen gwely, soffa a rhywfaint o gyfarpar ar gyfer y gegin ar y ddau ohonoch.

Os nad oes gennych ddigon i'w rannu'n gyfartal - er enghraifft, efallai mai dim ond un soffa sydd gennych - gallwch wneud trefniadau eraill. Efallai y bydd un ohonoch yn cadw'r soffa tra bod y llall o bosibl yn cael swm penodol o arian o gyfrif cynilo i brynu soffa arall.

Rhestru’r hyn rydych am ei gael

Gallech ystyried llunio rhestr o'ch eitemau personol, gyda thair colofn ar gyfer pob un. Gallai'r colofnau gwmpasu:

  • pethau y mae'n rhaid i chi eu cael
  • pethau yr hoffech eu cael
  • pethau y byddech yn eu haberthu

Os gallwch, gofynnwch i'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wneud yr un peth - ond peidiwch ag edrych ar eich rhestrau eich gilydd. Os yw'n bosibl, gallwch wedyn negodi a chytuno pwy sy'n cael beth.

Bydd yn anodd cytuno ar bopeth, ond bydd hyblygrwydd yn eich helpu i gytuno. Er enghraifft, os ydych wirioneddol am gael un eitem, gallwch gynnig eitem arall i'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn lle'r eitem honno.

Os oes gennych eitemau gwerthfawr

Y gobaith yw y gallwch gytuno pwy fydd yn cadw'r rhan fwyaf o'r eitemau 'bob dydd'. Ond os ydych yn berchen ar eitemau gwerthfawr, fel gemwaith, ceir neu gelf, gall fod yn fwy anodd.

Mae'n syniad da iawn cael prisiad ar gyfer unrhyw eitemau o'r fath, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod beth fyddai eu gwerth. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i rywun rhoi prisiad i chi.

Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw gwerth yr eitemau, efallai y gallwch gytuno pwy sy'n cael beth ar sail eu gwerth.

Os na allwch gytuno am eitemau personol

Negodwr annibynnol yw cyfryngwr

Os na allwch gytuno o gwbl ynghylch pwy sy'n cadw pa eitemau personol, bydd angen i chi gael help gan
gyfryngwr neu gyfreithiwr.

Negodwr annibynnol yw cyfryngwr. Bydd yn gweithio
gyda'r ddau ohonoch er mwyn dod i gytundeb.


Gallech hefyd ddefnyddio cyfreithwyr i ddod i gytundeb, a gallant drefnu i'r llysoedd gadarnhau'r cytundeb. Gelwir hyn yn 'orchymyn caniatâd'.

Os credwch nad oes unrhyw ffordd y gallwch gytuno, bydd yn rhaid i chi ofyn i'r llys wneud penderfyniad o ran eich cynilion, eich buddsoddiadau, eich pensiynau a'ch materion ariannol eraill. Gelwir y broses hon yn 'gymorth ategol'. Gall gymryd misoedd lawer a gall fod yn ddrud, felly mae'n llawer gwell i chi gytuno os gallwch wneud hynny.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU