Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynilion a buddsoddiadau pan fyddwch yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben

Caiff cynilion a buddsoddiadau eu hychwanegu at bopeth arall y mae pâr yn berchen arnynt gyda'i gilydd fel eiddo ac eitemau personol. Mae'r ffordd y caiff cynilion a buddsoddiadau eu rhannu rhwng partneriaid yn dibynnu ar benderfyniadau ynghylch asedau eraill fel tŷ sy'n eiddo ar y cyd. Bydd eich cyfreithiwr neu gyfryngwr yn eich helpu chi a'ch partner os na allwch gytuno.

Sut y caiff cynilion a buddsoddiadau eu trin pan fyddwch yn gwahanu

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaiff cynilion na buddsoddiadau eu rhannu'n gyfartal

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaiff cynilion na buddsoddiadau eu rhannu'n gyfartal rhyngoch pan fyddwch yn dod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben.

Fel arfer, mae eich cynilion a'ch buddsoddiadau yn rhan o gytundeb ehangach sy'n cwmpasu popeth rydych yn berchen arno, gan gynnwys unrhyw eiddo ac eitemau personol.

Prisio eich cynilion a'ch buddsoddiadau

Os ydych yn dod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben, bydd angen i chi wybod gwerth eich cynilion a'ch buddsoddiadau. Ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw fath o drefniant terfynol heb y wybodaeth hon.

Ar gyfer y rhan fwyaf o fuddsoddiadau, gallwch ofyn i'r cwmni sy'n eu rheoli ar eich rhan beth yw eu gwerth. Mae'n bwysig gwneud hyn oherwydd gall gwerth buddsoddiad newid - gall fod yn werth mwy neu lai na'r tro diwethaf y gwnaethoch holi.

Mae hefyd yn werth holi a oes unrhyw gosbau am godi buddsoddiadau neu gau cyfrifon cynilo. Os felly, bydd angen i chi eu hystyried wrth wneud unrhyw gyfrifiadau. Os bydd y taliadau'n uchel, efallai y gallwch drefnu'r cytundeb terfynol i osgoi gorfod gwneud hyn.

Os oes gan y naill neu'r llall ohonoch bolisïau yswiriant, aswiriant neu yswiriant iechyd, bydd angen i chi eu hystyried hefyd. Bydd angen i chi weithio allan beth fyddai eu gwerth pe baech yn eu cyfnewid am arian parod. Gallwch wneud hyn drwy ofyn i'r darparwr am ffigur.

Cynilion a buddsoddiadau yn achos 'trefniant syml'

Mae'r rhan fwyaf o ŵyr, gwragedd a phartneriaid sifil sy'n gwahanu yn ceisio dod i 'drefniant syml' os yw'n bosibl.

Mae hyn yn golygu y caiff popeth y mae'r pâr yn berchen arno ei rannu unwaith ac am byth ac nad oes unrhyw drefniadau ariannol pellach rhyngoch.

Er mwyn gwneud hyn, bydd un partner fel arfer yn talu 'cyfandaliad' i'r llall. Er enghraifft, os bydd partner yn cadw cartref y teulu i fagu plant, efallai y caiff ei gynilion neu ei fuddsoddiadau eu rhoi i'w bartner.

Mae'n syniad da ystyried effaith bosibl Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo cynilion neu fuddsoddiadau. Efallai y bydd angen i chi ystyried sut rydych yn amseru trafodion fel hyn.

Os na allwch ddod i 'drefniant syml'

Gall eich trefniant gynnwys un partner yn talu cynhaliaeth i'r llall

Pan fydd llawer o briodasau neu bartneriaethau sifil yn dod i ben, nid yw'n bosibl dod i 'drefniant syml'. Gall hyn fod am nad oes digon o 'asedau' (arian, eiddo, eitemau personol) i'r ddau ohonoch fyw arnynt, neu am fod gennych blant ifanc.

Pan fydd hyn yn digwydd, gall eich trefniant gynnwys un partner yn talu cynhaliaeth i'r llall ar ôl i'ch asedau gael eu rhannu.

Cael help i ddod i gytundeb

Gallwch roi cynnig ar gyfryngu er mwyn dod i gytundeb am y ffordd y caiff eich cynilion a'ch buddsoddiadau eu rhannu. Ystyr hyn yw defnyddio cyfryngwr fel trafodwr annibynnol. Bydd yn gweithio gyda'r ddau ohonoch er mwyn dod i gytundeb.

Gallech hefyd ddefnyddio cyfreithwyr i ddod i gytundeb, a gallant drefnu i'r llysoedd gadarnhau'r cytundeb. Gelwir hyn yn 'orchymyn caniatâd'.

Os na allwch ddod i gytundeb eich hunain

Os credwch nad oes unrhyw ffordd y gallwch gytuno, bydd yn rhaid i chi ofyn i’r llys wneud penderfyniad o ran eich cynilion, buddsoddiadau a phensiwn a’ch materion ariannol eraill. I wneud hyn mae angen i chi wneud cais am ‘orchymyn ariannol’ (a gyfeirir ato weithiau fel ‘cymorth ategol).

Gall fod yn ddrud iawn a chymryd llawer o fisoedd. Felly mae’n syniad da ceisio setlo pethau eich hunain neu gyda chyfryngwr neu gyfreithwyr os gallwch wneud hynny.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU