Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau cynhaliaeth os byddwch yn ysgaru neu'n dod â phartneriaeth sifil i ben

Os daw eich priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben, gallwch ofyn i'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil am daliadau rheolaidd i'ch helpu gyda chostau byw bob dydd. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud i drefnu 'taliadau cynhaliaeth' i chi'ch hun ac unrhyw blant y gallai fod gennych.

Beth yw 'taliadau cynhaliaeth'?

Taliadau rheolaidd yw'r rhain i'ch helpu gyda chostau byw bob dydd

Os ydych yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben, gallwch geisio cytuno ar daliadau cynhaliaeth gyda'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil. Taliadau rheolaidd yw'r rhain i'ch helpu gyda chostau byw bob dydd.

Mae dau fath o daliadau cynhaliaeth:

  • cynhaliaeth i helpu i ofalu am eich plant
  • cynhaliaeth i ofalu am eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil

Taliadau cynhaliaeth plant

Os ydych wedi cael plant gyda'ch gilydd, efallai y bydd angen i un ohonoch dalu cynhaliaeth i'r llall, sef 'prif ofalwr' y plentyn.

Yn ôl y gyfraith, mae'r ddau ohonoch yn gyfrifol yn ariannol am eich plant o hyd, hyd yn oed os nad ydynt yn byw gyda chi mwyach.

Y ffordd orau o drefnu cynhaliaeth plant yw drwy drafod a dod i gytundeb gyda'ch gilydd. Ewch i wefan Opsiynau o ran Cynhaliaeth Plant i gael cyngor ar sut i wneud hyn.

Os na allwch ddod i gytundeb, gallwch fynd at yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA). Gall y CSA weithio allan faint sy'n ddyledus a hyd yn oed ei gasglu ar eich rhan.

Cynhaliaeth rhwng parau priod a phartneriaid sifil

Pan fyddwch yn trafod eich sefyllfa ariannol, efallai y gallwch ddod i gytundeb ariannol gyda'ch gilydd

Pan fyddwch yn trafod eich sefyllfa ariannol, efallai y gallwch ddod i gytundeb ariannol gyda'ch gilydd. Er enghraifft, gallech benderfynu y bydd un ohonoch yn talu'r rhent neu'r morgais ac y bydd y llall yn talu pob un o filiau'r cartref.

Gelwir hyn yn 'gytundeb gwirfoddol'. Gallwch lunio copi ysgrifenedig a chadw copïau neu ei adael fel addewid ar lafar i'ch gilydd.

Help annibynnol i ddod i gytundeb

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cytuno ar y manylion, gallwch gael cyngor gan gyfryngwr teuluol - unigolyn annibynnol sydd wedi'i hyfforddi i helpu. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i gyfryngwr teuluol yn eich ardal.

Cofiwch nad yw trefniant a wneir gyda chyfryngwr teuluol yn gyfrwymol yn gyfreithiol - felly os bydd pethau'n mynd o chwith, bydd angen i chi fynd i'r llys o hyd.

Defnyddio cyfreithwyr i'w wneud yn gyfrwymol yn gyfreithiol

Gallwch hefyd ofyn i gyfreithiwr eich helpu i ddod i gytundeb ynghylch cynhaliaeth. Os byddwch yn dod i gytundeb - gyda help neu beidio - gallwch ofyn i gyfreithiwr lunio dogfen gyfreithiol, sef 'gorchymyn caniatâd'. Yna bydd y cyfreithiwr yn cael llys i'w chymeradwyo fel ei bod yn gytundeb sy'n gyfrwymol yn gyfreithiol. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy.

Os na allwch ddod i gytundeb gyda'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil

Gelwir cynhaliaeth a delir i gyn-bartner (sydd ddim ar gyfer unrhyw blant) yn ‘cynhaliaeth briod’.

Os na allwch ddod i gytundeb ar gynhaliaeth briod, bydd rhaid i chi fynd i’r llys a gwneud cais am ‘orchymyn ariannol’. Mae gorchymyn ariannol weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel ‘gorchymyn cymorth ategol’. Yna bydd barnwr yn penderfynu sut i ddelio â chynhaliaeth ac unrhyw faterion ariannol eraill.

Beth y gall llys ei wneud ynghylch cynhaliaeth

Gall y llys gyflwyno 'gorchymyn cynhaliaeth' i orfodi eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner i dalu cynhaliaeth i chi. Bydd y llys yn ystyried materion fel eich incwm a'ch cyfraniad yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil.

Gallai'r rhain fod yn gyfraniadau ariannol neu'n anariannol, fel aros gartref i ofalu am eich plant. Bydd y llys hefyd yn ystyried unrhyw eiddo ac unrhyw arian arall y mae angen ei rannu.

Mae unrhyw swm cynhaliaeth fel arfer yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng eich incwm presennol (gan gynnwys buddiannau) a'r hyn sydd ei angen arnoch i fyw, ym marn y llys. Gellir pennu gorchymyn cynnal am gyfnod penodol o amser neu hyd nes y bydd un ohonoch yn marw, yn ailbriodi neu'n dechrau partneriaeth sifil newydd. Gellir newid taliadau hefyd i gyfateb ag amgylchiadau newydd. Er enghraifft, os bydd un ohonoch yn colli eich swydd neu'n cael gwaith â thâl gwell o lawer.

Gall defnyddio'r broses cymorth ategol gymryd llawer o amser a rhoi pwysau mawr ar bawb. Mae angen cyfreithiwr arnoch fel arfer a bydd angen i chi dalu ffioedd cyfreithiol. Mae yno fel opsiwn terfynol os na allwch ddod i gytundeb gan ddefnyddio'r ffyrdd eraill a ddisgrifir uchod.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU