Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cytundebau cyfreithiol os byddwch yn gwahanu

Pan fyddwch yn gwahanu, mae'n syniad da ystyried llunio cytundeb cyfreithiol rhyngoch. Gall ymwneud â rhannu arian ac eitemau personol ac unrhyw drefniadau y byddwch yn eu gwneud ynghylch plant. Mynnwch wybodaeth am 'gytundeb gwahanu' a sut y gallwch gael un.

Pryd y gall cytundeb gwahanu helpu

Gall llunio cytundeb cyfreithiol ysgrifenedig osgoi anghytuno yn ddiweddarach

Gall rhannu popeth pan fyddwch yn gwahanu fod yn gymhleth. Gallwch ddefnyddio cytundeb gwahanu os:

  • buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil, rydych wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'ch gilydd ond nad ydych am ddod â'r briodas neu'r bartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol
  • buoch yn byw gyda'ch gilydd heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac rydych wedi gwahanu

Nid oes rhaid i chi gael cytundeb gwahanu os nad ydych am wneud hynny. Ond gall llunio cytundeb cyfreithiol ysgrifenedig osgoi anghytuno yn ddiweddarach.

Gall hefyd helpu i osgoi gorfod mynd i'r llys i setlo pethau - nawr ac yn y dyfodol.

Beth y gall cytundeb gwahanu ei gwmpasu

Gall cytundeb gwahanu gwmpasu unrhyw beth sy'n berthnasol pan fyddwch yn dod â'ch cytundeb i ben. Gall hyn gynnwys:

  • cynhaliaeth ar gyfer eich cyn-bartner neu unrhyw blant dan sylw
  • sut y byddwch yn rhannu arian, eiddo ac eitemau personol gan nad ydych yn byw gyda'ch gilydd mwyach
  • gyda phwy y dylai eich plant fyw a bod mewn cysylltiad â hwy
  • unrhyw amodau arall rydych am gytuno arnynt, fel peidio â chythruddo na tharfu ar eich cyn-bartner

Cynllunio cytundeb gwahanu

Er mwyn llunio cytundeb gwahanu sy'n gyfrwymol yn gyfreithiol, bydd angen i chi ddefnyddio cyfreithwyr. Byddant yn rhoi cyngor i chi ar eich opsiynau ac yn llunio'r ddogfen i wneud yn siŵr bod yr hyn y cytunir arno yn deg ac yn gyfreithiol.

Ond cyn i chi gysylltu â chyfreithiwr, mae'n syniad da cytuno ar gymaint â phosibl rhyngoch. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws, yn gynt ac yn rhatach i gyfreithwyr lunio'r cytundeb terfynol.

Os bydd angen help arnoch i gytuno ar faterion penodol cyn i chi gysylltu â chyfreithiwr, gallwch ystyried defnyddio cyfryngu. Mae cyfryngwr yn unigolyn annibynnol a fydd yn gweithio gyda'r ddau ohonoch i ddod i gytundeb.

Llunio cytundeb gwahanu

Os ydych eisoes wedi dod i gytundeb, bydd y cyfreithwyr yn llunio'r ddogfen ar eich cyfer

Pan fyddwch yn llunio cytundeb gwahanu, bydd gan y ddau ohonoch gyfreithiwr gwahanol fel arfer.

Bydd angen i chi dalu costau'r cyfreithiwr – er y gallwch gael cymorth ariannol o bosibl.

Gweler yr adran 'Help gyda chostau cyfreithwyr' isod.

Bydd angen i'r ddau ohonoch ddangos eich sefyllfa ariannol gyflawn i'ch cyfreithwyr. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth fel cyfriflenni banc a gweithredoedd ar gyfer eiddo os ydych yn berchen ar gartref, er enghraifft.

Os nad ydych wedi llwyddo i ddod i gytundeb cyn mynd at y cyfreithwyr, byddant yn ceisio trefnu un ar eich rhan.

Os ydych eisoes wedi dod i gytundeb, bydd y cyfreithwyr yn llunio'r ddogfen ar eich cyfer. Byddant yn cyfnewid y cytundebau rhyngddynt hyd nes y bydd y ddau ohonoch yn fodlon.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd eich cyfreithwyr hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr y gellid newid y cytundeb yn 'orchymyn caniatâd' os byddwch yn penderfynu gwneud cais i'r llys i wahanu'n gyfreithiol yn ddiweddarach.

Bydd hyn yn osgoi gorfod mynd i'r llys i ddatrys materion yn ymwneud ag arian, eiddo ac eitemau personol os byddwch yn dewis ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.

Pan gaiff y cytundeb ei gadarnhau

Unwaith y bydd eich cytundeb gwahanu wedi'i gadarnhau, yn ôl y gyfraith mae'n 'gontract' rhyngoch chi a'ch cyn-bartner.

Mae hyn yn golygu, cyhyd ag y bydd y cytundeb wedi'i baratoi'n briodol, ei fod yn gyfrwymol yn gyfreithiol.

Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cadw at delerau'r cytundeb. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gall eich cyn-bartner ddwyn achos llys yn eich erbyn am dorri'r contract.

Newid telerau'r cytundeb

Os bydd pethau'n newid a byddwch am newid telerau'r cytundeb, gallwch wneud hynny - cyhyd ag y bydd eich cyn-bartner yn cytuno.

Er mwyn newid telerau'r cytundeb, bydd angen i chi fynd yn ôl at eich cyfreithwyr a gofyn iddynt wneud y newidiadau y cytunwyd arnynt.

Os na fydd eich cynbartner yn cytuno, bydd y cytundeb gwreiddiol yn parhau mewn grym.

Help gyda chostau cyfreithwyr

Efallai y gallwch gael Cymorth Cyfreithiol i dalu costau cyfreithwyr am gytundeb gwahanu.

Gallwch ganfod a ydych yn gymwys drwy ddefnyddio cyfrifydd cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Neu gallwch ffonio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i gael rhagor o help.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU