Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwahanu'n gyfreithiol

Gallwch ystyried gwahanu'n gyfreithiol os ydych am wahanu oddi wrth eich priod neu'ch partner sifil heb ddod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol. Mynnwch wybod beth yw gwahanu'n gyfreithiol, pryd y gall fod yn addas i chi a sut mae'r broses yn gweithio.

Beth yw gwahanu'n gyfreithiol?

Mae gwahanu'n gyfreithiol yn golygu y byddwch yn parhau'n briod neu mewn partneriaeth sifil ond na fydd gennych yr un cyfrifoldebau tuag at eich gilydd mwyach. Fe'i gelwir yn aml yn 'ymwahaniad barnwrol' yn achos priodasau yng Nghymru a Lloegr.

Gallwch ofyn am gael gwahanu'n gyfreithiol am yr un rhesymau ag y gallech ddewis ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil. Gallai'r rhain gynnwys ymddygiad annerbyniol neu adawiad, er enghraifft.

Sut mae gwahanu'n gyfreithiol yn wahanol i ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil

Nid yw gwahanu'n gyfreithiol yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol

Nid yw gwahanu'n gyfreithiol yn dod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol. Yn lle hynny, cewch archddyfarniad neu orchymyn gan lys i ddangos eich bod wedi gwahanu'n gyfreithiol.

Tra byddwch wedi gwahanu'n gyfreithiol, ni chewch ailbriodi nac ymrwymo i bartneriaeth sifil newydd. Y rheswm am hyn yw eich bod, yn ôl y gyfraith, yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Dim ond os buoch yn briod am o leiaf flwyddyn (neu ddwy flynedd yng Ngogledd Iwerddon) y gallwch wneud cais i ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil. Ond gallwch wneud cais i wahanu'n gyfreithiol unrhyw bryd ar ôl i chi briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil.

Pam y byddwch yn ystyried gwahanu'n gyfreithiol o bosibl

Mae'n well gan rai parau wahanu'n gyfreithiol yn lle ysgaru neu ddod â'u partneriaeth sifil i ben. Efallai y byddwch yn penderfynu gwahanu'n gyfreithiol am y rhesymau canlynol:

  • mae'n rhoi amser ar wahân i chi benderfynu a ydych am ddod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben mewn gwirionedd
  • mae eich credoau crefyddol yn gwrthdaro â'r syniad o ysgariad
  • mae'n anodd rhoi'r prawf sydd ei angen bod eich priodas neu'ch partneriaeth sifil wedi 'torri i lawr yn anadferadwy'
  • rydych yn briod ers llai na blwyddyn

Gall cael archddyfarniad gwahanu neu orchymyn helpu i gyflymu'r broses os byddwch yn dewis ysgaru neu ddod â'ch partneriaeth sifil i ben yn ddiweddarach.

Sut i wahanu'n gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr

Y cam cyntaf yw dweud wrth y llys eich bod am wneud cais am ymwahaniad barnwrol (os ydych yn briod) neu orchymyn gwahanu (os ydych mewn partneriaeth sifil).

Gallwch wneud hyn drwy gyflwyno ffurflen o'r enw 'deiseb wahanu'.

Dyma'r un ffurflen a ddefnyddir gan bobl os ydynt yn dechrau ysgariad - ffurflen D8. Bydd angen i chi nodi ar y ffurflen eich bod yn gofyn am ymwahaniad barnwrol/gorchymyn gwahanu a'r rhesymau dros hynny.

Anfonwch y ffurflenni i'r llys rydych am iddo ymdrin â'ch achos

Llenwi deiseb wahanu

Bydd angen i chi gwblhau tri chopi o'r ddeiseb wahanu. Bydd un copi ar eich cyfer chi, un ar gyfer y llys ac un i'r llys ei anfon at eich priod neu'ch partner sifil.

Anfonwch y ffurflenni i'r llys rydych am iddo ymdrin â'ch achos.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi - £340 ar hyn o bryd. Ond efallai y gallwch gael gostyngiad os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau.

Ymdrin â materion ariannol ac eiddo wrth wahanu'n gyfreithiol

Os gallwch gytuno sut i rannu eich arian neu'ch eiddo, gallwch lunio cytundeb cyfreithiol i gadarnhau pwy sy'n cael beth. Gelwir hyn yn 'orchymyn caniatâd’.

Os na allwch gytuno, gallwch wneud cais am 'orchymyn ategol'. Gelwir hyn weithiau yn ‘orchymyn cymorth ategol’ a threfniant ffurfiol a wneir mewn llys ydyw.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU