Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhesymau y gallwch eu defnyddio i 'ddiddymu' partneriaeth sifil

Er mwyn 'diddymu' partneriaeth sifil, bydd angen i chi brofi i'r llys y rhesymau pam nad yw eich partneriaeth sifil yn gweithio mwyach. Gelwir y rhesymau hyn yn 'ffeithiau' ategol. Bydd angen i chi benderfynu pa rai sy'n gymwys i'ch partneriaeth sifil. Mynnwch wybod beth yw ystyr 'ffeithiau'.

Beth yw ystyr 'partneriaeth sifil'

Mae partneriaethau sifil yn cadarnhau'n gyfreithiol berthynas rhwng dau berson o'r un rhyw.

Os buoch yn byw gyda rhywun neu'n briod, gallwch gael mwy o wybodaeth am ddod â'r berthynas i ben drwy ddilyn y dolenni isod.

Beth sydd angen i chi ei brofi er mwyn diddymu partneriaeth sifil

Er mwyn dod â phartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol, mae'n rhaid ei bod wedi para o leiaf flwyddyn

Er mwyn dod â phartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol drwy ei 'diddymu', mae'n rhaid ei bod wedi para o leiaf flwyddyn.

Bydd angen i chi hefyd brofi i'r llys pam nad yw'r bartneriaeth sifil yn gweithio mwyach.

Mae angen prawf ar y llys bod y 'bartneriaeth sifil wedi torri i lawr yn anadferadwy'. Bydd angen i chi roi rhesymau pendant am hyn - gelwir y rhesymau hyn yn 'ffeithiau' ategol.

'Ffeithiau' ategol i ddiddymu partneriaeth sifil

Mae pedair 'ffaith' ategol y gallwch eu defnyddio i brofi i'r llys y dylai eich partneriaeth sifil gael ei diddymu. Bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y llys pa 'ffaith' sydd wedi digwydd i ddangos pam eich bod am ddod â'r bartneriaeth sifil i ben.
Rhain yw:

  • ymddygiad afresymol gan eich partner sifil
  • gadawodd eich partner sifil eich cartref dros ddwy flynedd yn ôl (y term cyfreithiol am hyn yw 'gadael')
  • rydych wedi gwahanu ers o leiaf ddwy flynedd ac mae'r ddau ohonoch yn cytuno y dylid diddymu'r bartneriaeth
  • rydych wedi gwahanu ers o leiaf bum mlynedd ond nid yw un ohonoch wedi dweud ei fod yn cytuno y dylid diddymu'r bartneriaeth


Beth yw ystyr 'ymddygiad afresymol'

Ystyr 'ymddygiad afresymol' yn gyffredinol yw pan fydd partner yn gweithredu mewn ffordd sy'n golygu na ellir disgwyl i chi fyw gyda hwy mwyach.

Gallai ymddygiad afresymol gynnwys, er enghraifft:

  • creulondeb corfforol neu feddyliol
  • cam-drin ar lafar neu'n gorfforol
  • delio ag arian mewn modd anghyfrifol
  • bod yn anffyddlon yn rhywiol

Nid oes rhaid i ymddygiad afresymol fod yn un digwyddiad difrifol - gall fod yn nifer o ddigwyddiadau llai.

Bydd angen i chi fynd i rywfaint o fanylder, felly mae'n ddefnyddiol nodi dyddiadau neu amseroedd y digwyddiadau hyn. Bydd angen i chi roi'r manylion hyn i'r llys pan fyddwch yn dechrau'r broses ddiddymu.

Cofiwch os daeth yr ymddygiad afresymol i ben fwy na chwe mis yn ôl, efallai na fydd y llys yn ystyried ei fod yn rheswm dros ddod â'ch partneriaeth sifil i ben. Os felly, mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol.

Os ydych mewn perthynas dreisgar, cewch wybod ble i gael help drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth yw ystyr 'gadael'

Gallwch ddefnyddio 'gadael' fel rheswm dros ddiddymu eich partneriaeth sifil os gadawodd eich partner eich cartref o leiaf ddwy flynedd yn ôl. Mae'n rhaid ei fod wedi gwneud hyn:

  • heb eich caniatâd
  • heb reswm da
  • am gyfnod o fwy na dwy flynedd yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf
  • gyda'r nod o ddod â'r berthynas rhyngoch i ben

Gallwch hawlio eich bod wedi'ch gadael o hyd os ydych wedi byw gyda'ch gilydd am hyd at gyfanswm o chwe mis o fewn y cyfnod hwn.

Os buoch yn byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd, nid oes angen i'r ddau ohonoch gytuno i ddiddymu'r bartneriaeth

Beth yw ystyr 'gwahanu'

Ystyr 'gwahanu' fel arfer yw nad ydych wedi bod yn cyd-fyw yn yr un cartref.

O dan rai amgylchiadau, gellir ystyried eich bod wedi gwahanu o hyd os ydych wedi aros yn yr un cartref. Ond mae'n rhaid i chi allu dangos nad ydych wedi bod yn byw fel partneriaid sifil.

Mae hyn yn golygu profi nad ydych wedi rhannu prydau, wedi cysgu gyda'ch gilydd nac wedi gwneud pethau i'ch gilydd fel golchi dillad, coginio neu lanhau.

Os ydych chi a'ch partner sifil wedi gwahanu ers o leiaf ddwy flynedd a bod y ddau ohonoch yn cytuno y dylid diddymu'r bartneriaeth, gallwch ddefnyddio 'gwahanu' fel 'ffaith'.

Os buoch yn byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd, nid oes angen i'r ddau ohonoch gytuno i ddiddymu'r bartneriaeth. Gall y naill neu'r llall ohonoch ddefnyddio 'gwahanu' fel 'ffaith'. Ond gall y llys wrthod rhoi'r gorchymyn os byddai'n achosi caledi i'ch partner sifil.

Dechrau'r broses i ddod â phartneriaeth sifil i ben

Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar y 'ffaith' rydych yn bwriadu ei defnyddio i gefnogi 'sail' eich cais i ddod â'ch partneriaeth i ben, gallwch ddechrau'r broses ffurfiol.

Gwahanu os na allwch ddiddymu eich partneriaeth neu nad ydych am wneud hynny

Efallai y bydd rhesymau pam na allwch ddiddymu eich partneriaeth. Er enghraifft, efallai y buoch yn rhan o'r bartneriaeth am lai na blwyddyn, neu na allwch brofi unrhyw un o'r 'ffeithiau' ategol.

Os felly, gallech ystyried gwahanu'n gyfreithiol yn lle diddymu eich partneriaeth sifil.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU