Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn dod â phartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol rhaid i chi gael 'gorchymyn amodol' gan y llys. Cyn i'r llys roi gorchymyn amodol i chi rhaid i chi wneud cais am 'ddeiseb ddiddymu'. Mynnwch wybod sut i wneud cais am ddeiseb ddiddymu a beth sy'n digwydd os nad yw eich partner yn cytuno iddi.
Bydd angen i chi ddangos y rhesymau pam bod eich partneriaeth wedi dod i ben ar y ffurflen
Os ydych am ddod â'ch partneriaeth sifil i ben, bydd angen i chi gael dwy ddogfen wahanol gan lys. 'Deiseb ddiddymu' yw'r ddogfen gyntaf, a 'gorchymyn amodol' yw'r ail.
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddeiseb ddiddymu (ffurflen D8) drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen, y mae'n rhaid iddi gynnwys:
Bydd angen i chi hefyd gynnwys eich tystysgrif partneriaeth sifil. Ni allwch ddefnyddio llungopi ar gyfer hyn - rhaid cyflwyno'r ddogfen wreiddiol neu gopi gan y swyddfa gofrestru.
Bydd angen i chi ddangos ar y ffurflen y rhesymau pam bod eich partneriaeth wedi dod i ben. Caiff y rhain eu galw'n 'rhesymau’. Gallwch ddarllen mwy am y rhain drwy ddilyn y ddolen isod.
Os oes gennych blant, bydd angen i chi lenwi ffurflen D8A hefyd - sef 'datganiad o'r trefniadau i'r plant'.
Rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon gan gynnwys:
Bydd angen i chi dalu ffi i wneud cais am orchymyn amodol.
£340 yw'r ffi ar hyn o bryd. Ond os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu ar incwm isel, efallai y gallwch gael gostyngiad.
Bydd angen i chi lenwi tri chopi o'r ddeiseb ddiddymu (ffurflen D8). Os oes gennych blant, bydd yn rhaid i chi hefyd lenwi tri chopi o ffurflen D8A.
Rhaid i chi anfon y ffurflenni i lys sy'n delio â dod â phartneriaethau sifil i ben. Mae 10 llys penodol a all ddelio â dod â phartneriaeth sifil i ben. Gallwch ddod o hyd i’ch llys agosaf drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Pan gaiff y llys eich deiseb ddiddymu, bydd yn anfon copi at eich partner
Pan gaiff y llys eich deiseb ddiddymu, bydd yn anfon copi at eich partner. Caiff hefyd ffurflen 'cydnabyddiaeth o gyflwyno' - ffurflen D510(6). Mae gan yr unigolyn wyth diwrnod i'w llenwi a'i dychwelyd.
Bydd y llys hefyd yn anfon 'hysbysiad cofnodi deiseb' (ffurflen D9H) atoch, yn dweud wrthych pryd y cafodd y ffurflenni eu hanfon at eich partner.
Gall eich partner gytuno â'r diddymu neu ddadlau yn ei erbyn (ei 'herio'). Bydd yn dangos hyn wrth lenwi ffurflen D510(6).
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'n cael ei herio a bydd y broses yn symud i'r cam nesaf - cael gorchymyn amodol.
Os yw eich partner am herio'r diddymiad, dylech gael cyngor proffesiynol os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod.
Gall herio diddymiad fod yn anodd iawn. Gall:
Mae bob amser yn well osgoi herio diddymiad os yw hynny'n bosibl.