Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cael gorchymyn terfynol i ddod â'ch partneriaeth sifil i ben

Cael 'gorchymyn terfynol' yw'r cam olaf wrth ddod â phartneriaeth sifil i ben. Unwaith y bydd y llys wedi'i gyflwyno'n ffurfiol i chi, bydd eich partneriaeth sifil wedi dod i ben yn ffurfiol. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn gwneud cais am orchymyn terfynol.

Cyn y gallwch wneud cais am orchymyn terfynol

Unwaith y bydd gennych y gorchymyn terfynol, bydd eich partneriaeth sifil ar ben

Y gorchymyn terfynol yw cam olaf y broses gyfreithiol sy'n dod â'ch partneriaeth sifil i ben. Unwaith bod gennych hwn, bydd eich partneriaeth sifil ar ben. Gallwch ymrwymo i bartneriaeth sifil arall os hoffech.

Cyn i chi allu gwneud cais am orchymyn terfynol, mae'n rhaid bod gennych eisoes orchymyn amodol gan y llys.

Gallwch gael gwybod sut i gael gorchymyn amodol drwy ddilyn y ddolen isod.

Gwneud cais am orchymyn terfynol

Er mwyn gwneud cais am orchymyn terfynol, mae angen i chi lenwi ffurflen D36 - 'Hysbysiad o gais am orchymyn amodol i'w wneud yn derfynol'. Gallwch gael hon gan y llys a ddeliodd â'ch gorchymyn amodol neu gallwch ei lawrlwytho drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae'n costio £45 i wneud cais am orchymyn terfynol. Os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, efallai y gallwch gael help i'w dalu. Dilynwch y ddolen 'Costau Llys - A oes rhaid i chi eu talu?' isod i weld a ydych yn gymwys.

Dychwelyd eich cais at lys

Unwaith y byddwch wedi llenwi ffurflen D36, bydd angen i chi ei dychwelyd at y llys. Fel arfer, dyma'r un llys a ddeliodd â'ch gorchymyn amodol.

Cofiwch nad yw pob llys yn delio â dod â phartneriaethau sifil i ben - sicrhewch eich bod yn ei hanfon at y llys sy'n delio â'ch diddymiad. Gallwch ddod o hyd i’ch llys lleol gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Os mai chi a ddechreuodd y diddymiad

Gallwch gyflwyno'r ffurflen i'r llys a gofyn am orchymyn terfynol - ond mae'n rhaid i chi ddisgwyl tan 6 wythnos ar ôl y diwrnod y cafodd eich gorchymyn amodol ei gyflwyno.

Os nad chi a ddechreuodd y diddymiad

Os nad chi ddechreuodd y diddymiad ond eich bod am wneud cais am y gorchymyn terfynol, rhaid i chi aros tri mis yn ychwanegol.

Mae hyn yn golygu mai'r cynharaf y gallwch wneud cais am orchymyn terfynol yw tri mis, chwe wythnos a diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd eich gorchymyn amodol ei gyflwyno.

Os gwnewch gais fwy na 12 mis ar ôl cael gorchymyn amodol

Mae'n haws cael gorchymyn terfynol os gwnewch gais o fewn 12 mis i'r gorchymyn amodol

Mae'n haws cael gorchymyn terfynol os gwnewch gais o fewn 12 mis i'r gorchymyn amodol.

Os yw'n hwyrach na hynny, bydd yn rhaid i chi dweud y canlynol wrth y llys:

  • pam y bu oedi
  • os ydych wedi byw gyda'ch partner sifil ers cyflwyno'r gorchymyn amodol
  • os oes mwy o blant sy'n rhan o'r teulu wedi cael eu geni

Bydd angen i chi ofyn i'r llys a oes angen mwy o wybodaeth arno.

Cael gorchymyn terfynol

Unwaith y caiff y llys eich ffurflen D36 wedi'i chwblhau, bydd yn gwneud yn siŵr nad oes rhesymau pam na ellir 'diddymu' y bartneriaeth sifil (ei dwyn i ben).

Er enghraifft, bydd y llys yn gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi'r manylion y mae wedi gofyn amdanynt o fewn y terfynau amser cywir. Hefyd, os oes gennych blant, rhaid i'w hanghenion gael eu hystyried. Nid oes rhaid i chi fynd i'r llys ar gyfer hyn.

Os yw'r llys yn fodlon ar yr holl wybodaeth sydd ganddo, bydd yn anfon gorchymyn terfynol atoch chi a'ch partner sifil (a elwir hefyd yn Ffurflen D537).

Mae hyn yn golygu bod eich partneriaeth sifil wedi dod i ben ac y gallwch ymrwymo i bartneriaeth sifil arall os hoffech.

Rhaid i chi gadw eich gorchymyn terfynol yn ddiogel. Bydd angen i chi ei ddangos os ydych yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil arall. Efallai y bydd ei angen arnoch i brofi eich statws am unrhyw reswm arall, fel hawlio budd-daliadau neu bensiwn.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU