Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gorchymyn amodol

I ddod â’ch partneriaeth sifil i ben mae angen i chi gael 'gorchymyn amodol' gan y llys. Unwaith y mae gennych orchymyn amodol gallwch wneud cais am ‘gorchymyn terfynol’, mae’r gorchymyn hwn yn dod â’ch perthynas i ben yn gyfreithiol. Cael gwybod am y prosesau sy’n ymglymedig â chael gorchymyn amodol.

Beth yw gorchymyn amodol

Os ydych wedi dechrau proses i ddiddymu eich partneriaeth sifil, gallwch wneud cais am 'orchymyn amodol'. Mae'n ddogfen sy'n dweud nad yw'r llys yn gweld unrhyw reswm pam na allwch ddiddymu'r bartneriaeth sifil.

Cyn y gallwch wneud cais am orchymyn amodol

Cyn y gallwch wneud cais am orchymyn amodol, mae'n rhaid eich bod wedi:

  • penderfynu pam eich bod am ddod â'ch partneriaeth sifil i ben (y 'ffeithiau')
  • cyflwyno deiseb ddiddymu ac wedi cael ymateb gan eich partner sifil

Cewch wybod am y rhannau hyn o'r broses drwy ddilyn y dolenni isod.

Os bydd eich partner yn cytuno â'r diddymiad

Rhaid i chi aros o leiaf naw diwrnod ar ôl i'ch partner dderbyn copi o'r ddeiseb ddiddymu

Gallwch wneud cais am orchymyn amodol os bydd eich partner sifil yn dangos ei fod/ei bod yn cytuno y dylid diddymu'r bartneriaeth sifil. Bydd yn dangos hyn ar ei ffurflen D510(6) pan fydd yn ei dychwelyd i'r llys.

Er mwyn gwneud cais am orchymyn amodol, rhaid i chi lenwi dwy ffurflen a'u dychwelyd:

  • ffurflen D84 - ‘Cais am archddyfarniad cyntaf/gorchymyn amodol neu archddyfarniad/gorchymyn gwahanu (barnwrol)
  • ffurflen D80B-E - Affidafid o blaid ysgariad/diddymiad/gwahanu (barnwrol) - ymddygiad afresymol

Rhaid i chi aros o leiaf naw diwrnod ar ôl i'ch partner sifil dderbyn copi o'r ddeiseb ddiddymu cyn dychwelyd y ffurflenni hyn.

Bydd angen i'r ffurflenni ddangos bod eich partner sifil:

  • wedi derbyn deiseb ddiddymu
  • yn cytuno â'r diddymiad os ydych yn defnyddio'r 'ffaith' eich bod wedi byw ar wahân ers dwy flynedd fel eich 'rheswm'
  • cytuno ar unrhyw drefniant a gynigiwyd ar gyfer y plant

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ffurflen D510(6) wedi'i chwblhau gan eich partner yn dangos hyn oll, felly dylech ei hatodi i Ffurflen D80B-E.

Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflenni hyn i'r llys sy'n delio â'ch cais i ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dychwelyd y gwaith papur

Unwaith y bydd y llys yn derbyn y ffurflenni hyn, bydd yn trefnu gwrandawiad lle bydd barnwr yn adolygu'r gwaith papur.

Os nad ydych yn amddiffyn y cais i ddiddymu'r bartneriaeth sifil, nid oes rhaid i'r naill na'r llall ohonoch fynychu'r gwrandawiad llys hwn.

Yn y gwrandawiad llys, bydd y barnwr yn penderfynu p'un a ellir dod â'r bartneriaeth sifil i ben.

Os bydd yn penderfynu y gellir gwneud hynny, bydd y llys yn anfon ffurflen D584A ('tystysgrif o hawl i gael gorchymyn diddymu') atoch. Mae'n ddogfen sy'n dweud nad oes unrhyw reswm cyfreithiol pam na ellir diddymu eich partneriaeth sifil.

Ond cofiwch, bydd yn rhaid i chi gael 'gorchymyn terfynol' o hyd cyn y gellir dod â'ch partneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol. Mynnwch wybod mwy am sut i gael gorchymyn terfynol drwy ddilyn y ddolen isod.

Os na fydd eich partner yn cytuno â'r diddymiad

Mae'n llawer gwell i bawb os gallwch gytuno ar y rhesymau dros ddiddymu cyn mynd i'r llys

Os yw eich partner sifil yn anghytuno â'r diddymiad,

neu eich rhesymau drosto, efallai y bydd yn dewis ei amddiffyn.

Bydd yn dangos hyn ar ei ffurflen D510(6).

Os bydd hyn yn digwydd, mae'n syniad da iawn cael cyngor proffesiynol. Gall amddiffyn diddymiad:

  • gostio llawer mewn costau cyfreithiol
  • cymryd llawer o amser
  • peri gofid i bawb dan sylw

Mae'n llawer gwell i bawb os gallwch gytuno ar y rhesymau dros ddiddymu cyn mynd i'r llys. Gall cyfryngwyr neu gyfreithwyr eich helpu i wneud hyn.

Os na fydd y llys yn cytuno â'r diddymiad

Os na fydd y llys yn fodlon ar y diddymiad, neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arno cyn y gall benderfynu, bydd yn dweud wrth y ddau ohonoch. Cewch ffurflen D79 ('Hysbysiad o wrthod tystysgrif y barnwr').

Bydd y ffurflen yn dweud wrthych beth yw'r broblem. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n golygu bod angen rhagor o wybodaeth ar y llys. Bydd yn dweud wrthych pa wybodaeth sydd ei hangen arno ar ffurflen D79.

Os bydd y barnwr o'r farn na all wneud penderfyniad gan ddefnyddio'r wybodaeth ysgrifenedig, gall ofyn i chi fynd i wrandawiad llys.

Os bydd hyn yn digwydd, mae'n syniad da gwneud yn siŵr eich bod yn cael cyngor cyfreithiol.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU