Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau os byddwch yn gwahanu ond nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil

Mae gan barau nad ydynt yn briod nac mewn partneriaeth sifil lai o hawliau cyfreithiol na pharau priod neu barau sydd mewn partneriaeth sifil. Mynnwch wybod beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am rannu eich asedau pan fyddwch yn gwahanu a'r gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu i ddod i gytundeb.

Eich hawliau cyfreithiol os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil

Nid oes gennych yr un hawliau â rhywun sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil

Hyd yn oes os buoch yn byw gyda rhywun am flynyddoedd neu fod gennych blant gyda'ch gilydd, nid oes gennych yr un hawliau â rhywun sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mae gennych yr un hawliau i rywbeth rydych yn berchen arno ar y cyd ond nid oes gennych unrhyw hawliau awtomatig i unrhyw beth sy'n eiddo i'ch partner yn unig. Mae hyn yn cynnwys:

  • arian
  • eiddo
  • dodrefn ac eitemau personol

Rhannu arian pan fyddwch yn gwahanu

Pan fyddwch yn gwahanu, ni fydd gan eich partner fel arfer unrhyw hawliau i gyfrif banc personol yn eich enw chi yn unig.

Ni fydd ganddo ychwaith unrhyw gyfrifoldeb i'ch helpu i dalu unrhyw ddyledion yn eich enw chi - hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch yn gyfrifol am gronni'r dyledion hynny. Am fwy o wybodaeth, gweler 'Rhannu arian ac eitemau personol os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil’.

Eich hawliau i eiddo pan fyddwch yn gwahanu

Bydd eich hawliau i eiddo rydych yn ei rannu gyda'ch partner yn amrywio, yn dibynnu ar y canlynol:

  • p'un a ydych yn berchen arno neu'n ei rentu
  • gan bwy rydych yn ei rentu
  • yn enw pwy y mae'r morgais


Am fwy o wybodaeth, gweler 'Tai ac eiddo os byddwch yn gwahanu ac nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil'.

Talu cynhaliaeth pan fyddwch yn gwahanu

Ni fydd gennych yr hawl gyfreithiol i gael unrhyw gynhaliaeth (taliadau rheolaidd) gan eich partner os byddwch yn gwahanu. Ni fydd gan eich partner ychwaith yr hawl gyfreithiol i ofyn am gynhaliaeth gennych chi.

Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os rhoddodd un ohonoch y gorau i weithio er mwyn gofalu am eich plant neu gefnogi gyrfa'r llall.

Efallai y bydd yn rhaid i'ch partner dalu cynhaliaeth plant am blant sydd gennych gyda'ch gilydd - bydd y ddau ohonoch yn parhau'n gyfrifol am unrhyw blant.

Gellir cytuno ar daliadau cynhaliaeth plant yn anffurfiol rhyngoch chi a'ch partner. Gellir gwneud trefniadau ffurfiol drwy'r Asiantaeth Cynhaliaeth Plant neu'r llys.

Rhannu dodrefn ac eitemau personol eraill pan fyddwch yn gwahanu

Bydd angen i chi geisio dod i gytundeb gyda'ch partner am sut i rannu dodrefn ac eitemau personol. Yn gyffredinol, gallwch fod yn berchen ar bethau 'ar y cyd' (rhyngoch) neu 'ar wahân' (ar eich pen eich hun).

Er enghraifft, efallai eich bod wedi prynu rhai eitemau gyda'ch arian eich hun i'w defnyddio eich hun. Byddai'r rhain fel arfer yn cael eu hystyried yn eitemau 'ar wahân'. Ond gall eitemau eraill rydych wedi eu prynu gyda'ch gilydd fod yn rhai 'ar y cyd'.

Am fwy o wybodaeth, gweler 'Rhannu arian ac eitemau personol os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil’.

Cyfryngu - dod i gytundeb pan fyddwch yn gwahanu

Ni fydd yn cefnogi'r naill ochr na'r llall a bydd eich trafodaethau'n parhau'n gyfrinachol

Nid oes proses swyddogol i'w dilyn os byddwch chi a'ch partner yn gwahanu ac nad ydych yn briod.

Fodd bynnag, os bydd angen help arnoch i ddod i gytundeb am arian, eiddo neu eich plant, gallwch ddefnyddio cyfryngu.

Unigolyn annibynnol yw cyfryngwr a fydd yn eich helpu chi a'ch partner i negodi cytundeb. Ni fydd y cyfryngwr yn cefnogi'r naill ochr na'r llall a bydd eich trafodaethau'n parhau'n gyfrinachol.

Os byddwch yn defnyddio cyfryngwr yn lle mynd i lys, gallai arbed llawer o amser ac arian i chi.

Bydd yn rhaid i chi dalu cyfryngwr, ond efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu'r gost. Gallwch gadarnhau a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol drwy ddefnyddio'r cyfrifydd cymorth cyfreithiol.

Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen 'Cyfryngu i ddatrys problemau pan fyddwch yn gwahanu' isod.

Gwneud cytundeb yn gyfrwymol yn gyfreithiol

Os gallwch ddod i gytundeb gyda'ch partner, efallai y byddwch am ei wneud yn gyfrwymol yn gyfreithiol. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd llai o siawns o anghydfod yn ddiweddarach. Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen 'Cytundebau cyfreithiol os byddwch yn gwahanu' isod.

Beth sy'n digwydd os na allwch ddod i gytundeb

Os na allwch chi a'ch partner ddod i gytundeb, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys. Dylech feddwl yn ofalus cyn gwneud hyn oherwydd gall fynd â chryn amser ac arian.

Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch gael cyngor am ddim gan y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau a all helpu.

Gallwch hefyd gael cyngor gan gyfreithiwr.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU