Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhannu arian ac eiddo eich hunain os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i fyw gyda'ch gilydd, fel arfer bydd y ddau ohonoch yn berchen ar yr hyn y gwnaethoch dalu amdano. Gallwch o bosibl gytuno ymysg eich gilydd sut i rannu pethau, neu efallai y bydd angen help arnoch. Mynnwch wybod sut y gallwch rannu arian ac eiddo mewn ffordd deg os byddwch yn rhoi'r gorau i fyw gyda'ch gilydd.

Dod i gytundeb ar arian ac eiddo

Gall dod i gytundeb ar arian ac eiddo pan fyddwch wedi gwahanu fod yn anodd.

Os ydych yn cael trafferth dod i gytundeb, gallwch ddefnyddio cyfryngwr i helpu.

Cyfrifon banc a buddsoddiadau pan fyddwch yn gwahanu

Fel arfer, caiff arian mewn cyfrifon banc, cynilion a buddsoddiadau yn eich enw chi eu hystyried yn berchen i chi yn unig

Bydd y trefniadau a wnewch ynghylch cyfrifon banc a buddsoddiadau pan fyddwch yn gwahanu yn dibynnu ar ba un a ydynt yn gyfrifon unigol neu'n gyfrifon ar y cyd.

Cyfrifon yn eich enw

Fel arfer, caiff arian mewn cyfrifon banc, cynilion a buddsoddiadau yn eich enw chi eu hystyried yn berchen i chi yn unig.

Ond weithiau gall eich cyn-bartner ddweud ei fod wedi cyfrannu at y cyfrifon neu eich bod wedi cytuno i'w rhannu. Os bydd hyn yn digwydd, efallai bod ganddo hawl i ran ohonynt.

Cyfrifon ar y cyd

Os oes gennych gyfrifon ar y cyd, o dan y gyfraith ystyrir bod y ddau ohonoch yn berchen ar hanner yr arian yn y cyfrif.

Ond os gall eich partner brofi ei fod wedi rhoi mwy o arian i mewn i'r cyfrif, efallai y gall ddadlau bod ganddo hawl i gyfran fwy ohono.

Rhannu eiddo pan fyddwch yn gwahanu

Pan fyddwch yn gwahanu, ystyrir bod eiddo yn berchen i'r person a wnaeth ei brynu. Nid oes gan eich partner hawl awtomatig i unrhyw beth rydych wedi talu amdano eich hun.

Os gwnaethoch brynu pethau gyda'ch gilydd, mae'r ddau ohonoch yn berchen ar gyfran sy'n gyfwerth â'r swm y gwnaethoch gyfrannu ato. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu gwely gyda'ch gilydd am £400 ac y gwnaethoch gyfrannu £100 tuag ato, byddech yn berchen ar chwarter ohono.

Dylech ddechrau drwy weithio allan beth y bydd ei angen ar y ddau ohonoch pan fyddwch yn byw ar wahân. Er enghraifft, bydd angen gwely, soffa a rhywfaint o offer cegin ar y ddau ohonoch.

Mae'n deg tybio bod y ddau ohonoch yn berchen ar hanner unrhyw eitemau a brynwyd ar y cyd. Ond efallai bod rhesymau da i gytuno bod un partner yn berchen ar gyfran fwy na'r llall. Er enghraifft, efallai fod un ohonoch yn fwy awyddus i gael eitem a'ch bod wedi cyfrannu mwy ato.

Dylech fod yn hyblyg wrth drafod, os oes modd.

Efallai y byddwch am dalu eich cyn-bartner am rai nwyddau yr hoffech eu cael. Efallai y bydd am wneud yr un fath, a'ch talu chi am rai eitemau.

Os na allwch rannu rhywbeth - er enghraifft, efallai mai dim ond un soffa sydd gennych - gallwch wneud trefniadau eraill. Gallai un partner gadw'r soffa, wrth i'r llall gymryd swm o arian y cytunwyd arno o gyfrif cynilo i brynu un arall.

Dod i gytundeb ar eitemau gwerthfawr

Gobeithio y byddwch yn gallu cytuno ar bwy fydd yn cadw'r rhan fwyaf o'r eitemau 'dydd i ddydd'. Ond os ydych yn berchen ar eitemau gwerthfawr, fel gemwaith, ceir neu gelf, gall fod yn anoddach.

Dylech gael gwerth am arian ar gyfer unrhyw eitemau fel hyn, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod beth fyddai eu gwerth. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywun i'w prisio.

Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw gwerth yr eitemau, gallwch gytuno pwy sy'n cael beth yn seiliedig ar werth yr eitemau.

Dod i gytundeb cyfreithiol ar eich arian a'ch eiddo

Gallech ystyried dod i gytundeb cyfreithiol pan fyddwch yn gwahanu sy'n dangos pwy fydd yn cael beth. Mae'r rhain yn aml yn cael eu galw'n 'cytundebau gwahanu'.

Os gallwch ddod i gytundeb ymysg eich gilydd neu gyda help gan gyfryngwr, gallwch ofyn i gyfreithiwr ei ysgrifennu i chi. Gall hyn helpu i osgoi gwrthdaro yn nes ymlaen.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU