Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tai ac eiddo os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil

Gall materion ynghylch tai ac eiddo fod yn gymhleth i'w datrys pan fyddwch yn gwahanu, p'un a ydych yn rhentu neu'n berchen ar gartref. Mynnwch wybod am symud allan o fflat wedi'i rhentu yn fuan a beth y gallwch ei wneud am fflatiau neu dai y mae'r naill neu'r llall ohonoch yn berchen arnynt.

Os ydych yn rhentu fflat neu dŷ

Dylech ddarllen eich cytundeb tenantiaeth yn ofalus i weld faint o rybudd y mae angen i chi ei roi.

Mae'r hyn sydd angen i chi ei wneud i ddod â chytundeb tenantiaeth i ben pan fyddwch yn gwahanu yn dibynnu ar ba fath o landlord sydd gennych.

Os ydych yn cyd-berchen eich eiddo

Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud o ran eiddo o dan gydberchnogaeth yn dibynnu ar ba un a wnaethoch ei brynu fel 'cyd-dentantiaid' neu 'denantiaid cyffredin'

Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud o ran eiddo o dan gydberchnogaeth yn dibynnu ar ba un a wnaethoch ei brynu fel 'cyd-dentantiaid' neu 'denantiaid cyffredin’.

Os ydych yn berchen ar dŷ fel tenantiaid ar y cyd, byddech yn berchen arno gyda'ch gilydd yn gyfartal. Os byddwch yn gwahanu ac yn ei werthu, fel arfer byddai'r ddau ohonoch yn rhannu'r elw'n gyfartal.

Os ydych yn 'gyd-dentantiaid'

Os ydych yn berchen ar dŷ fel tenantiaid ar y cyd, byddech yn berchen arno gyda'ch gilydd yn gyfartal. Os byddwch yn gwahanu ac yn ei werthu, fel arfer byddai'r ddau ohonoch yn rhannu'r elw'n gyfartal.

Os ydych yn 'denantiaid cyffredin'

Os ydych yn denantiaid cyffredin, byddech yn berchen ar gyfran yr un - ond efallai na fydd y cyfrannau hynny'n gyfartal. Er enghraifft, gallai un ohonoch fod yn berchen ar 60 y cant o'r eiddo a'r llall fod yn berchen ar 40 y cant o'r eiddo.

Os gwnaethoch brynu eiddo fel tenantiaid cyffredin, byddai eich cyfreithiwr wedi llunio 'Datganiad Ymddiriedaeth'. Bydd hyn yn dangos i chi sut y caiff yr eiddo ei rannu rhyngoch.

Gwerthu tŷ o dan gydberchnogaeth

Os ydych yn berchen ar dŷ o dan gydberchnogaeth, gellir ond ei werthu os yw'r ddau berchennog yn cytuno i hynny.

Os hoffai un ohonoch aros, gallwch weld a allwch brynu cyfran y person arall.

Os oes un ohonoch yn berchen ar eich eiddo

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud ynghylch eiddo y mae un ohonoch yn unig yn berchen arno yn dibynnu ar yr hyn y cytunwyd arno eisoes.

Os gwnaethoch gytuno i rannu'r eiddo

Efallai eich bod chi a'ch cyn-bartner wedi cytuno i rannu'r eiddo, ond mai dim ond un ohonoch sydd ar y dogfennau perchnogaeth.

Os bydd hyn yn digwydd, gall y partner arall brofi ei fod yn berchen ar gyfran o'r eiddo o hyd. O dan y gyfraith caiff hyn ei alw'n 'buddiant llesiannol'.

Byddai maint y gyfran yn cael ei gyfrifo yn ôl y cyfraniadau a wnaed i'r cartref. Gallai hyn gynnwys talu biliau, cyfrannu at gynnal a chadw'r eiddo neu dalu rhan o'r blaendal neu'r morgais.

Os na wnaethoch gytuno i rannu'r eiddo

Os na wnaethoch gytuno i rannu'r eiddo, ond y gwnaeth partner nad yw'n berchen arno 'gyfraniad uniongyrchol', gall o bosibl brofi ei fod yn berchen ar gyfran.

Yn yr amgylchiadau hyn, dim ond cyfraniadau ariannol yw 'cyfraniadau uniongyrchol' - ac yn gyffredinol mae hyn yn golygu talu rhywfaint o'r blaendal neu'r morgais.

Os oes un partner wedi rhoi'r gorau i rywbeth gwerthfawr

Os yw'r partner nad yw'n berchen ar yr eiddo wedi rhoi'r gorau i rywbeth gwerthfawr er mwyn byw yno, gall o bosibl brofi bod ganddo hawl i aros. Er enghraifft, pe bai rhywun yn rhoi'r gorau i denantiaeth hirdymor er mwyn symud i mewn gyda phartner a addawodd gartref am oes iddo.

Os oes unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, dylech gael cyngor cyfreithiol. Gweler yr adran 'Cael help i ddod i gytundeb ar eiddo' isod.

Cael help i ddod i gytundeb ar eiddo

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud ynghylch eiddo pan fyddwch yn gwahanu, dylech gael cyngor cyfreithiol

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud ynghylch eiddo pan fyddwch yn gwahanu, dylech gael cyngor cyfreithiol fel eich bod yn deall eich hawliau.

Mae'n well ceisio dod i gytundeb ymysg eich gilydd os gallwch, oherwydd gall dwyn pethau i lys gostio arian a'ch rhoi dan bwysau mawr. Os ydych yn cael trafferth dod i gytundeb, gallech geisio defnyddio cyfryngwr i helpu i ddatrys pethau.

Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol roi cyngor i chi os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill a all helpu.

Additional links

Penderfynu pwy sy’n cael beth

Cael gwybod sut y gall eich arian, eiddo ac eitemau personol gael eu rhannu pan ddaw eich cydberthynas i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU