Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn gwahanu oddi wrth eich partner neu'ch gŵr neu'ch gwraig, mae angen ystyried unrhyw ddyledion sydd gennych - yn unigol neu gyda'ch gilydd - fel rhan o gytundeb ariannol. Cael gwybod sut y gallwch sicrhau eich bod yn delio â'r holl ddyledion yn gywir.
Sicrhewch fod unrhyw gontractau yn cael eu darllen yn ofalus
Fel arfer, mae pob person yn gyfrifol am unrhyw fenthyciadau neu rwymedigaethau yn ei enw ef yn unig.
Fodd bynnag, hyd yn oed os yw'r ddyled neu'r rhwymedigaeth yn enw'ch partner, efallai y byddwch yn gyfrifol am dalu rhan neu'r cyfan o'r arian o hyd. Mae hyn yn dibynnu ar y contract neu gytundeb unigol.
Wrth benderfynu ar unrhyw gytundebau ariannol â'ch partner neu'ch gŵr neu'ch gwraig pan fyddwch yn gwahanu, sicrhewch fod unrhyw gontractau yn cael eu darllen yn ofalus. Efallai y bydd angen cyfreithiwr neu gyfrifydd arnoch i'ch helpu gyda hyn.
Rydych chi a'ch partner yn gyfrifol am ddyledion sydd gan y ddau ohonoch. Gallai hyn gynnwys cyfrifon banc, cardiau credyd neu gardiau siopau ar y cyd - unrhyw beth y mae enw'r ddau ohonoch ar y contract neu'r cytundeb.
Nid yw'n berthnasol os cafodd yr arian ei ddefnyddio i brynu rhywbeth ar gyfer un person yn arbennig. Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw ddyledion ar y cyd os nad yw eich partner yn talu.
Mae'n bwysig eich bod chi a'ch partner yn cytuno i ddelio ag unrhyw daliadau sy'n ddyledus ar ddyledion ar y cyd yn gyflym. Bydd hyn yn helpu i atal benthycwyr rhag cymryd camau yn eich erbyn.
Rhaid i chi ganslo neu 'rewi' unrhyw gardiau credyd, cardiau siopau neu gyfrifon banc ar y cyd ar unwaith pan fyddwch yn gwybod y byddwch yn ysgaru neu'n gwahanu. Pan fydd banc neu gwmni cardiau credyd yn 'rhewi' eich cyfrif, mae'n golygu na ellir gwario na chodi rhagor o arian. Yna gellir delio ag unrhyw arian mewn cyfrifon banc pan fydd y ddau barti'n gytûn.
Os oes gan eich partner neu'ch gŵr neu'ch gwraig fynediad at yr arian hwn, gall fynd i ddyled - yn fwriadol neu fel arall - a bydd yn rhaid i chi helpu i'w thalu. Siaradwch â'ch banc, cwmni cardiau credyd neu siop i helpu i ganslo neu rewi'r cyfrifon. Gall ofyn i chi wneud hyn drwy ysgrifennu llythyr ato. Bydd y benthyciwr yn gallu dweud wrthych y ffordd orau o ddelio ag unrhyw arian sy'n ddyledus gennych.
Os oes gennych broblem â dyled, dylech gael help cyn gynted â phosibl
Os oes gennych broblem â dyled, dylech gael help cyn gynted â phosib.
Er enghraifft, mae’n bosib na fyddwch yn gallu talu eich morgais na'ch dyledion cardiau credyd sydd wedi mynd y tu hwnt i reolaeth.
Siaradwch â'ch benthyciwr morgais, cwmni cerdyn credyd neu fenthyciwr arall ac eglurwch y sefyllfa. Efallai y gall eich helpu i aildrefnu'r amserlen taliadau.
Ceir hefyd nifer fawr o sefydliadau sy'n cynnig help a chyngor am ddim os ydych yn cael problemau gyda dyled.
Os ydych yn gwahanu neu'n ysgaru o'ch partner neu'ch gŵr neu'ch gwraig neu yn ysgaru â hwy, gallai fod yn syniad da defnyddio gwasanaeth cyfryngu. Bydd yn eich helpu i ddod i gytundeb ar faterion ariannol a fydd yn arbed amser ac arian i chi heb orfod mynd i'r llys.
Os hoffech, gallwch holi cyfreithiwr a yw unrhyw gytundeb a wnewch yn deg ac yn gyfrwymol yn gyfreithiol. Gall hyn helpu i atal mwy o wrthdaro yn y dyfodol.