Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan ddaw eich perthynas i ben, efallai y bydd angen i chi newid eich ewyllys. Mynnwch wybod sut mae newid yn eich perthynas yn effeithio ar eich ewyllys a beth sydd angen i chi ei ystyried pan fyddwch yn cael ysgariad neu'n gwahanu.
Nid effeithir ar eich ewyllys os byddwch yn gwahanu oddi wrth rywun roeddech yn byw gydag ef/hi ond nad oeddech yn briod nac mewn partneriaeth sifil. Os oes disgwyl i'ch partner etifeddu rhywbeth yn eich ewyllys pan fyddwch yn marw, bydd yn dal i wneud hynny.
Dylech ystyried newid eich ewyllys os nad ydych am i'ch cyn-bartner gael budd ohono mwyach.
Mae cael ysgariad neu ddod â phartneriaeth sifil i ben yn gwneud rhai newidiadau pwysig i'r hyn a fyddai'n digwydd gyda'ch ewyllys ar ôl i chi farw.
Os byddwch yn cael ysgariad neu'n diddymu eich partneriaeth sifil, fel arfer ni fydd eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig na'ch partner sifil yn etifeddu unrhyw beth
Yr effaith ar eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil
Pan fyddwch yn cael ysgariad neu'n dod â'ch partneriaeth sifil i ben, caiff eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil ei drin yn ôl y gyfraith fel ei fod ef/hi wedi marw cyn i chi wneud, at ddibenion etifeddiaeth.
Mae hyn yn golygu os byddwch yn cael ysgariad neu'n diddymu eich partneriaeth sifil, fel arfer ni fydd eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil yn etifeddu unrhyw beth yn eich ewyllys.
Er enghraifft, efallai eich bod wedi gwneud ewyllys yn gadael eich car i'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil. Os byddwch yn cael ysgariad neu'n diddymu eich partneriaeth sifil, ni fydd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn etifeddu'r car pan fyddwch yn marw.
Fodd bynnag, os yw eich ewyllys yn nodi'n benodol nad yw ysgariad na diddymiad yn effeithio ar y rhodd o gar, bydd yn etifeddu eich car pan fyddwch yn marw.
Efallai eich bod hefyd wedi penodi eich cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil i ddelio â'ch ystad pan fyddwch yn marw - sef bod yn 'ysgutor' i chi. Os byddwch yn cael ysgariad neu'n dod â'ch partneriaeth sifil i ben, ni all fod yn ysgutor i chi.
Yr effaith ar bobl eraill ar wahân i'ch cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner sifil
Os ydych wedi rhoi rhoddion i bobl eraill yn eich ewyllys, fel eich plant, yna byddant yn dal i etifeddu os byddwch yn cael ysgariad neu'n dod â'ch partneriaeth sifil i ben.
Fodd bynnag, efallai y byddwch am ystyried newid eich ewyllys i adlewyrchu eich sefyllfa deuluol newydd. Gweler yr adran isod 'Sut i newid ewyllys'.
Os na fyddwch yn newid eich ewyllys pan fyddwch yn cael ysgariad neu'n dod â'ch partneriaeth sifil i ben, gellid dosbarthu rhywfaint o'ch ystad yn unol â rheolau 'diewyllysedd'.
Mae'r rheolau hyn yn nodi pwy yn eich teulu sydd â hawl i etifeddu eich ystad a sut y caiff ei rhannu. Cewch fwy o wybodaeth am sut mae'r rheolau hyn yn gweithio drwy ddilyn y ddolen 'Beth i'w wneud os nad oes ewyllys' isod.
Os byddwch yn ailbriodi neu'n dechrau partneriaeth sifil newydd, yn y rhan fwyaf o achosion bydd eich hen ewyllys yn annilys.
Os ydych chi a'ch partner newydd wedi gwneud ewyllysiau cyn i chi briodi neu ddechrau partneriaeth sifil gyda'ch gilydd, mae eich priodas neu'ch partneriaeth sifil yn canslo eich ewyllysiau cyfredol.
Fodd bynnag, ceir eithriad i'r rheol hon.
Ni ddylai'r ewyllys gael ei diddymu gan eich priodas neu'ch partneriaeth sifil newydd, os bydd eich ewyllys newydd yn:
Fodd bynnag, efallai y byddwch am ystyried ysgrifennu ewyllys newydd o hyd.
Gall yr ewyllys newydd adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau neu gyfrifoldebau newydd sydd gennych o ganlyniad i'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil newydd.
Os bydd eich sefyllfa yn newid yn sylweddol, dylech ystyried newid eich ewyllys. Gallwch newid eich ewyllys drwy lunio ewyllys newydd neu 'godisil'. Diwygiad neu ychwanegiad i ewyllys gyfredol yw 'codisil'.
Gallwch wneud hyn heb gyngor cyfreithiol. Ond gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu a sicrhau bod eich ewyllys newydd yn gyfreithlon ac yn adlewyrchu eich dymuniadau.