Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i wneud cais am ysgariad

Os ydych am ysgaru â'ch gŵr neu'ch gwraig, bydd angen i chi wneud cais i'r llys ac egluro pam rydych am ysgaru. Gelwir y cais hwn yn 'ddeiseb ysgar'. Mynnwch wybod sut i gofnodi deiseb ysgar.

Dechrau ysgariad

Bydd angen i chi ddangos ar y ffurflen y rhesymau pam eich bod am gael ysgariad

I ddechrau ysgariad, bydd angen i chi neu'ch cynghorydd lenwi 'deiseb ysgar' - a elwir yn ffurflen D8.

Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen, y mae'n rhaid iddi gynnwys:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn
  • enw a chyfeiriad llawn eich gŵr neu'ch gwraig
  • enwau a dyddiadau geni unrhyw blant sydd gennych (waeth faint yw eu hoed)
  • eich tystysgrif priodas

Ni allwch ddefnyddio llungopi o'ch tystysgrif priodas - rhaid wrth y ddogfen wreiddiol neu gopi gan y swyddfa gofrestru. Cewch wybodaeth am sut i gael copïau o dystysgrifau priodas drwy ddilyn y ddolen isod.

Bydd angen i chi ddangos ar y ffurflen y rhesymau pam eich bod am gael ysgariad. Gelwir y rhain yn 'ffeithiau' ategol i ddangos 'rhesymau dros gael ysgariad’. Gallwch ddarllen mwy am y rhain drwy ddilyn y ddolen 'Deall y rhesymau dros gael ysgariad' isod.

Efallai y byddwch am gael ysgariad gan fod eich gŵr neu'ch gwraig wedi cael rhyw â rhywun o'r rhyw arall ('godineb').

Os felly, gallwch enwi'r unigolyn y mae wedi bod yn anffyddlon ag ef/hi ar y ffurflenni os ydych am wneud hynny. Bydd yn cael copïau o'r gwaith papur os byddwch yn dewis cynnwys yr enw.

Beth i'w wneud os oes gennych blant

Os yw'n bosibl, dylech gytuno ar y trefniadau ar gyfer y plant gyda'ch gŵr neu'ch gwraig cyn i chi gofnodi'r ddeiseb

Os oes gennych blant o dan 16 oed (neu o dan 18 oed ac yn yr ysgol, yn y coleg neu'n hyfforddi ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth), bydd angen i chi lenwi ffurflen D8A hefyd. Gelwir hwn yn 'ddatganiad o drefniadau ar gyfer y plant'.

Rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon gan gynnwys:

  • enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni, iechyd, addysg ac anghenion hyfforddi eich plant
  • trefniadau o ran gofal plant a p'un a fyddant yn newid os byddwch yn ysgaru
  • manylion y trefniadau cynhaliaeth rydych wedi'u gwneud neu'n bwriadu eu gwneud
  • manylion y trefniadau cysylltiad (neu'r 'mynediad') gyda'ch plant rydych wedi'u gwneud neu'n bwriadu eu gwneud.
  • unrhyw drefniadau presennol o ran y plant rydych wedi'u gwneud gyda gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion prawf neu orchmynion llys

Os yw'n bosibl, dylech gytuno ar y trefniadau ar gyfer y plant gyda'ch gŵr neu'ch gwraig cyn i chi gofnodi'r ddeiseb.

Costau i gofnodi deiseb ysgar

Bydd angen i chi dalu ffi i ddechrau ysgariad.

£340 yw'r ffi ar hyn o bryd. Ond os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu'n cael incwm isel, efallai y gallwch gael gostyngiad.

Anfon eich ffurflen i'r llys

Bydd angen i chi lenwi tri chopi o'r ddeiseb ysgar (ffurflen D8).

Os oes gennych blant, bydd angen i chi lenwi tri chopi o'r datganiadau o'r trefniadau i'r plant (ffurflen D8A) hefyd.

Rhaid i chi neu'ch cynghorydd anfon y ffurflenni i lys a fydd yn delio â'r ysgariad. Cofiwch nad yw pob llys yn delio ag ysgariad.

Beth fydd yn digwydd pan gaiff y llys eich ffurflenni?

Os ydych yn cael ysgariad oherwydd godineb ac wedi enwi'r unigolyn arall yn eich ffurflenni, bydd yn cael y gwaith papur gan y llys

Pan gaiff y llys eich deiseb ysgar, bydd yn anfon copi at eich gŵr neu'ch gwraig.

Bydd hefyd yn cael 'hysbysiad gweithrediadau' (ffurflen D8) a 'chydnabyddiaeth o gyflwyno' (ffurflen D10). Mae gan yr unigolyn wyth diwrnod i lenwi ffurflen D10 a'i dychwelyd.

Os ydych yn cael ysgariad oherwydd godineb ac wedi enwi'r unigolyn arall yn eich ffurflenni, bydd yn cael y gwaith papur gan y llys. Bydd y llys yn anfon copi o'r ddeiseb ysgar a ffurflen D10 at yr unigolyn.

Bydd y llys hefyd yn anfon 'hysbysiad cofnodi deiseb' (ffurflen D9H) atoch, yn dweud wrthych pryd yr anfonwyd y ffurflenni at eich gŵr neu'ch gwraig.

Gall eich gŵr neu'ch gwraig gytuno â'r ysgariad neu ddadlau yn ei erbyn ('amddiffyn'). Bydd yn dangos hyn wrth lenwi ffurflen D10.

Os nad yw eich gŵr neu'ch gwraig am amddiffyn yr ysgariad

Os bydd eich gŵr neu'ch gwraig yn dangos ar y ffurflen D10 nad yw'n amddiffyn yr ysgariad, gallwch symud i'r cam nesaf, sef gofyn i'r llys gyflwyno 'archddyfarniad cyntaf'. Dyma ddogfen sy'n nodi nad oes gan y llys reswm pam na allwch ysgaru.

I gael gwybod sut i ofyn am un, gweler 'Cael archddyfarniad cyntaf'.

Os hoffai eich gŵr neu'ch gwraig amddiffyn yr ysgariad

Efallai y bydd eich gŵr neu'ch gwraig am amddiffyn yr ysgariad am nifer o resymau. Gallai'r rhain gynnwys peidio â chytuno bod y briodas wedi torri i lawr yn anadferadwy. Neu efallai na fydd yn cytuno ag unrhyw honiadau rydych wedi'u gwneud yn eu herbyn. Gall wneud hyn ar y ddeiseb, a elwir yn 'ateb'.

Os yw am gyflwyno ei ysgariad/hysgariad ei hun yn eich erbyn, gall wneud hyn drwy gwblhau ei ddeiseb/deiseb ei hun a elwir yn 'wrth-ddeiseb'.

Os ydych yn cael ysgariad oherwydd godineb ac wedi enwi'r unigolyn arall, gall hefyd amddiffyn yr ysgariad.

Os yw eich gŵr neu'ch gwraig am amddiffyn yr ysgariad, mae'n syniad da iawn cael cyngor proffesiynol os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod.

Gall amddiffyn ysgariad fod yn anodd iawn. Gall:

  • gymryd llawer o amser
  • peri gofid mawr
  • arwain at filiau cyfreithiol mawr

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU