Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ysgariad a chymorth cyfreithiol

Os na allwch fforddio cael help cyfreithiol gyda'ch ysgariad, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol. Gall cymorth cyfreithiol dalu am gostau cyfryngwyr a chynghorwyr cyfreithiol. I gael cymorth cyfreithiol, bydd angen i chi fodloni gofynion cymhwysedd. Mynnwch wybod sut y gallai cymorth cyfreithiol helpu os ydych yn cael ysgariad.

Beth yw cymorth cyfreithiol a phwy all ei gael

Os ydych yn cael cymorth cyfreithiol, nid ydych yn cael yr arian i dalu'r biliau - telir eich cynghorydd yn uniongyrchol

Cynllun sy'n helpu pobl i dalu am gyngor cyfreithiol yw cymorth cyfreithiol.

Efallai y cewch gymorth cyfreithiol ar gyfer eich ysgariad os byddwch yn bodloni gofynion cymhwysedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • faint o arian (incwm, cynilion) sydd gennych
  • beth mae eich problem neu'ch anghydfod yn ymwneud ag ef
  • faint o gymorth cyfreithiol sydd ei angen arnoch
  • os oes gennych siawns resymol o ennill eich achos

Gallwch fel arfer gael cymorth cyfreithiol (waeth beth yw eich amgylchiadau):

  • os oes angen help arnoch i ddelio â thrais yn y cartref
  • os yw eich plentyn mewn perygl o orfod symud i mewn i ofal

Os ydych yn cael cymorth cyfreithiol, nid ydych yn cael yr arian i dalu'r biliau - telir eich cynghorydd yn uniongyrchol.

Gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol ar-lein i weithio allan a ydych yn debygol o gael cymorth cyfreithiol.

Defnyddio cymorth cyfreithiol ar gyfer eich ysgariad

Os cewch gymorth cyfreithiol i dalu am gyfryngwr, ni fydd rhaid i chi ei ad-dalu

Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gellir ei ddefnyddio i dalu am gyfryngwr neu gyfreithiwr i'ch helpu drwy eich ysgariad.

Cyfryngwyr a chymorth cyfreithiol ar gyfer ysgariad

Pobl annibynnol a all eich helpu chi a'ch priod i ddod i gytundeb ynghylch sut rydych yn rhannu pethau ac yn gofalu am eich plant yw cyfryngwyr.

Gall defnyddio cyfryngwr arbed amser ac arian i chi, oherwydd gall eich helpu i osgoi mynd i'r llys. Rhaid i chi ystyried defnyddio gwasanaeth cyfryngu os ydych yn gwneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer gwrandawiadau mewn llys ynghylch plant neu arian (neu'r ddau). Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fyddwch yn cael cymorth cyfreithiol.

Os cewch gymorth cyfreithiol i dalu am gyfryngwr, ni fydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Cyngor cyfreithiol a chymorth cyfreithiol ar gyfer ysgariad

Os ydych yn gymwys, gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu am gyfreithiwr i ddelio â'ch ysgariad. Er enghraifft, efallai y bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhywun i roi cyngor cyfreithiol cychwynnol i chi ar eich opsiynau
  • help i negodi â'ch partner
  • help i gwblhau'r ffurflenni cywir
  • cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i siarad ar eich rhan mewn llys

Cael cyngor cyfreithiol

Os ydych o'r farn eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch gael help gan Gyngor Cyfreithiol Cymunedol drwy ffonio 0845 345 4 345. Mae galwadau'n costio 4 ceiniog y funud. Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gall eich ffonio'n ôl.

Ad-dalu cymorth cyfreithiol

Os byddwch yn cael cymorth cyfreithiol i dalu am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, efallai y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Os byddwch yn cael arian yn sgîl setliad ysgariad, bydd yn mynd tuag at dalu eich cymorth cyfreithiol. Os bydd yr arian a gewch yn talu bil cyfan y cyfreithiwr, byddwch yn cadw'r hyn sy'n weddill. Os na fydd yr arian a gewch yn talu bil cyfan y cyfreithiwr, bydd rhaid i chi ad-dalu'r swm sy'n weddill o hyd.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu am eich cymorth cyfreithiol hefyd os byddwch yn cael eiddo yn eich setliad ysgariad. Er enghraifft, os byddwch yn cael cyfran eich partner o'r tŷ rydych yn byw ynddo. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gallwch naill ai ad-dalu eich cymorth cyfreithiol i gyd ar unwaith neu mewn rhandaliadau.

Gelwir ad-dalu cymorth cyfreithiol yn 'dâl statudol'.

I gael gwybod mwy, lawrlwythwch 'Talu am Eich Cymorth Cyfreithiol' gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU