Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dim ond os yw eich priodas wedi 'torri i lawr yn anadferadwy' y gallwch gael ysgariad. Bydd angen i chi brofi hyn i'r llys drwy roi'r rhesymau pam fod eich priodas wedi dod i ben. Gelwir y rhain yn 'ffeithiau' ar gyfer cael ysgariad. Mynnwch wybod pa resymau y gallwch eu rhoi dros ddod â'ch priodas i ben.
I wneud cais am ysgariad, bydd angen i chi a'ch gŵr neu'ch gwraig:
Bydd llys ysgar sirol (neu'r Uchel Lys weithiau) yn penderfynu a allwch gael ysgariad ai peidio.
Pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad, rhaid i chi ddangos bod rhesymau da (a elwir yn 'ffeithiau' ategol i ddangos y 'rhesymau') dros ddod â'ch priodas i ben.
Os mai chi yw'r unigolyn sy'n dechrau'r broses ysgaru (a elwir yn 'ddeisebydd'), rhaid i chi benderfynu pa 'ffeithiau' sy'n gymwys i chi ac rydych am eu defnyddio.
Bydd yr ysgariad yn gyflymach ac yn rhatach os byddwch yn cytuno ar y 'ffeithiau' rydych am eu defnyddio.
Os na fydd yn cytuno â'ch 'ffeithiau', gall eich gŵr neu'ch gwraig amddiffyn yr ysgariad. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd rhaid i'r ddau ohonoch fynd i wrandawiad mewn llys i drafod y rhesymau dros yr ysgariad a setlo unrhyw anghytundebau.
Mae pum math o 'ffeithiau' y gallwch eu defnyddio mewn gweithrediadau ysgariad.
1. Godineb
Gallwch ddefnyddio godineb fel rheswm dros ysgariad os bydd pob un o'r canlynol yn gymwys:
Nid oes unrhyw weithred rywiol y cewch eich gorfodi i'w gwneud, p'un a ydych yn ddyn neu'n ferch, yn odineb gan nad oeddech yn fodlon. Felly nid yw trais rhywiol yn odineb. Gweithred rywiol gyda rhywun arall o'ch dewis yw godineb.
I brofi godineb, bydd angen i chi roi'r canlynol i'r llys:
Os na fydd eich gŵr neu'ch gwraig yn cyfaddef iddynt odinebu, efallai y bydd angen i chi siarad â chyfreithiwr ynghylch beth i'w wneud nesaf.
2. Ymddygiad afresymol
Os bydd ymddygiad eich gŵr neu'ch gwraig yn ymddwyn mor wael nes ei bod yn amhosibl i chi barhau i fyw gyda'ch gilydd, gallwch ddefnyddio 'ymddygiad afresymol' fel rheswm dros ysgariad.
Gall ymddygiad eich gŵr neu'ch gwraig fod yn afresymol os yw'n:
Bydd angen i chi roi prawf o ymddygiad afresymol. Os na fydd eich gŵr neu'ch gwraig yn cyfaddef hyn, efallai y bydd angen i chi baratoi tystiolaeth fanwl, fel datganiadau gan ffrindiau neu feddygon.
Os oes trais yn y cartref wedi bod yn eich perthynas, gallwch gael gwybod sut i gael help drwy ddilyn y ddolen isod.
3. Gadael
Gallwch ddefnyddio 'gadael' fel rheswm dros ysgariad os gallwch brofi bod eich gŵr neu'ch gwraig wedi eich gadael:
Gallwch fod wedi byw gyda'ch gilydd am hyd at gyfanswm o chwe mis o fewn y cyfnod hwn a hawlio 'gadael' fel rheswm o hyd.
4. Byw ar wahân am fwy na dwy flynedd gyda'r ddwy ochr yn cytuno
Gallwch gael ysgariad os ydych chi a'ch gŵr neu'ch gwraig wedi byw ar wahân am fwy na dwy flynedd a bod y ddau ohonoch yn cytuno i ysgaru.
Gallwch fod wedi byw gyda'ch gilydd am hyd at gyfanswm o chwe mis yn ystod y cyfnod hwn os ydych wedi bod ar wahân am gyfanswm o ddwy flynedd.
Rhaid i'ch gŵr neu'ch gwraig gytuno'n ysgrifenedig, felly sicrhewch eich bod yn ei drafod â hwy cyn gwneud cais am ysgariad.
5. Byw ar wahân am fwy na phum mlynedd
Os ydych chi a'ch gŵr neu'ch gwraig wedi byw ar wahân am fwy na phum mlynedd, gallwch ddefnyddio hwn fel rheswm dros gael ysgariad. Os yw hyn wedi digwydd, gallwch wneud cais am ysgariad heb gytundeb eich gŵr neu'ch gwraig.
Bydd hyn yn ddigon i gael ysgariad fel arfer. Ond gall eich gŵr neu'ch gwraig wrthwynebu os bydd yn achosi anawsterau 'eithafol' iddynt - rhai ariannol fel arfer.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa ffaith ategol i'w defnyddio, gallwch ddechrau'r broses ysgaru. Rydych yn gwneud hyn drwy gofnodi 'deiseb ysgar' â llys ysgar. Mynnwch wybod beth i'w wneud nesaf drwy ddilyn y ddolen isod.