Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn gwahanu, byddwch am sicrhau eich bod yn amddiffyn plant rhag cael eu gofidio a'u cynhyrfu gan y newidiadau a fydd yn digwydd. Mynnwch wybod y ffordd orau o godi'r pwnc gyda nhw, a deall y trefniadau y bydd angen i chi eu gwneud â'ch cyn-bartner.
Gall dweud wrth eich plant eich bod yn gwahanu fod yn anodd. Mae syniad da paratoi beth rydych am ei ddweud ac ystyried sut y byddwch yn ymdopi â'u hymateb. Gallwch gael cyngor ar-lein i'ch helpu.
Mae bob amser yn well os gallwch wneud trefniadau i'ch plant rhyngoch chi, heb fynd i'r llys. Ffordd dda o wneud hyn yw creu Cynllun Rhianta.
Bydd Cynllun Rhianta yn eich helpu i gytuno ar drefniadau bob dydd fel:
Gallwch lawrlwytho canllaw cam-wrth-gam i greu Cynllun Rhianta.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn llwyddo i ddod i gytundeb ymysg ei gilydd. Ond os na allwch gytuno ar rai o'r trefniadau â'ch cyn-bartner, gallwch ddefnyddio cyfryngwr teuluol - person annibynnol sydd wedi'i hyfforddi i helpu.
Gall mynd i'r llys i derfynu trefniadau o ran plant roi pwysau mawr ar bawb - gan gynnwys y plant.
Bydd y llys yn rhoi anghenion y plentyn neu'r plant yn gyntaf bob tro. Ond cofiwch, os na allwch ddod i gytundeb yn y llys, y barnwr, ac nid eich cyn-bartner, a gaiff y gair olaf.
Felly dylech geisio datrys pethau heb fynd i'r llys os yw hynny'n bosibl.