Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae angen llawer o gefnogaeth ar blentyn i'w atal rhag teimlo'n ofidus neu'n bryderus pan fydd ei deulu wedi gwahanu. Gall bod mewn cysylltiad â neiniau a theidiau helpu. Mynnwch wybod sut y gallwch drefnu i weld wyrion ac wyresau os yw eu teulu wedi gwahanu.
Y ffordd orau i chi gadw mewn cysylltiad ag ŵyr neu wyres lle mae'r rhieni wedi gwahanu yw drwy wneud trefniadau anffurfiol.
Mae'n syniad da ceisio siarad wyneb yn wyneb â'r rhieni neu gysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy lythyr yn gyntaf.
Gall fod o fudd i chi egluro i'r rhieni, fel nain neu daid, mai'r cyfan rydych am ei wneud yw cadw mewn cysylltiad â'ch ŵyr neu'ch wyres. Os yw'n bosibl, gallech ddweud wrthynt nad ydych am gymryd ochr, dim ond rhoi cefnogaeth i'r plentyn.
Gallwch awgrymu ffyrdd y gallech weld eich ŵyr neu wyres er bod y rhieni yn byw ar wahân bellach.
Cofiwch efallai bod y rhieni wedi cytuno, neu wrthi'n trafod, trefniadau cyswllt â'u plant.
Gallwch ofyn os gellir ychwanegu treulio amser â'ch wyrion ac wyresau at y cytundeb.
Os yw'r rhieni yn gwrthdaro neu nad ydynt yn caniatáu i chi gael cysylltiad, gallech awgrymu i chi fynd i sesiynau cyfryngu â nhw.
Mae cyfryngwr yn unigolyn annibynnol a all eich helpu i ddod i gytundeb. Fel nain neu daid, bydd angen i chi gael y ddau riant i gytuno, neu roi cynnig ar gyfryngu.
Os nad oedd trefniadau anffurfiol neu gyfryngu'n llwyddiannus, gallwch ystyried gwneud cais i lys.
Dylai mynd i'r llys fod yn ddewis olaf. Mae'n broses hir ac mae'n ddrud. Gall hefyd beri gofid i'r plentyn. Dylech roi cynnig ar bob opsiwn arall yn gyntaf.
Er y bydd llys yn cydnabod pa mor bwysig yw nain neu daid i blentyn, nid oes gennych hawl awtomatig i wneud cais i gysylltu ag wyrion neu wyresau. Bydd angen i chi ofyn i'r llys am ganiatâd yn gyntaf.
I wneud hyn, rhaid i chi gwblhau ffurflen C2 a'i dychwelyd i lys sy'n delio â materion teuluol. Gallwch wneud hyn eich hun, ond efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol.
I ddod o hyd i lys sy'n delio â materion teuluol, dilynwch y ddolen isod a dewiswch 'Gwaith teuluol' yn yr adran 'Chwiliad Math o Waith Llys'.
Wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd i chi weld eich ŵyr neu'ch wyres bydd y llys yn ystyried:
Cewch wybodaeth am sut mae'r llysoedd yn gweithio o ran cyswllt â phlant drwy ddilyn y ddolen isod.