Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'n well i blant barhau â'u cydberthnasau â rhieni a pherthnasau eraill a'u datblygu ar ôl i berthynas ddod i ben. Mynnwch wybod beth fydd angen i chi ei ystyried er mwyn dod i gytundeb sy'n dda i chi a'ch plant.
'Cyswllt' yw'r amser y mae plentyn yn ei dreulio gyda rhiant sydd ddim yn byw gyda nhw yn llawn amser neu'r ffordd y mae'n cadw mewn cysylltiad â nhw. Arferai hyn gael ei alw'n 'mynediad'.
Mae tri math o gyswllt - cyswllt uniongyrchol, cyswllt anuniongyrchol a chyswllt dan oruchwyliaeth.
Cyswllt uniongyrchol
Dyma'r amser y mae eich plentyn yn ei dreulio gyda'r rhiant sydd ddim yn byw gyda nhw. Gall gynnwys ymweliadau, diwrnodau allan neu aros dros nos gyda nhw, gan gynnwys yn ystod gwyliau.
Cyswllt anuniongyrchol
Mae hyn yn cynnwys cadw mewn cysylltiad drwy alwadau ffôn, negeseuon testun, llythyrau neu e-bost.
Cyswllt dan oruchwyliaeth
Hwn yw pan fydd eich plentyn yn gweld y rhiant sydd ddim yn byw gyda nhw pan fo oedolyn arall yn bresennol hefyd. Gallai'r person arall fod yn berthynas neu'n ffrind.
Nid oes rheolau pendant am faint o amser y dylai plentyn ei dreulio gyda phob rhiant pan fydd teuluoedd yn gwahanu. Ond mae gan blant hawl i gadw mewn cysylltiad â'u rhieni.
Gallai amser cyswllt sy'n 'rhesymol' olygu bod eich plentyn yn:
Dylech hefyd feddwl am beth fydd yn digwydd ar ddyddiadau pwysig fel penblwyddi a gwyliau crefyddol, a phwy fydd yn nôl eich plentyn ar ôl ysgol.
Dylech weithio allan beth bynnag y byddwch yn cytuno arno fel bod y plentyn yn teimlo'n gyfforddus a bod trefniadau'n gweddu i'w ysgol a'i weithgareddau cymdeithasol.
Mae'n bwysig eich bod chi a'ch cyn-bartner yn canolbwyntio ar beth fydd orau i'ch plant. Mae'n syniad da iawn llunio amserlen rhyngoch a chytuno arni. Unwaith y byddwch wedi'i gweithio allan, gallwch gadw calendr, fel y gall pawb - gan gynnwys eich plant - weld beth fydd yn digwydd a phryd.
Os ydych yn cael trafferth siarad â'ch cyn-bartner neu na allwch gytuno ar drefniadau cyswllt, gallech gael help gan gyfryngwr teuluol.
Os na allwch ddod i gytundeb o gwbl â'ch cyn-bartner, gallwch ystyried cael y llys i benderfynu. Dylai hyn fod yn ddewis olaf, oherwydd gall mynd i'r llys er mwyn penderfynu ar gyswllt â phlant gael effaith negyddol ar y plentyn.