Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os ydych yn poeni y caiff eich plentyn ei gymryd dramor heb ganiatâd

Pan fydd pobl yn gwahanu, maent fel arfer yn penderfynu lle a phryd y gall plant gael eu cymryd dramor. Os nad ydych wedi cytuno ar hyn ac nad ydych yn fodlon ar gynlluniau'r rhiant arall, gallwch ystyried cymryd camau cyfreithiol i'w atal. Mynnwch wybod pryd y dylech gymryd camau i atal plant rhag cael eu cymryd dramor.

Pryd y gall plant fynd dramor gyda'r rhiant arall

Fel arfer, byddwch wedi cytuno â'r rhiant arall pryd y gall fynd â phlant dramor ac am ba mor hir. Weithiau, bydd hwn yn gytundeb anffurfiol a wnaed rhyngoch.

Os ydych yn anghytuno ar daith benodol, dylech geisio datrys y broblem â rhiant arall y plentyn os yw'n bosibl.

Gorchmynion preswyliaeth a mynd â phlant dramor

Os oes gennych 'gorchymyn preswyliaeth' gan y llys, mae'r gyfraith yn dweud y gallwch fynd â'r plentyn allan o'r DU am hyd at fis heb ganiatâd y ddau riant.

Os nad oes gan y rhiant arall orchymyn preswyliaeth, ni all fynd â'r plant y tu allan i'r DU oni bai eich bod chi a phawb arall sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno.

Os oes gennych orchymyn llys am ba un a all y plentyn deithio eisoes, gallwch atgoffa eich partner o'r amodau a cheisio dod i gytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb â'r rhiant arall

Os na allwch ddod i gytundeb, neu eich bod yn poeni y caiff ei plentyn ei gymryd dramor am hirach na'r hyn a ganiatawyd gan y llys, gallwch ystyried cymryd camau.

Dylech ystyried gwneud y canlynol:

  • mynd i'ch gorsaf heddlu leol a gwneud datganiad (bydd yr heddlu'n rhoi gwybod i feysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau os ydych yn credu bod y plentyn am gael ei gymryd allan o'r wlad)
  • ysgrifennu i swyddfa leol y gwasanaeth pasbort gan ofyn iddi beidio â chyflwyno pasbort i'ch plentyn - ond bydd angen gorchymyn llys arnoch i wneud hyn
  • os yw'r rhiant arall o wlad arall cysylltwch â'i lysgenhadaeth a gofynnwch iddi beidio â chyflwyno pasbort i'ch plentyn

Gorchmynion llys os ydych am atal plentyn rhag teithio dramor

Gallwch wneud cais i lys am un neu fwy o'r canlynol:

  • 'gorchymyn camau gwaharddedig' sy'n delio â theithio (sy'n golygu na all y rhiant arall fynd â'r plentyn i unrhyw le heb eich caniatâd)
  • 'gorchymyn preswyliaeth' (sy'n dweud y dylai eich plentyn fyw gyda chi)
  • 'gorchymyn cyfrifoldeb rhiant' (sy'n rhoi hawliau a dyletswydd rhiant i chi os nad oes gennych gyfrifoldeb rhiant eisoes)
  • 'gwaharddeb' sy'n atal y rhiant arall rhag mynd â'ch plentyn dramor
  • y plentyn yn cael ei wneud yn 'ward yr Uchel Lys' (sy'n golygu bod mynd â'ch plentyn allan o'r DU heb ganiatâd y llys yn anghyfreithlon)

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth y rhiant arall eich bod wedi gwneud cais am orchymyn llys. Gall y llys ddweud wrth y rhiant arall eich bod wedi gwneud cais.

Mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol os ydych am wneud cais am orchymyn llys neu waharddeb o dan yr amgylchiadau hyn.

Gwybodaeth sydd angen i chi ei rhoi os caiff eich plentyn ei gymryd dramor

Os ydych yn poeni y caiff eich plentyn ei gymryd dramor, neu ei fod eisoes wedi'i gymryd dramor, dylech gadw gwybodaeth allweddol wrth law. Drwy wneud hyn, gallwch ddatrys y broblem yn gyflymach.

Gwybodaeth am eich plentyn

Dylech gadw cymaint o wybodaeth â phosibl am eich plentyn wrth law, gan gynnwys:

  • enw llawn
  • dyddiad a man geni
  • rhif pasbort, dyddiad a lle y cafodd ei roi
  • ffotograffau a disgrifiad corfforol
  • manylion am unrhyw hawliau sydd ganddo i gael pasbort tramor a manylion y pasbort hwnnw os yw wedi cael ei roi

Gwybodaeth am y person a all fynd â'ch plentyn dramor neu sydd wedi gwneud hynny

Bydd gwybodaeth am y person a all fynd â'r plentyn dramor neu sydd wedi gwneud hynny hefyd yn bwysig. Dylech gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys:

  • enw llawn (gan gynnwys unrhyw enw blaenorol, enw cyn priodi neu enw arall)
  • dyddiad a man geni
  • rhif pasbort, y dyddiad a'r lle y cafodd pasbort Prydeinig neu basbort tramor ei roi
  • ffotograffau a disgrifiad corfforol
  • beth mae'n ei wneud fel bywoliaeth
  • dyddiad gadael tebygol
  • gwybodaeth am adael (er enghraifft - ehediad, trên, fferi)
  • manylion am gysylltiadau â gwlad dramor, fel enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn perthnasau, ffrindiau a chysylltiadau busnes

Copïau o ddogfennau y bydd eu hangen arnoch

Os oes gennych ddogfennau am eich plentyn, gallant fod yn ddefnyddiol iawn. Dylech geisio gwneud yn siŵr bod gennych y canlynol wrth law:

  • unrhyw gytundebau neu orchmynion llys am eich plentyn
  • tystysgrif geni eich plentyn
  • eich tystysgrif priodi neu ddyfarniad ysgaru (os yw'n berthnasol)

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU