Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Talu TAW os byddwch yn allforio cerbyd personol

Pan fyddwch yn allforio cerbyd modur o’r DU, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu TAW pan fyddwch yn ei brynu neu’n ei allforio. Weithiau, ni fydd rhaid i chi dalu TAW o gwbl, neu efallai dim ond pan fyddwch yn cyrraedd y wlad yr ydych yn allforio'r cerbyd iddi.

Allforio eich cerbyd o’r DU i wlad arall yn yr UE

Os byddwch yn prynu cerbyd modur newydd yn y DU i’w allforio i rywle arall yn yr UE (Undeb Ewropeaidd), bydd rhaid i chi dalu TAW ar y cerbyd yn y wlad arall pan fyddwch yn cyrraedd yno.

Ni fydd rhaid i chi dalu TAW y DU pan fyddwch yn prynu’r car os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • dweud wrth y cyflenwr y byddwch yn mynd â’r cerbyd i wlad arall yn yr UE
  • llenwi ffurflen VAT 411 – bydd y cyflenwr yn rhoi’r ffurflen hon i chi

Ac rydych chi’n cytuno i wneud pob un o’r tri pheth canlynol:

  • sicrhau bod y cerbyd newydd yn cael ei drosglwyddo’n bersonol i chi neu’ch gyrrwr awdurdodedig yn y DU
  • sicrhau eich bod yn ei allforio cyn pen dau fis ar ôl ei gael
  • sicrhau eich bod chi a’ch cyflenwr yn anfon ffurflen VAT 411 i Gyllid a Thollau EM

Allforio cerbydau y tu allan i’r UE – y Cynllun Allforio Personol

Cynllun ar gyfer ymwelwyr â'r DU o'r tu allan i'r UE yw’r Cynllun Allforio Personol, ac ar gyfer preswylwyr o'r UE sy'n bwriadu gadael yr UE ac aros y tu allan i'r UE am o leiaf chwe mis. Dan y cynllun, pan fyddwch yn prynu cerbyd modur yn y DU ac yn mynd i’w allforio, ni fydd rhaid i chi dalu TAW.

Pan fyddwch yn prynu cerbyd dan y cynllun, bydd y cyflenwr yn rhoi ffurflen VAT 410 i chi.

Rhaid i chi wneud y canlynol:

1. darllen Hysbysiad 705
2. llenwi ffurflen VAT 410
3. ei llofnodi i ddweud eich bod wedi darllen Hysbysiad 705
4. ei rhoi yn ôl i’r cyflenwr

Os yw’n gar newydd, bydd llyfr cofrestru pinc – VX 302 – yn cael ei roi i’ch cerbyd, sy’n golygu bod y car wedi’i brynu’n ddi-dreth. Cewch ddisg treth arbennig ar gyfer ceir hen a newydd.

Os ydych chi'n dod o’r tu allan i’r UE, cewch ddefnyddio'r cerbyd yn y DU yn ystod 12 mis olaf eich cyfnod yn yr UE. Os ydych chi’n breswyliwr o’r UE sy’n ymfudo, dim ond yn ystod y chwe mis olaf cyn i chi ymfudo y cewch ddefnyddio’r cerbyd.

Os na allwch allforio’r cerbyd oherwydd ei fod wedi cael ei ddwyn neu wedi bod mewn damwain ac wedi cael ei bennu'n anadferadwy, bydd rhaid i chi dalu'r TAW. Os na fyddwch yn allforio’r cerbyd erbyn y dyddiad penodol, bydd rhaid i chi dalu’r TAW – ac mae’n bosib y bydd y cerbyd yn cael ei gymryd oddi arnoch.

Pan fyddwch yn allforio’r cerbyd, dylech roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gallwch wneud hyn drwy lenwi a dychwelyd yr adran rhwygo-i-ffwrdd ar y ddogfen gofrestru binc VX 302 os yw’r cerbyd yn newydd, a thrwy lenwi a dychwelyd yr adran berthnasol yn y ddogfen gofrestru V5 os yw’r cerbyd yn ail-law. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflenni.

Ail-fewnforio cerbyd sydd wedi cael ei allforio o’r blaen

Does dim rhaid i chi dalu TAW na thollau os byddwch yn ail-fewnforio cerbyd dros dro, neu os byddwch yn ail-fewnforio cerbyd yn barhaol a'ch bod yn bodloni'r amodau canlynol i gyd:

  • rydych chi’n symud eich cartref arferol i’r UE
  • mae eich cartref arferol wedi bod y tu allan i’r UE am gyfnod di-dor o 12 mis o leiaf
  • rydych chi wedi bod yn berchen ar y cerbyd ac wedi'i ddefnyddio am o leiaf chwe mis y tu allan i'r UE cyn iddo gael ei fewnforio
  • ni chawsoch y cerbyd dan gynllun di-dreth/di-doll
  • byddwch yn cadw’r cerbyd at eich defnydd personol eich hun am o leiaf 12 mis ar ôl ei fewnforio

Fel arall, os byddwch yn ail-fewnforio’r cerbyd o leiaf chwe mis ar ôl iddo gael ei allforio, neu os gallwch ddangos eich bod chi a’r cerbyd wedi bod y tu allan i'r UE am o leiaf chwe mis yn olynol, bydd y TAW sy'n daladwy yn seiliedig ar werth y cerbyd pan gaiff ei ail-fewnforio. Ym mhob achos arall, byddwch yn gorfod talu’r TAW na chafodd ei thalu wrth i chi brynu’r cerbyd.

Neu, gallwch gael Gostyngiad Nwyddau a Ddychwelir i gael gostyngiad TAW neu dollau, os ydych chi’n mewnforio cerbyd a gafodd ei allforio o’r UE o’r blaen, cyn belled â'ch bod yn bodloni’r amodau canlynol i gyd:

  • aethoch â’r cerbyd i rywle y tu allan i’r UE rhywbryd yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • talwyd unrhyw TAW, tollau neu dreth gyfatebol ar y cerbyd yn yr UE, ac ni ad-dalwyd y dreth pan aed â'r cerbyd y tu allan i'r UE
  • nid yw’r cerbyd wedi cael ei addasu y tu allan i'r UE ar wahân i atgyweiriadau angenrheidiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU