Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ad-daliadau TAW ar gartrefi newydd hunan-adeiladu neu addasiadau dibreswyl

Os ydych chi’n codi tŷ newydd neu’n troi adeilad yn rhywle i fyw, mae’n bosib y bydd modd i chi adhawlio'r TAW rydych wedi ei thalu ar rai o’r deunyddiau adeiladu a’r gwasanaethau y byddwch yn eu defnyddio wrth droi adeilad yn gartref. Mae hyn yn berthnasol p’un ai chi ynteu rywun arall sy’n gwneud y gwaith.

Prosiectau y mae'r cynllun ad-dalu TAW yn berthnasol iddynt

Pan fyddwch yn gosod cyllideb ar gyfer eich prosiect, dylech ddarllen yr erthygl hon yn ofalus. Mae’n bosib na fydd eich prosiect yn gymwys o gwbl, neu efallai na fyddwch yn gallu hawlio TAW yn ôl ar bopeth. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, efallai y bydd rhai nwyddau neu wasanaethau gan adeiladwyr eisoes ar gyfradd sero (dim TAW i dalu arnynt), neu ar gyfradd ostyngol o 5 y cant, felly mae’n bosib na fyddwch yn gweld yr arbedion yr oeddech yn eu disgwyl.

Adeiladu cartref newydd

Mae’r cynllun ad-dalu hwn yn berthnasol wrth adeiladu cartref newydd – rhywle lle mae rhywun yn bwriadu byw. Mae hefyd yn berthnasol wrth droi adeilad dibreswyl yn annedd. Rhaid i’r gwaith gael ei wneud yn y DU – sy’n cynnwys Ynys Manaw, ond nid Ynysoedd y Sianel. Ni ddylid bwriadu defnyddio'r adeilad at ddibenion busnes.

Ceir diffiniadau llym ar gyfer beth a olygir wrth ‘adeiladu annedd newydd’. Yn benodol, rhaid iddo fod yn llety annibynnol – ni fyddai 'estyniad pwrpasol' (granny annex) yn gymwys i gael rhyddhad.

Gorffen gwaith ar yr adeilad

Gallwch chi wneud hawliad os byddwch yn ychwanegu at adeilad newydd sydd wedi’i gwblhau’n rhannol, neu'n ei orffen. Er enghraifft, efallai eich bod yn prynu cragen o adeilad gan ddatblygwr ac yn rhoi ffitiadau eich hun, neu’n cael adeiladwr i roi ffitiadau ynddo ar eich rhan.

Fodd bynnag, ni chewch hawlio am unrhyw waith ychwanegol y byddwch yn ei wneud i adeilad sydd wedi’i gwblhau rydych chi wedi ei brynu gan adeiladwr neu ddatblygwr – megis ychwanegu ystafell haul, patio, ffenestri dwbl, teilio neu garej.

Troi adeilad yn gartref

Pan fyddwch yn troi adeilad yn gartref, rhaid i'r adeilad gwreiddiol fod yn ddibreswyl. Mae hynny’n golygu adeilad lle does neb erioed wedi byw ynddo, neu adeilad lle does neb wedi byw ynddo yn ystod y deg mlynedd diwethaf – ddim hyd yn oed ar sail achlysurol fel ail gartref. Fodd bynnag, os bu sgwatwyr yn byw yn yr adeilad yn anghyfreithlon, ni fydd hynny’n cyfrif, ac fe gewch fyw yn yr eiddo wrth i'r gwaith gael ei wneud, cyn belled â'ch bod yn symud i mewn ar ôl i'r gwaith ddechrau.

Ceir diffiniadau llym ar gyfer beth sy’n cael ei ystyried yn adeilad sy’n addas i’w droi'n gartref preswyl.

Adeiladau cymunedol ac adeiladau elusennol

Er nad yw’r cynllun yn berthnasol i adeilad sy’n mynd i gael ei ddefnyddio at ddibenion busnes, mae’n bosib y bydd yn berthnasol i godi adeilad preswyl cymunedol – megis cartref gofal newydd – neu adeilad elusennol.

Pwy all ddefnyddio'r cynllun?

Gallai unrhyw un sy’n prynu nwyddau cymwys ar gyfer prosiect sy’n gymwys i gael y rhyddhad hwn wneud hawliad. Does dim gwahaniaeth pwy sy’n gwneud y gwaith – gallwch ddefnyddio adeiladwyr i wneud rhan o’r gwaith neu’r gwaith i gyd.

Pwy na chaiff hawlio?

Ni chewch hawlio ad-daliad TAW ar eich gwaith adeiladu DIY os ydych chi’n defnyddio’r adeilad at ddibenion busnes. Felly ni chewch hawlio, er enghraifft, os ydych chi:

  • yn ddatblygwr hapfasnachol
  • yn landlord
  • yn rhedeg busnes gwely a brecwast
  • yn rhedeg cartref gofal â ffi
  • yn gymdeithas neu’n glwb i aelodau yn unig
  • yn rhedeg ysgol â ffi

Os byddwch yn gweithio o gartref – gan ddefnyddio un ystafell fel swyddfa – gallwch wneud hawliad o hyd.

Nwyddau a gwasanaethau y gallwch hawlio TAW yn ôl arnynt

Nwyddau

Dim ond am ddeunyddiau adeiladu y gallwch hawlio. Mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio diffiniad llym ar gyfer deunyddiau adeiladu. Caiff deunyddiau adeiladu eu cynnwys yn yr adeilad ei hun, neu yn y safle, sy’n golygu na allwch eu tynnu ymaith heb ddefnyddio offer ac achosi difrod i'r adeilad a/neu'r nwyddau eu hunain.

Fodd bynnag, ceir nifer o eithriadau. Nid yw eitemau megis dodrefn wedi’u gosod, rhai teclynnau trydan a nwy, carpedi nac addurniadau i’r ardd yn cyfrif fel deunyddiau adeiladu.

Nwyddau a brynwyd dramor

Gallwch adhawlio’r TAW a dalwyd ar ddeunyddiau adeiladu a brynwyd yn unrhyw un o aelod-wladwriaethau’r UE (Undeb Ewropeaidd). At ddibenion eich hawliad, dylech drosi swm y TAW a godwyd arnoch i bunnoedd sterling. Gallwch chi hefyd adhawlio’r TAW a dalwyd ar fewnforio deunyddiau adeiladu i’r UE. Pan fyddwch yn gwneud eich hawliad, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’r TAW a dalwyd, yn ogystal â'r dogfennau cludo gwreiddiol yn dangos bod y nwyddau wedi’u mewnforio o dramor.

Gwasanaethau

Os ydych chi’n codi adeilad newydd, dylai gwasanaethau eich adeiladwr fod ar gyfradd sero beth bynnag. Ni fyddwch yn talu dim TAW ar y bil.

Os ydych chi’n troi adeilad dibreswyl yn gartref, gallwch hawlio’r TAW a godwyd gan eich adeiladwr yn ôl. Ar gyfer adeiladau a gaiff eu troi'n gartrefi, gall adeiladwr weithiau godi cyfradd ostyngol arnoch yn hytrach na’r gyfradd TAW safonol.

Ni allwch adhawlio TAW a dalwyd ar unrhyw wasanaethau proffesiynol neu oruchwylio, megis gwaith a wneir i chi gan benseiri neu syrfewyr, nac unrhyw ffioedd eraill ar gyfer rheoli, ymgynghori, dylunio a chynllunio. Yn yr un modd, ni chewch adhawlio TAW a dalwyd ar wasanaethau megis llogi offer, teclynnau a chyfarpar.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU